xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CCofrestru, awdurdodiadau a thystysgrifau ynglŷn ag iechyd planhigion

Ceisiadau am gofrestruLL+C

19.  Rhaid i gais am gofrestru yn unol ag Erthygl 66(1) [F1o’r Rheoliad Iechyd Planhigion] sydd i’w gyflwyno i awdurdod priodol gael ei gyflwyno yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 19 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Ceisiadau eraillLL+C

20.—(1Rhaid i’r ceisiadau a ganlyn gael eu gwneud i’r awdurdod priodol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol—

(a)cais am awdurdodiad dros dro i ganiatáu gweithgaredd perthnasol at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dethol neu fridio amrywogaethau;

(b)cais am awdurdodiad y cyfeirir ato yn y darpariaethau a ganlyn yn [F2y Rheoliad Iechyd Planhigion]

(i)Erthygl 64(2),

(ii)Erthygl 89(1), neu

(iii)Erthygl 98(1);

(c)cais am ddyroddi tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio [F3neu] tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio F4....

(2Yn y rheoliad hwn—

ystyr “gweithgaredd perthnasol” yw gweithgaredd a fyddai fel arall wedi ei wahardd o dan [F5y Rheoliad Iechyd Planhigion] F6... neu [F7reol iechyd planhigion arall] ac sy’n golygu—

(a)

cyflwyno pla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall i Gymru,

(b)

symud pla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall yng Nghymru,

(c)

dal pla planhigion a reolir neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall ar fangre yng Nghymru, neu

(d)

lluosogi pla planhigion ar fangre yng Nghymru.

Awdurdodi at ddibenion eraillLL+C

21.[F8(1) Caiff yr awdurdod priodol roi awdurdodiad i ganiatáu—

(a)cyflawni unrhyw weithgaredd a bennir mewn rhanddirymiad iechyd planhigion,

(b)cyflwyno pla planhigion cwarantin posibl i Gymru, symud pla planhigion cwarantin posibl o fewn Cymru, neu ddal neu luosogi pla planhigion cwarantin posibl yng Nghymru, at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis neu fridio amrywogaethau, neu

(c)cyflawni unrhyw weithgaredd arall y mae cymeradwyaeth yr awdurdod priodol yn ofynnol ar ei gyfer o dan [F9, neu yn rhinwedd,] [F10y Rheoliad Iechyd Planhigion], y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol [F11, unrhyw reoliadau a wneir o dan y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol,] neu’r Rheoliadau hyn.]

(2Rhaid i gais am unrhyw awdurdodiad o’r fath gael ei wneud i’r awdurdod priodol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.

[F12(3) Ym mharagraff (1)—

ystyr “pla planhigion cwarantin posibl” (“potential quarantine plant pest”) yw pla planhigion nad yw’n bla cwarantin [F13Prydain Fawr neu’n bla cwarantin Prydain Fawr dros dro], ond sydd, ym marn yr awdurdod priodol, yn bodloni’r meini prawf a nodir yn Is-adran 1 o Adran 3 o Atodiad 1 i’r Rheoliad hwnnw neu y gallai fod yn bodloni’r meini prawf yn Is-adran 2 o’r Adran honno;

ystyr “rhanddirymiad iechyd planhigion” (“plant health derogation”) yw—

(a)

rhanddirymiad darpariaethau [F14y Rheoliad Iechyd Planhigion] a nodir [F15[F16mewn cyfraith a gymathwyd] neu reoliadau a wneir] o dan [F14y Rheoliad Iechyd Planhigion] neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol,F17...

(b)

F17...]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 21 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Awdurdodiadau a roddir gan awdurdod priodolLL+C

22.—(1Rhaid i awdurdodiad a roddir gan awdurdod priodol at ddibenion [F18y Rheoliad Iechyd Planhigion] [F19neu] y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol [F20neu at ddibenion y Rheoliadau hyn, neu oddi tanynt,] fod mewn ysgrifen a chaniateir iddo gael ei roi—

(a)o dan amodau;

(b)am gyfnod amhenodol ynteu am gyfnod penodol.

(2Caiff awdurdodiad a roddir gan awdurdod priodol ganiatáu i’r awdurdod priodol addasu’r awdurdodiad, ei atal dros dro neu ei ddirymu unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 22 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1