Rheoliad 15
ATODLEN 7Mangreoedd rheoleiddiedig
Busnesau bwyd a diod
1. Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).
2. Tafarndai.
3. Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).
Llety gwyliau a llety teithio
4. Safleoedd gwersylla.
5. Safleoedd gwyliau.
6. Gwestai a llety gwely a brecwast.
7. Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).
Gwasanaethau cyhoeddus etc.
8. Gwasanaethau meddygol neu iechyd.
9. Gwasanaethau ailgylchu a gwastraff.
10. Canolfannau cymunedol.
11. Llyfrgelloedd a gwasanaethau archifau.
12. Addoldai.
13. Trefnwyr angladdau.
14. Amlosgfeydd.
15. Milfeddygon.
Gwasanaethau personol etc.
16. Salonau gwallt a barbwyr.
17. Salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis.
18. Gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio.
Hamdden a chymdeithasol etc.
19. Sinemâu.
20. Neuaddau cyngerdd a theatrau.
21. Casinos.
22. Neuaddau bingo.
23. Arcedau diddanu.
24. Alïau bowlio.
25. Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.
26. Meysydd chwarae.
27. Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.
28. Busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.
29. Amgueddfeydd ac orielau.
30. Rinciau sglefrio.
31. Parciau a chanolfannau trampolîn.
32. Parciau a chanolfannau sglefrio o dan do.
33. Sbaon.
34. Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).
35. Atyniadau i ymwelwyr.
Chwaraeon ac ymarfer corff
36. Cyfleusterau chwaraeon neu ymarfer corff, gan gynnwys stiwdios ffitrwydd o dan do a champfeydd.
37. Pyllau nofio.
38. Cyrtiau chwaraeon, lawntiau bowlio, cyrsiau golff a meysydd neu leiniau chwaraeon amgaeedig (boed yn yr awyr agored neu o dan do).
Manwerthu etc.
39. Unrhyw fusnes sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi mewn mangre fanwerthu, gan gynnwys—
(a)tai arwerthiant;
(b)delwriaethau ceir;
(c)marchnadoedd;
(d)siopau betio;
(e)canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion;
(f)fferyllfeydd (gan gynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist;
(g)banciau, cymdeithasau adeiladu a darparwyr gwasanaethau ariannol eraill;
(h)swyddfeydd post;
(i)gwasanaethau trwsio ceir ac MOT;
(j)marchnadoedd neu arwerthiannau da byw;
(k)golchdai a siopau sychlanhau;
(l)gorsafoedd petrol;
(m)busnesau tacsi neu logi cerbydau.
40. Canolfannau siopa ac arcedau siopa.
41. Cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau.
42. Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos.