Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

Newidiadau dros amser i: RHAN 1

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part 1:

RHAN 1LL+CRhagymadrodd

Enwi, cymhwyso a chychwynLL+C

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 27 Mawrth 2020.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Dehongli: cyffredinolLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “arolygydd iechyd planhigion” (“plant health inspector”) yw swyddog iechyd planhigion swyddogol a benodir gan Weinidogion Cymru;

ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) yw Gweinidogion Cymru, ac mae i’w ddehongli yn unol â rheoliad 6;

ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC” (“Council Directive 2000/29/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ynghylch mesurau i ddiogelu rhag cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion a rhag eu lledaenu yn y Gymuned(1);

ystyr “Cymru” (“Wales”) yw ardal gyfunol y siroedd a’r bwrdeistrefi sirol yng Nghymru (gweler Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2));

ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym;

ystyr “eitem a reoleiddir” (“regulated item”) yw—

(a)

unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y mae un [F1o’r rheolau iechyd planhigion] yn gymwys iddynt, heblaw unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall sy’n rhan o lwyth a reolir, neu

(b)

pla planhigion a reolir;

ystyr “Gorchymyn 2005” (“the 2005 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005(3);

ystyr “Gorchymyn 2018” (“the 2018 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018(4);

ystyr “llwyth a reolir” (“controlled consignment”) yw llwyth sy’n cynnwys unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall—

(a)

na chaniateir dod â hwy i [F2Brydain Fawr] heb dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn unol â’r canlynol—

(i)

Erthygl 72 neu 74 [F3o’r Rheoliad Iechyd Planhigion] ,

(ii)

F4...

(iii)

unrhyw un arall [F5o’r rheolau iechyd planhigion] , heblaw Erthygl 73 [F5o’r Rheoliad Iechyd Planhigion], neu

(b)

a allforiwyd o [F2Brydain Fawr] i drydedd wlad ac sy’n dychwelyd i [F2Brydain Fawr] ar ôl i’r drydedd wlad honno wrthod mynediad i’r wlad iddynt;

F6...

ystyr “pla planhigion” (“plant pest”) yw pla a fewn yr ystyr a roddir yn Erthygl 1(1) a (2) [F7o’r Rheoliad Iechyd Planhigion];

ystyr “pla planhigion a reolir” (“controlled plant pest”) yw—

(a)

pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodiad 2, [F82A,] 3 neu 4 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol,

(b)

F9...

(c)

pla planhigion sy’n destun unrhyw un arall [F10o’r rheolau iechyd planhigion] [F11, gan gynnwys pla planhigion cwarantin posibl o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 21(3)];

[F12ystyr “rheol iechyd planhigion” (“plant health rule”) yw rheol o’r fath a grybwyllir yn Erthygl 1(2)(g) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol;]

ystyr “Rheoliad Amodau Ffytoiechydol” (“Phytosanitary Conditions Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 yn sefydlu amodau unffurf i weithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion(5);

[F12ystyr “Rheoliad Iechyd Planhigion” (“Plant Health Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fesurau gwarchod rhag plâu planhigion(1);]

ystyr “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” (“EU Plant Health Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion [F13fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE](6);

ystyr “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” (“Official Controls Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion, i’r graddau y mae’n gymwys [F14i’r rheolau iechyd planhigion];

ystyr “SRFFf 15” (“ISPM 15”) yw’r Safon Ryngwladol ar Fesurau Ffytoiechydol Rhif 15 dyddiedig Mawrth 2002 ynghylch Canllawiau ynglŷn â rheoleiddio deunydd pecynnu pren mewn masnach ryngwladol, a baratowyd gan Ysgrifenyddiaeth y Confensiwn Rhyngwladol ar Warchod Planhigion a sefydlwyd gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig(7);

F15...

(2Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i eiriau ac ymadroddion sydd heb eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r geiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn ymddangos yn [F16y Rheoliad Iechyd Planhigion] neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd gan y geiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn [F16y Rheoliad Iechyd Planhigion] neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol (yn ôl y digwydd).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Dehongli: offerynnau’r UE ynglŷn ag iechyd planhigionLL+C

F173.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UELL+C

F184.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Erthygl 82 [F19o’r Rheoliad Iechyd Planhigion] : ystyr “close proximity”LL+C

5.—(1At ddibenion Erthygl 82 [F20o’r Rheoliad Iechyd Planhigion] , bernir bod mangre gweithredwr cofrestredig yn un sy’n agos at fangreoedd eraill i’r gweithredwr hwnnw, yn yr ystyr a roddir i “close proximity”, os oes unrhyw bwynt ar ffin ei man gweithredol, neu ar ffin unrhyw un neu ragor o’i fannau gweithredol, o fewn deng milltir i unrhyw bwynt ar ffin y man gweithredol, neu ar ffin unrhyw un neu ragor o’r mannau gweithredol, o’r fangre arall

(2Ym mharagraff (1), ystyr “man gweithredol”, mewn perthynas â mangre gweithredwr cofrestredig, yw—

(a)yn achos mangre a ddefnyddir yn llwyr gan y gweithredwr cofrestredig i gyflawni un neu ragor o’r gweithgareddau a grybwyllir yn Erthygl 65(1) [F21o’r Rheoliad Iechyd Planhigion] , y man sy’n ffurfio’r fangre honno;

(b)yn achos unrhyw fangre arall a ddefnyddir gan y gweithredwr cofrestredig i gyflawni un neu ragor o’r gweithgareddau a grybwyllir yn Erthygl 65(1) [F21o’r Rheoliad Iechyd Planhigion] , man o fewn y fangre a ddefnyddir gan y gweithredwr cofrestredig i gyflawni unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

(1)

OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/523 (OJ Rhif L 86, 28.3.2019, t. 41).

(3)

O.S. 2005/2517, a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/755 (Cy. 90). Ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

(4)

O.S. 2018/1064; ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

(5)

OJ Rhif L 319, 10.12.2019, t. 1.

(6)

OJ Rhif L 317, 23.11.2016, t. 4, a ddiwygiwyd gan Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1).

(7)

Ar gael oddi wrth Ysgrifenyddiaeth y Confensiwn Rhyngwladol ar Warchod Planhigion, AGPP-FAO, Viale Delle Terme di Caracalla, 00153, Rhufain, Yr Eidal ac yn https://www.ippc.int/int.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill