xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CGweithgareddau swyddogol i atal plâu planhigion rhag ymsefydlu neu ledaenu

RhagymadroddLL+C

14.—(1Mae’r Rhan hon yn gymwys os bydd arolygydd iechyd planhigion yn amau bod pla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig yn bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol, neu os bydd yn dod yn ymwybodol bod pla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig yn bresennol, ar unrhyw fangre yng Nghymru.

(2Yn y Rhan hon—

ystyr “deunydd gwaharddedig” (“prohibited material” yw—

(a)

planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall sy’n cario pla planhigion a reolir, neu sydd wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo, neu a allai fod yn cario pla planhigion a reolir, neu wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo;

(b)

planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y gwaherddir mynediad iddynt i [F1Brydain Fawr] o dan un [F2o’r rheolau iechyd planhigion];

(c)

planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y mae ei symud F3... i Gymru, yng Nghymru neu o Gymru, wedi ei wahardd o dan un [F4o’r rheolau iechyd planhigion];

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, gan gynnwys unrhyw dir, adeilad, cerbyd, llestr, awyren, hofrenfad, cynhwysydd llwythi, wagen reilffordd, trelar neu adeilad neu adeiledd symudol.

Hysbysiadau mewn perthynas â phlâu planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedigLL+C

15.—(1Caiff arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad i’r person priodol—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i’r person priodol drin, dinistrio neu waredu fel arall y pla planhigion a reolir neu’r deunydd gwaharddedig,

(b)yn gwahardd am y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad—

(i)symud unrhyw bla planhigion a reolir neu unrhyw ddeunydd gwaharddedig ymaith o’r fangre, neu

(ii)unrhyw weithgaredd y mae’r arolygydd o’r farn ei bod yn angenrheidiol ei wahardd er mwyn atal pla planhigion a reolir rhag ymsefydlu neu ledaenu,

(c)yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw bla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig gael eu symud ymaith o’r fangre, neu

(d)yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gamau eraill gael eu cymryd, fel y’u pennir yn yr hysbysiad, y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol er mwyn dileu’r pla planhigion a reolir neu i’w atal rhag ymsefydlu neu ledaenu.

(2Os oes gan arolygydd iechyd planhigion sail resymol dros gredu bod hynny’n angenrheidiol at ddiben atal unrhyw bla planhigion a reolir rhag lledaenu, neu sicrhau y dilëir unrhyw bla planhigion a reolir, o unrhyw fangre, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i’r meddiannydd yn gosod unrhyw waharddiad neu’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gam rhesymol gael ei gymryd at y diben hwnnw.

(3Ym mharagraff (1), ystyr “person priodol” yw—

(a)yn achos mangre a ddefnyddir gan weithredwr proffesiynol, y gweithredwr proffesiynol;

(b)yn achos unrhyw fangre arall—

(i)y meddiannydd neu unrhyw berson arall sydd â gofal am y fangre;

(ii)unrhyw berson arall sydd â gofal am y pla planhigion a reolir neu’r deunydd gwaharddedig yn y fangre honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 15 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Camau y caiff arolygydd iechyd planhigion eu cymrydLL+C

16.—(1Caiff arolygydd iechyd planhigion, o roi hysbysiad rhesymol, fynd i mewn i unrhyw fangre ac unrhyw fangre gyfagos at ddiben cymryd camau i wneud y canlynol—

(a)dileu neu ddinistrio unrhyw bla planhigion a reolir, neu ddelio ag ef fel arall,

(b)atal unrhyw bla planhigion a reolir rhag lledaenu, neu

(c)dinistrio neu drin unrhyw ddeunydd a heintiwyd, neu ddelio ag ef fel arall.

(2Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i arolygydd iechyd planhigion ddangos tystiolaeth o’i awdurdod cyn mynd i mewn i unrhyw fangre at y dibenion a bennir ym mharagraff (1).

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod 24 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd.

