Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Effaith hysbysiad cau mangreLL+C

3.—(1Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i hysbysiad cau mangre gymryd effaith, rhaid i’r person y’i dyroddir iddo sicrhau—

(a)bod y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi yn cael ei chau, a

(b)na chynhelir unrhyw fusnes neu na ddarperir unrhyw wasanaeth yn y fangre neu ohoni.

(2Ni chaiff unrhyw berson fynd i’r fangre, neu fod yn y fangre, sydd wedi ei chau o dan is-baragraff (1) heb esgus rhesymol.

(3At ddibenion is-baragraff (2), mae’r amgylchiadau pan fo gan berson esgus rhesymol yn cynnwys—

(a)pan fo’r person yn byw yn y fangre;

(b)pan fo’r person yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio hanfodol;

(c)pan fo’r person yn gwneud pethau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 16 a, phan fo’n berthnasol, reoliad 17 [F1neu 17A] , pan ganiateir i’r fangre fod ar agor;

(d)pan fo’r person yn swyddog gorfodaeth neu berson sy’n cynorthwyo swyddog gorfodaeth;

(e)pan fo’n angenrheidiol i’r person fod yn y fangre er mwyn osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 8 para. 3 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)