
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011
4. Yn rheoliad 3—
(a)yn lle’r pennawd rhodder “Anifeiliaid anwes”;
(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Yn ychwanegol at ofynion y Rheoliadau hyn, ni chaniateir symud cŵn, cathod a ffuredau sydd heb eu hesemptio gan baragraff (1) i Gymru o drydedd wlad oni bai eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion a nodir yn—
(a)pwyntiau (a) i (d) o Erthygl 10(1) o’r Rheoliad Anifeiliaid Anwes, yn ddarostyngedig i baragraff (1) o Erthygl 12 i’r Rheoliad hwnnw; a
(b)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/294 yn nodi’r rhestr o diriogaethau a thrydydd gwledydd a awdurdodir o ran mewnforio cŵn, cathod a ffuredau a’r dystysgrif iechyd anifeiliaid enghreifftiol ar gyfer mewnforion o’r fath.”
Yn ôl i’r brig