Hysbysiadau o dan reoliad 8, 9 neu 10LL+C
11.—(1) Caiff hysbysiad o dan reoliad 8, 9 neu 10 gynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)y mesurau y mae’n rhaid i’r gweithredwr cyfrifol eu cymryd mewn perthynas â’r llwyth neu’r eitem i ynysu’r llwyth neu’r eitem neu eu gosod mewn cwarantin, neu i ymdrin fel arall â’r risg i iechyd planhigion sy’n deillio o’r llwyth neu’r eitem;
(b)pan fo arolygydd iechyd planhigion yn ei gwneud yn ofynnol i’r llwyth neu’r eitem gael eu dinistrio neu eu gwaredu fel arall, eu hailallforio neu eu trin, y mesurau y mae’n rhaid i’r gweithredwr cyfrifol eu cymryd i ddinistrio’r llwyth neu’r eitem neu i’w gwaredu fel arall, i’w hailallforio neu i’w trin;
(c)unrhyw fesurau eraill y mae’r arolygydd iechyd planhigion o’r farn eu bod yn briodol yng ngoleuni’r toriad tybiedig neu hysbys neu’r risg i iechyd planhigion yng Nghymru neu i unrhyw ran arall o [F1Brydain Fawr] sy’n deillio o’r llwyth neu’r eitem.
(2) Ym mharagraff (1), mae “gweithredwr cyfrifol” i’w ddehongli yn unol â rheoliad 8, 9 neu 10 (yn ôl y digwydd).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 11(1)(c) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 6(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 11 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1