Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

RHAN 11LL+CTroseddau ynglŷn â deddfwriaeth iechyd planhigion

CyffredinolLL+C

38.—(1Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n torri’r canlynol, neu’n methu â chydymffurfio â hwy—

(a)rheoliad F1...26(1);

F2(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(c)paragraffau 2(1) neu (2), 5(1) neu (2), 11(1), 12(1), 13(1), 14(1), 15, 20(1), 21(7), 22(2), 27(1), 28(7), 29(2) neu 31(2) o Atodlen 2;

(d)un o ddarpariaethau [F3y Rheoliad Iechyd Planhigion] a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3;

(e)un o ddarpariaethau’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3 (i’r graddau y mae’n gymwys i blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun un [F4o’r rheolau iechyd planhigion] );

(f)darpariaeth mewn unrhyw ddeddfwriaeth [F5uniongyrchol] arall [F6a gymathwyd] a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 3;

[F7(fa)darpariaeth yn Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023 a bennir yn Atodlen 3A]

F8(g). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(2Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw beth a wneir o dan y canlynol, neu yn unol â hwy—

(a)awdurdodiad neu drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn, neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn;

(b)cymeradwyaeth a roddir o dan reoliad 13(6) neu gymeradwyaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 54(1);

(c)hysbysiad a roddir gan arolygydd iechyd planhigion neu awdurdod priodol o dan y Rheoliadau hyn, neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 38 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiadau etc.LL+C

39. [F9(1)]  Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n methu â chydymffurfio â’r canlynol—

(a)darpariaeth neu amod mewn hysbysiad a gyflwynwyd i’r person o dan y Rheoliadau hyn neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn,

(b)darpariaeth neu amod mewn awdurdodiad neu drwydded a roddwyd i’r person o dan y Rheoliadau hyn neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, neu

(c)darpariaeth neu amod mewn cyfarwyddyd a roddir o dan y Rheoliadau hyn.

[F10(2) Nid yw paragraff (1)(a) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan Atodlen 4A.]

Amddiffyniad: esgus rhesymolLL+C

40.  Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan reoliad 38 neu 39 ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros dorri’r gwaharddiad neu’r gofyniad o dan sylw neu dros fethu â chydymffurfio â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 40 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniolLL+C

41.  Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw, at ddibenion sicrhau awdurdodiad neu drwydded neu at ddibenion sicrhau y dyroddir pasbort planhigion [F11y DU][F12, label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon] neu dystysgrif—

(a)yn fwriadol neu’n ddi-hid yn gwneud datganiad neu sylwadau sy’n ffug o ran manylyn perthnasol,

(b)yn fwriadol neu’n ddi-hid yn darparu dogfen neu wybodaeth sy’n ffug o ran manylyn perthnasol, neu

(c)yn fwriadol yn methu â datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 41 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Defnyddio pasbortau planhigion [F13, labeli iechyd planhigion Gogledd Iwerddon] F14... neu dystysgrifau yn amhriodolLL+C

42.—(1Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—

(a)yn dyroddi pasbort planhigion [F15y DU] [F16, label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon] neu dystysgrif yn anonest,

(b)yn newid pasbort planhigion [F16, label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon] F17...neu dystysgrif yn anonest, neu

(c)yn ailddefnyddio pasbort planhigion [F16, label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon] F18... neu dystysgrif yn anonest.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “tystysgrif” yw tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio, tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio neu dystysgrif cyn-allforio.

RhwystroLL+C

43.—(1Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—

(a)yn fwriadol yn rhwystro arolygydd iechyd planhigion neu berson awdurdodedig sy’n gweithredu i weithredu neu orfodi [F19y Rheoliad Iechyd Planhigion], y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn,

(b)heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi i arolygydd iechyd planhigion neu berson awdurdodedig unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae’n rhesymol i’r arolygydd neu’r person awdurdodedig eu gwneud yn ofynnol at y dibenion hynny, neu

(c)yn methu â dangos dogfen neu gofnod pan fo awdurdod priodol neu arolygydd iechyd planhigion sy’n gweithredu i weithredu neu orfodi [F20y Rheoliad Iechyd Planhigion], y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.

