Darpariaeth drosiannol: mannau arolygu a gymeradwywydLL+C
13.—(1) Yn ystod y cyfnod perthnasol caiff yr awdurdod priodol awdurdodi—
(a)cludo llwyth a reolir i fan arolygu a gymeradwywyd, a
(b)cyflawni gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion gan arolygydd iechyd planhigion mewn man arolygu a gymeradwywyd.
(2) Rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth a reolir ac a fwriedir ar gyfer man arolygu a gymeradwywyd—
(a)rhoi i’r awdurdod priodol y manylion a nodir ym mharagraff (3) drwy hysbysiad ysgrifenedig heb fod yn hwyrach na thri diwrnod gwaith cyn i’r llwyth gyrraedd Cymru,
(b)sicrhau bod y llwyth, ei becyn a’r cerbyd y caiff ei gludo ynddo yn cael eu cau neu eu selio yn y fath fodd fel nad oes risg i’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau yn y llwyth achosi heigiad, haint neu halogiad na risg y bydd newid yn digwydd yng nghynnwys y llwyth, ac
(c)sicrhau bod dogfen symud iechyd planhigion yn cyd-fynd â’r llwyth.
(3) Dyma’r manylion—
(a)enw, cyfeiriad a lleoliad y man arolygu a gymeradwywyd y mae’r llwyth wedi ei fwriadu iddo,
(b)y dyddiad a’r amser y trefnwyd i’r llwyth gyrraedd y man y cyfeirir ato yn is-baragraff (a),
(c)os yw ar gael, rhif cyfresol unigol y ddogfen symud iechyd planhigion mewn perthynas â’r llwyth hwnnw,
(d)os ydynt ar gael, y dyddiad a’r man y lluniwyd y ddogfen symud iechyd planhigion,
(e)enw, cyfeiriad a rhif cofrestru’r gweithredwr, ac
(f)rhif cyfeirnod y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n ofynnol mewn perthynas â’r llwyth yn unol ag Erthygl 72(1) neu 74(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE.
(4) Rhaid i’r gweithredwr hysbysu’r awdurdod priodol ar unwaith mewn ysgrifen am unrhyw newidiadau yn y manylion y mae’r gweithredwr wedi eu rhoi o dan baragraff (2)(a).
(5) Rhaid i’r hysbysiad gael ei roi i’r awdurdod priodol yn y cyfeiriad a roddir gan yr awdurdod priodol o bryd i’w gilydd at ddibenion y rheoliad hwn.
(6) At ddibenion paragraff (1) caiff awdurdod priodol gymeradwyo man y mae llwyth a reolir wedi ei fwriadu ar ei gyfer fel man lle y caniateir i wiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion gael eu cyflawni gan arolygydd iechyd planhigion yn ystod y cyfnod perthnasol.
(7) Rhaid i gais am gymeradwyaeth o dan baragraff (6) gael ei wneud i’r awdurdod priodol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.
(8) Caniateir i gymeradwyaeth gael ei rhoi o dan amodau, gan gynnwys amodau ynglŷn â storio llwythi a reolir, a chaniateir ei thynnu’n ôl unrhyw bryd os nad yw’r awdurdod priodol bellach yn credu bod y man y mae’r gymeradwyaeth yn ymwneud ag ef yn addas at y diben y rhoddwyd y gymeradwyaeth ar ei gyfer.
(9) Dim ond os yw’r man wedi ei gymeradwyo gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i’w ddefnyddio’n gyfleuster storio dros dro y caiff yr awdurdod priodol gymeradwyo man fel man arolygu a gymeradwywyd.
(10) Yn y rheoliad hwn—
F1...
ystyr “cyfleuster storio dros dro” (“temporary storage facility”) yw cyfleuster storio dros dro o fewn ystyr Erthygl 148 o Reoliad (EU) Rhif 952/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor yn gosod Cod Tollau’r Undeb(1);
ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu yn union cyn 14 Rhagfyr 2020;
[F2mae i “diwrnod gwaith” (“working day”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7(4);]
ystyr “dogfen symud iechyd planhigion” (“plant health movement document”) yw dogfen ar y ffurf a nodir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/103/EC ynghylch gwiriadau adnabod planhigion a gwiriadau iechyd planhigion ar blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill, a restrir yn Rhan B o Atodiad V i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC, a all gael eu cyflawni mewn man heblaw’r pwynt mynediad i’r Gymuned neu mewn man gerllaw ac sy’n pennu’r amodau sy’n gysylltiedig â’r gwiriadau hyn(2);
ystyr “man arolygu a gymeradwywyd” (“approved place of inspection”) yw man a gymeradwywyd yn fan arolygu gan awdurdod priodol o dan erthygl 17(1) o Orchymyn 2005 neu Orchymyn 2018 cyn y dyddiad cychwyn ac sy’n dal wedi ei gymeradwyo yn rhinwedd rheoliad 54(1), neu fan a gymeradwywyd o dan baragraff (6).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 13(10) wedi eu hepgor (13.11.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1134), rhlau. 1, 2(4)(a)
F2Geiriau yn rhl. 13(10) wedi eu mewnosod (13.11.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1134), rhlau. 1, 2(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 13 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
OJ Rhif L 269, 10.10.2013, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2019/632 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 111, 25.4.2019, t. 54).
OJ Rhif L 313, 12.10.2004, t. 16.