Hysbysiad gwella mangreLL+C
1.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwella mangre”) i berson cyfrifol os yw’r swyddog yn ystyried—
(a)nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir ar y person gan reoliad 16 [F1, 17 neu 17A] , a
(b)bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.
(2) Rhaid i hysbysiad gwella mangre—
(a)pennu’r fangre y mae’n ymwneud â hi;
(b)pennu’r mesurau y mae’n ei gwneud yn ofynnol eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 16 [F2, 17 neu 17A] ;
(c)pennu terfyn amser y mae rhaid cymryd y mesurau oddi mewn iddo (na chaniateir iddo fod yn llai nag 48 awr sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad);
(d)rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.
(3) Yn yr Atodlen hon, mae i “person cyfrifol” yr ystyr a roddir gan reoliad 15(2).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 8 para. 1(1)(a) wedi eu hamnewid (20.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/57), rhlau. 1(2), 2(12)(a)(i)
F2Geiriau yn Atod. 8 para. 1(2)(b) wedi eu hamnewid (20.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/57), rhlau. 1(2), 2(12)(a)(ii)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)