- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
15. Yn lle Atodlen 4 rhodder—
Rheoliad 26(a)
1. Enw, rhyw, dyddiad a man geni a chyfeiriad gan gynnwys ardal yr awdurdod lleol.
2. Os ywʼr darpar fabwysiadydd yn briod neu wedi ffurfio partneriaeth sifil ac os ywʼn gwneud cais ar ei ben ei hun am asesiad oʼi addasrwydd i fabwysiadu, y rhesymau dros hyn.
3. Manylion unrhyw achosion blaenorol mewn llys teulu y buʼr darpar fabwysiadydd yn cymryd rhan ynddynt.
4. Enwau a chyfeiriadau tri chanolwr a fydd yn rhoi geirda personol am y darpar fabwysiadydd, na chaiff mwy nag un ohonynt fod yn berthynas iddo.
5. Enw a chyfeiriad ymarferydd meddygol cofrestredig y darpar fabwysiadydd.
6. O ran y darpar fabwysiadydd—
(a)os ywʼn briod, dyddiad a man y briodas;
(b)os yw wedi ffurfio partneriaeth sifil, dyddiad a man cofrestruʼr bartneriaeth honno;
(c)os oes partner ganddo, manylion y berthynas honno.
7. Manylion unrhyw briodas, partneriaeth sifil neu berthynas flaenorol.
8. A ywʼr darpar fabwysiadydd wedi ymgartrefu neuʼn preswylioʼn arferol mewn rhan o Ynysoedd Prydain ac os ywʼn preswylioʼn arferol, ers pa bryd.
9. Manylion aelodau eraill o aelwyd y darpar fabwysiadydd (gan gynnwys unrhyw blant iʼr darpar fabwysiadydd pa un a ydynt yn preswylio ar yr aelwyd ai peidio).
Rheoliad 26(b)
1. Enw, dyddiad geni, rhyw, pwysau a thaldra.
2. Hanes iechyd teulu y rhieni, unrhyw frodyr a chwiorydd a phlant y darpar fabwysiadydd, gyda manylion unrhyw salwch corfforol neu salwch meddwl difrifol ac unrhyw glefyd neu anhwylder etifeddol.
3. Anffrwythlondeb neu resymau dros benderfynu peidio â chael plant (os ywʼn gymwys).
4. Hanes iechyd yn y gorffennol, gan gynnwys manylion unrhyw salwch corfforol neu salwch meddwl difrifol, anabledd, damwain, derbyn i ysbyty neu fynd i adran cleifion allanol, ac ym mhob achos unrhyw driniaeth a roddwyd.
5. Hanes obstetrig (os ywʼn gymwys).
6. Manylion unrhyw salwch presennol, gan gynnwys y driniaeth aʼr prognosis.
7. Manylion unrhyw yfed alcohol a all beri pryder neu a ywʼr darpar fabwysiadydd yn ysmygu neuʼn defnyddio cyffuriau syʼn creu arferiad.
8. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall y maeʼr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried y gall gynorthwyoʼr panel mabwysiadu aʼr asiantaeth fabwysiadu.
Rheoliad 30(1)
1. Llun a disgrifiad corfforol.
2. Tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol.
3. Cred grefyddol.
4. Y berthynas âʼr plentyn (os oes un).
5. Disgrifiad o bersonoliaeth a diddordebauʼr darpar fabwysiadydd.
6. Coeden deulu gyda manylion y darpar fabwysiadydd, brodyr a chwiorydd y darpar fabwysiadydd ac unrhyw blant y darpar fabwysiadydd, gydaʼu hoedrannau (neu eu hoedrannau pan fuont farw).
7. Cronoleg oʼr darpar fabwysiadydd ers ei eni.
8. Sylwadauʼr darpar fabwysiadydd am ei brofiad ei hun o gael ei rianta a sut y mae hyn wedi dylanwadu arno.
9. Manylion unrhyw brofiad sydd gan y darpar fabwysiadydd o ofalu am blant (gan gynnwys fel rhiant, llys-riant, rhiant maeth, gwarchodwr plant neu ddarpar fabwysiadydd) ac asesiad o alluʼr darpar fabwysiadydd yn hyn o beth.
10. Unrhyw wybodaeth arall syʼn dangos sut y maeʼr darpar fabwysiadydd ac unrhyw un arall syʼn byw ar aelwyd y darpar fabwysiadydd yn debygol o ymwneud â phlentyn sydd wediʼi leoli ar gyfer ei fabwysiadu gydaʼr darpar fabwysiadydd.
