Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

RHAN 8LL+CGofynion o ran hysbysiadau: iechyd planhigion

Gofynion o ran hysbysiadau mewn perthynas â thatws hadydLL+C

F124.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofynion o ran hysbysiadau mewn perthynas â ffrwythau sitrwsLL+C

F225.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 25 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Gofynion o ran hysbysiadau mewn perthynas â phlanhigion a chynhyrchion planhigion eraillLL+C

26.—(1Rhaid i weithredwr proffesiynol sy’n dod ag [F3unrhyw bren tanwydd solet o drydedd wlad nad yw Erthygl 47(1) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn gymwys iddo] F4... i Gymru, cyn y dyddiad y maent yn cyrraedd Cymru neu heb fod yn hwyrach na phedwar diwrnod ar ôl y dyddiad y maent yn cyrraedd Cymru, roi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd iechyd planhigion ynglŷn â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)—

F5(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F5(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F5(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(2Dyma’r materion—

(a)y dyddiad y disgwylir i’r llwyth gyrraedd neu, os yw’r llwyth wedi cyrraedd Cymru, y dyddiad y cyrhaeddodd Gymru gyntaf;

(b)cyrchfan arfaethedig y llwyth, neu os yw’r llwyth wedi cyrraedd ei gyrchfan arfaethedig yng Nghymru, ei leoliad presennol;

(c)genws, rhywogaeth a nifer y F6... pren yn y llwyth;

(d)y wlad y traddodwyd neu y traddodir y F7...pren ohoni;

F8(e). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F9(f)cyfeiriad y traddodwr, ac

(g)manylion unrhyw driniaethau ffytoiechydol a roddwyd i’r pren.]

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “pren tanwydd solet” yw pren tanwydd ar ffurf logiau, plociau, brigau, ffagodau neu ffurfiau tebyg eraill.