[F21(2) Ym mharagraff (1)—

(a)ystyr “person awdurdodedig” yw person a awdurdodwyd gan awdurdod priodol;

(b)mae cyfeiriad at y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn cynnwys cyfraith [F22a gymathwyd] a fabwysiedir, neu reoliadau a wneir, o dan y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol ac unrhyw gyfraith iechyd planhigion arall [F22a gymathwyd].]

Trosedd ynglŷn â datgelu gwybodaeth a ddelir gan Gyllid a ThollauLL+C

44.  Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n datgelu unrhyw wybodaeth a gafwyd oddi wrth Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi o dan reoliad 34(1) ac—

(a)bod yr wybodaeth yn ymwneud â pherson y mae ei fanylion adnabod wedi eu pennu yn y datgeliad, neu y gellir eu casglu o’r datgeliad,

(b)bod y datgeliad yn ddatgeliad at ddiben heblaw’r un a bennir yn rheoliad 34(1), ac

(c)nad yw’r Comisiynwyr wedi rhoi eu cydsyniad i’r datgeliad ymlaen llaw.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 44 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Amddiffyniad: datgelu cyfreithlonLL+C

45.  Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan reoliad 44 brofi ei fod yn credu’n rhesymol—

(a)bod y datgeliad yn gyfreithlon, neu

(b)bod yr wybodaeth ar gael i’r cyhoedd yn flaenorol a hynny mewn modd cyfreithlon.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 45 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Troseddau gan gyrff corfforedigLL+C

46.—(1Pan fo trosedd o dan y Rhan hon [F23neu baragraff 22 o Atodlen 4A (methu â chydymffurfio ag hysbysiad stop)] wedi ei chyflawni gan gorff corfforedig ac y profir bod y drosedd—

(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog,

mae’r swyddog, yn ogystal â’r corff corfforedig, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw—

(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i’r corff, neu

(b)person sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o’r fath.

(3Os yw materion corff corfforedig yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd ac anweithredoedd aelod mewn cysylltiad â swyddogaethau’r aelod hwnnw o reoli fel y mae’n gymwys i un o swyddogion corff corfforedig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 46 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Troseddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedigLL+C

47.—(1Rhaid i achos am drosedd o dan y Rhan hon [F24neu baragraff 22 o Atodlen 4A (methu â chydymffurfio ag hysbysiad stop)] yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig gael ei ddwyn yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.

(2At ddibenion achosion o’r fath—

(a)mae rheolau’r llys ynglŷn â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforedig, a

(b)mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (gweithdrefn ynglŷn â chyhuddiad o drosedd yn erbyn corfforaeth)(1) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (corfforaethau)(2) yn gymwys mewn perthynas â’r bartneriaeth neu’r gymdeithas fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.

(3Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu ar gymdeithas anghorfforedig wedi ei chollfarnu o drosedd o dan y Rhan hon i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.

(4Os profir bod trosedd o dan y Rhan hon a gyflawnwyd gan bartneriaeth—

(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner,

mae’r partner, yn ogystal â’r bartneriaeth, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(5Ym mharagraff (4), mae “partner” yn cynnwys person sy’n honni ei fod yn gweithredu fel partner.

(6Os profir bod trosedd o dan y Rhan hon a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig (heblaw partneriaeth)—

(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y gymdeithas, neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath,

mae’r swyddog, yn ogystal â’r gymdeithas, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(7Ym mharagraff (6), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig, yw—

(a)un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o’i chorff llywodraethu, neu

(b)person sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn swyddogaeth o’r fath.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 47 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

CosbauLL+C

48.—(1Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 38(1), 39, 41, 42 neu 43 yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 44 yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na thri mis, i ddirwy neu i’r ddau;

(b)ar gollfarn ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i’r ddau.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 48 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

(1)

1925 p. 86; diddymwyd adran 33 yn rhannol gan Atodlen 6 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952 (p. 55), ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 19 o Atodlen 8 i Ddeddf Llysoedd 1971 (p. 23) a pharagraff 71 o Atodlen 8, ac Atodlen 10, i Ddeddf Llysoedd 2003 (p. 39) (yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn O.S. 2004/2066).

(2)

1980 p. 43; diwygiwyd Atodlen 3 gan Atodlen 13 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p. 53) a pharagraff 51 o Atodlen 3, a Rhan 4 o Atodlen 37 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44).