(4Caiff arolygydd iechyd planhigion ddod ag unrhyw bersonau eraill F5... gydag ef a chaiff ddod ag unrhyw offer a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol.

(5Caiff person sy’n dod gydag arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff (4)—

(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb arolygydd iechyd planhigion,

(b)dod ag unrhyw offer neu gerbydau i’r fangre y mae’r person o’r farn eu bod yn angenrheidiol, ac

(c)cyflawni gwaith yn y fangre mewn modd a gyfarwyddir gan arolygydd iechyd planhigion.

(6Ym mharagraff (1), ystyr “deunydd a heintiwyd” yw—

(a)planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall sy’n cario pla planhigion a reolir, neu sydd wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo, neu a allai fod yn cario pla planhigion a reolir, neu wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo;

(b)planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall nad yw’n cario pla planhigion a reolir, neu nad yw wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo, ond y gallai eu presenoldeb neu eu bodolaeth, ym marn arolygydd iechyd planhigion, beri i bla planhigion a reolir ledu neu gael ei ledaenu.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 16 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Sefydlu ardaloedd a ddarnodir a mesurau sydd i’w cymryd yn yr ardaloedd hynnyLL+C

17.—(1[F6Mae paragraff (2)] yn gymwys pan fo awdurdod priodol wedi cadarnhau’n swyddogol bresenoldeb pla planhigion a reolir nad yw’n hysbys ei fod yn bresennol yng Nghymru neu bresenoldeb pla planhigion a reolir mewn ardal o Gymru lle nad oedd yn bresennol o’r blaen.

(2Caiff awdurdod priodol drwy hysbysiad—

(a)darnodi ardal mewn perthynas â phresenoldeb y pla planhigion a reolir at ddiben dileu neu gyfyngu’r pla planhigion;

(b)pennu’r gwaharddiadau neu’r cyfyngiadau sydd i fod yn gymwys i’r ardal a ddarnodir at y diben hwnnw.

[F7(2A) Mae paragraff (2B) yn gymwys pan fo’r awdurdod cymwys mewn perthynas ag un arall o diriogaethau Prydain Fawr—

(a)wedi cadarnhau’n swyddogol fod pla planhigion y mae Erthygl 18 o’r Rheoliad Iechyd Planhigion yn gymwys iddo yn bresennol yn ei diriogaeth; a

(b)wedi hysbysu’r awdurdod cymwys mewn perthynas â Chymru, yn unol ag Erthygl 18(4A) o’r Rheoliad Iechyd Planhigion”, y dylai ardal ddarnodedig ymestyn i Gymru neu gael ei sefydlu yng Nghymru.

(2B) Caiff yr awdurdod cymwys drwy hysbysiad—

(a)darnodi ardal er mwyn dileu neu gyfyngu’r pla planhigion, neu er mwyn atal y pla rhag ymsefydlu yng Nghymru; neu

(b)cadarnhau’r bwriad i ddarnodi ardal yng Nghymru a hysbyswyd yn flaenorol i’r awdurdod cymwys gan awdurdod cymwys arall yn unol ag Erthygl 18(4A) o’r Rheoliad Iechyd Planhigion.

(2C) Caiff hysbysiad o dan baragraff (2B) bennu’r gwahardddiadau neu’r cyfyngiadau sydd i fod yn gymwys i’r ardal ddarnodedig at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a bennir yn y paragraff hwnnw.]

(3O ran hysbysiad o dan baragraff (2) [F8neu (2B)]

(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen;

(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled yr ardal a ddarnodir;

(c)rhaid iddo bennu ar ba ddyddiad y bydd unrhyw waharddiadau neu gyfyngiadau o’r fath yn cychwyn;

(d)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn modd sy’n briodol i ddod ag ef i sylw’r cyhoedd;

(e)caniateir iddo gael ei ddiwygio neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad arall.

[F9(4) Yn y rheoliad hwn, mae i “awdurdod cymwys” yr ystyr a roddir i “competent authority” gan Erthygl 2(6) o’r Rheoliad Iechyd Planhigion.]