xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 8LL+CGorfodi gofyniad i gymryd mesurau ataliol mewn mangre reoleiddiedig

Hysbysiad cau mangreLL+C

2.—(1Os yw naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni, caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau mangre”) i berson cyfrifol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r fangre, neu ran o’r fangre, gael ei chau.

(2Amod 1 yw—

(a)bod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi i’r person,

(b)bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried bod y person wedi methu â chymryd y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre o fewn y terfyn amser penodedig, ac

(c)bod y swyddog yn ystyried bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(3Amod 2 yw bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried—

(a)nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 16 [F1, 17 neu 17A] , a

(b)bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, (heb fod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi) yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(4Rhaid i hysbysiad cau mangre—

(a)cynnwys disgrifiad o’r fangre sydd i’w chau,

(b)pan fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r mesurau y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried—

(i)nad ydynt wedi eu cymryd, a

(ii)y mae rhaid eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person cyfrifol yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 16 [F2, 17 neu 17A] ,

(c)pan na fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 16 [F3, 17 neu 17A] ,

(d)yn y naill achos neu’r llall, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried bod cau’r fangre yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws,

(e)pennu’r cyfnod y mae’r hysbysiad yn cael effaith amdano, ac

(f)rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.

(5Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (4)(e) fod yn hwy na 672 o oriau (28 o ddiwrnodau) sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad.

(6Mae hysbysiad cau mangre yn cael effaith o’r amser y’i dyroddir neu o amser diweddarach a bennir yn yr hysbysiad.

(7Ni chaniateir dyroddi hysbysiad cau mangre mewn perthynas â mangre sy’n rhan o seilwaith hollbwysig (er enghraifft, mangre a ddefnyddir i gynhyrchu trydan neu gyflenwi dŵr) neu a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

(8Pan fo—

(a)swyddog gorfodaeth yn ystyried bod person cyfrifol wedi methu â chymryd y mesurau a bennir mewn hysbysiad gwella mangre o fewn y terfyn amser penodedig, a

(b)naill ai—

(i)hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi, neu

(ii)achos wedi ei ddwyn am drosedd,

mewn perthynas â’r methiant hwnnw,

caiff y swyddog gorfodaeth serch hynny ddyroddi hysbysiad cau mangre o dan is-baragraff (1).