Offerynnau Statudol Cymru
2020 Rhif 1628 (Cy. 342)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020
Gwnaed
17 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno(2).
Yn unol â pharagraff 4(a) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch y darpariaethau yn y Rheoliadau hyn sy’n dod i rym cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
2018 p. 16; gweler adran 20(1) o’r Ddeddf honno am y diffiniad o “devolved authority”. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), a pharagraff 53(2) o Atodlen 5 iddi.
Mae’r cyfeiriad yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).