11. Disgrifiad o deulu ehangach y darpar fabwysiadydd aʼu rôl aʼu pwysigrwydd iʼr darpar fabwysiadydd aʼu rôl aʼu pwysigrwydd tebygol i blentyn sydd wediʼi leoli ar gyfer ei fabwysiadu gydaʼr darpar fabwysiadydd.
12. Gwybodaeth am gartref y darpar fabwysiadydd aʼr gymdogaeth y maeʼr darpar fabwysiadydd yn byw ynddi.
13. Gwybodaeth am gymuned leol y darpar fabwysiadydd, gan gynnwys i ba raddau y maeʼr teulu wedi integreiddio âʼi grwpiau cyfoedion, ei gyfeillgarwch aʼi rwydweithiau cymdeithasol.
14. Manylion hanes a chyraeddiadau addysgol y darpar fabwysiadydd a barn y darpar fabwysiadydd am sut y mae hyn wedi dylanwadu arno.
15. Manylion hanes cyflogaeth y darpar fabwysiadydd a sylwadauʼr darpar fabwysiadydd am sut y mae hyn wedi dylanwadu arno.
16. Cyflogaeth bresennol y darpar fabwysiadydd a barn y darpar fabwysiadydd am gyflawni cydbwysedd rhwng cyflogaeth a gofal plant.
17. Manylion incwm a gwariant y darpar fabwysiadydd.
18. Gwybodaeth am alluʼr darpar fabwysiadydd i—
(a)darparu ar gyfer anghenion plentyn, yn benodol anghenion emosiynol ac anghenion o ran datblygu ymddygiadol,
(b)rhannu hanes plentyn a materion emosiynol cysylltiedig, ac
(c)deall a chefnogi plentyn drwy deimladau posibl o golled a thrawma.
19. O ran y darpar fabwysiadydd—
(a)ei resymau dros ddymuno mabwysiadu plentyn,
(b)ei farn aʼi deimladau am fabwysiadu aʼi arwyddocâd,
(c)ei farn am ei allu i rianta,
(ch)ei farn am gyfrifoldeb rhiant aʼr hyn y maeʼn ei olygu,
(d)ei farn am amgylchedd cartref addas i blentyn,
(dd)ei farn am bwysigrwydd a gwerth addysg,
(e)ei farn aʼi deimladau am bwysigrwydd magwraeth grefyddol a diwylliannol plentyn, ac
(f)ei farn aʼi deimladau am gyswllt rhwng plentyn a’i rieni geni a pherthnasau eraill.
20. Barn aelodau eraill o aelwyd y darpar fabwysiadydd aʼr teulu ehangach mewn perthynas â mabwysiadu.
21. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall a allai gynorthwyoʼr panel mabwysiadu neuʼr asiantaeth fabwysiadu.
Rheoliad 30DD(2)
1. Nid yw rheoliad 22 yn gymwys.
2. Nid yw rheoliadau 24, 25 a 26 ond yn gymwys pan fo asiantaeth fabwysiadu yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
3. Nid yw rheoliadau 27 ac 28 yn gymwys.
4. Mae rheoliad 30 yn gymwys fel pe bai—
(a)paragraffau (1) a (4) wediʼu hepgor,
(b)y paragraff canlynol wediʼi roi yn lle paragraff (2)—
“(2) Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu baratoi adroddiad ysgrifenedig (“adroddiad y darpar fabwysiadydd”) syʼn cynnwys—
(a)pan foʼn gymwys, grynodeb wediʼi ysgrifennu gan ymarferydd iechyd cofrestredig yr asiantaeth, o gyflwr iechyd y darpar fabwysiadydd,
(b)pan foʼn gymwys, unrhyw sylwadau gan yr asiantaeth am y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 25,
(c)pan foʼn gymwys, unrhyw wybodaeth berthnasol a gafwyd gan yr asiantaeth o dan reoliad 26,
(ch)asesiad yr asiantaeth o addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn, a
(d)unrhyw wybodaeth arall y maeʼr asiantaeth yn ystyried ei bod yn berthnasol.”, ac
(c)“pan foʼn gymwys” wediʼi fewnosod ar ddechrau paragraff (6)(b).
5. Nid yw rheoliad 30A(3) yn gymwys.
6. Mae rheoliad 30B yn gymwys fel pe baiʼr paragraff canlynol wediʼi roi yn lle paragraff (1)—
“(1) Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu benderfynu a ywʼr darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn o fewn pedwar mis iʼr dyddiad y cafodd yr asiantaeth hysbysiad y darpar fabwysiadydd ei fod yn dymuno bwrw ymlaen âʼr broses cyn asesu.””
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys