- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
38.—(1) Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n torri’r canlynol, neu’n methu â chydymffurfio â hwy—
(a)rheoliad 24(1), 25(1) neu 26(1);
(b)paragraff 2 neu 4 o Atodlen 1;
(c)paragraffau 2(1) neu (2), 5(1) neu (2), 11(1), 12(1), 13(1), 14(1), 15, 20(1), 21(7), 22(2), 27(1), 28(7), 29(2) neu 31(2) o Atodlen 2;
(d)un o ddarpariaethau Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3;
(e)un o ddarpariaethau’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3 (i’r graddau y mae’n gymwys i blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun un o reolau iechyd planhigion yr UE);
(f)darpariaeth mewn unrhyw ddeddfwriaeth arall yr UE a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 3;
(g)darpariaeth mewn unrhyw benderfyniad brys gan yr UE a bennir yn Atodlen 4.
(2) Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw beth a wneir o dan y canlynol, neu yn unol â hwy—
(a)awdurdodiad neu drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn, neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn;
(b)cymeradwyaeth a roddir o dan reoliad 13(6) neu gymeradwyaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 54(1);
(c)hysbysiad a roddir gan arolygydd iechyd planhigion neu awdurdod priodol o dan y Rheoliadau hyn, neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn.
39. Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n methu â chydymffurfio â’r canlynol—
(a)darpariaeth neu amod mewn hysbysiad a gyflwynwyd i’r person o dan y Rheoliadau hyn neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn,
(b)darpariaeth neu amod mewn awdurdodiad neu drwydded a roddwyd i’r person o dan y Rheoliadau hyn neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, neu
(c)darpariaeth neu amod mewn cyfarwyddyd a roddir o dan y Rheoliadau hyn.
40. Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan reoliad 38 neu 39 ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros dorri’r gwaharddiad neu’r gofyniad o dan sylw neu dros fethu â chydymffurfio â hwy.
41. Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw, at ddibenion sicrhau awdurdodiad neu drwydded neu at ddibenion sicrhau y dyroddir pasbort planhigion neu dystysgrif—
(a)yn fwriadol neu’n ddi-hid yn gwneud datganiad neu sylwadau sy’n ffug o ran manylyn perthnasol,
(b)yn fwriadol neu’n ddi-hid yn darparu dogfen neu wybodaeth sy’n ffug o ran manylyn perthnasol, neu
(c)yn fwriadol yn methu â datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol.
42.—(1) Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—
(a)yn dyroddi pasbort planhigion neu dystysgrif yn anonest,
(b)yn newid pasbort planhigion neu dystysgrif yn anonest, neu
(c)yn ailddefnyddio pasbort planhigion neu dystysgrif yn anonest.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “tystysgrif” yw tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio, tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio neu dystysgrif cyn-allforio.
43.—(1) Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—
(a)yn fwriadol yn rhwystro arolygydd iechyd planhigion neu berson awdurdodedig sy’n gweithredu i weithredu neu orfodi Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn,
(b)heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi i arolygydd iechyd planhigion neu berson awdurdodedig unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae’n rhesymol i’r arolygydd neu’r person awdurdodedig eu gwneud yn ofynnol at y dibenion hynny, neu
(c)yn methu â dangos dogfen neu gofnod pan fo awdurdod priodol neu arolygydd iechyd planhigion sy’n gweithredu i weithredu neu orfodi Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “person awdurdodedig” yw person a awdurdodwyd gan awdurdod priodol.
44. Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n datgelu unrhyw wybodaeth a gafwyd oddi wrth Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi o dan reoliad 34(1) ac—
(a)bod yr wybodaeth yn ymwneud â pherson y mae ei fanylion adnabod wedi eu pennu yn y datgeliad, neu y gellir eu casglu o’r datgeliad,
(b)bod y datgeliad yn ddatgeliad at ddiben heblaw’r un a bennir yn rheoliad 34(1), ac
(c)nad yw’r Comisiynwyr wedi rhoi eu cydsyniad i’r datgeliad ymlaen llaw.
45. Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan reoliad 44 brofi ei fod yn credu’n rhesymol—
(a)bod y datgeliad yn gyfreithlon, neu
(b)bod yr wybodaeth ar gael i’r cyhoedd yn flaenorol a hynny mewn modd cyfreithlon.
46.—(1) Pan fo trosedd o dan y Rhan hon wedi ei chyflawni gan gorff corfforedig ac y profir bod y drosedd—
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog,
mae’r swyddog, yn ogystal â’r corff corfforedig, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw—
(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i’r corff, neu
(b)person sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o’r fath.
(3) Os yw materion corff corfforedig yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd ac anweithredoedd aelod mewn cysylltiad â swyddogaethau’r aelod hwnnw o reoli fel y mae’n gymwys i un o swyddogion corff corfforedig.
47.—(1) Rhaid i achos am drosedd o dan y Rhan hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig gael ei ddwyn yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(2) At ddibenion achosion o’r fath—
(a)mae rheolau’r llys ynglŷn â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforedig, a
(b)mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (gweithdrefn ynglŷn â chyhuddiad o drosedd yn erbyn corfforaeth)(1) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (corfforaethau)(2) yn gymwys mewn perthynas â’r bartneriaeth neu’r gymdeithas fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.
(3) Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu ar gymdeithas anghorfforedig wedi ei chollfarnu o drosedd o dan y Rhan hon i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(4) Os profir bod trosedd o dan y Rhan hon a gyflawnwyd gan bartneriaeth—
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner,
mae’r partner, yn ogystal â’r bartneriaeth, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(5) Ym mharagraff (4), mae “partner” yn cynnwys person sy’n honni ei fod yn gweithredu fel partner.
(6) Os profir bod trosedd o dan y Rhan hon a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig (heblaw partneriaeth)—
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y gymdeithas, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath,
mae’r swyddog, yn ogystal â’r gymdeithas, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(7) Ym mharagraff (6), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig, yw—
(a)un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o’i chorff llywodraethu, neu
(b)person sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn swyddogaeth o’r fath.
48.—(1) Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 38(1), 39, 41, 42 neu 43 yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.
(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 44 yn agored—
(a)ar gollfarn ddiannod, i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na thri mis, i ddirwy neu i’r ddau;
(b)ar gollfarn ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i’r ddau.
1925 p. 86; diddymwyd adran 33 yn rhannol gan Atodlen 6 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952 (p. 55), ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 19 o Atodlen 8 i Ddeddf Llysoedd 1971 (p. 23) a pharagraff 71 o Atodlen 8, ac Atodlen 10, i Ddeddf Llysoedd 2003 (p. 39) (yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn O.S. 2004/2066).
1980 p. 43; diwygiwyd Atodlen 3 gan Atodlen 13 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p. 53) a pharagraff 51 o Atodlen 3, a Rhan 4 o Atodlen 37 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys