xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9Pwerau cyffredinol arolygwyr iechyd planhigion a gorfodi

Pwerau mynediad

28.—(1Caiff arolygydd iechyd planhigion fynd i mewn i unrhyw fangre ar adeg resymol at ddiben—

(a)cyflawni rheolaethau swyddogol i ddilysu—

(i)bod gweithredwr yn cydymffurfio â’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol,

(ii)bod gweithredwr proffesiynol yn cydymffurfio â Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE,

(iii)bod person yn cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, neu

(iv)bod unrhyw blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun un o reolau iechyd planhigion yr UE neu i’r gofynion yn Atodlen 1 yn cydymffurfio â’r rheol honno neu’r gofynion hynny;

(b)cyflawni gweithgareddau swyddogol eraill sydd i’w cyflawni gan yr awdurdod priodol yn unol â’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliadau hyn;

(c)gorfodi’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliadau hyn;

(d)dilysu gwybodaeth a roddwyd gan berson mewn cysylltiad â chais am gofrestriad neu am awdurdodiad neu drwydded a roddwyd, neu sydd i’w rhoi, o dan y Rheoliadau hyn;

(e)canfod a ydys yn cydymffurfio neu a gydymffurfiwyd ag amod mewn awdurdodiad neu drwydded a roddwyd gan awdurdod priodol o dan y Rheoliadau hyn neu at ddiben Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.

(2Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i arolygydd iechyd planhigion ddangos tystiolaeth o’i awdurdod cyn mynd i mewn i unrhyw fangre at y dibenion a bennir ym mharagraff (1).

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod 24 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd.

(4Caiff arolygydd iechyd planhigion sy’n mynd i mewn i fangre at ddiben a bennir ym mharagraff (1) neu o dan warant a ddyroddir gan ynad heddwch—

(a)archwilio, marcio neu dynnu ffotograff o unrhyw ran o’r fangre, unrhyw wrthrych yn y fangre neu unrhyw beth sydd wedi ei atodi i’r fangre neu fel arall yn ffurfio rhan ohoni;

(b)yn achos mangre sy’n cael ei defnyddio i weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren, archwilio neu brofi unrhyw gyfleuster trin, peiriannau, offer neu gyfarpar arall a ddefnyddir i weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren neu arsylwi a monitro’r broses o weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren;

(c)cymryd samplau—

(i)o unrhyw bla planhigion neu oddi arno,

(ii)o unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall neu oddi arnynt, neu

(iii)o unrhyw gynhwysydd, pecyn neu wrthrych sydd wedi bod neu a allai fod wedi bod mewn cysylltiad â phla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall neu oddi ar y rhain;

(d)agor unrhyw gynhwysydd neu becyn neu ei gwneud yn ofynnol i berchennog neu berson sydd â gofal am unrhyw gynhwysydd neu becyn agor y cynhwysydd neu’r pecyn;

(e)arolygu neu wneud copïau o unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cânt eu dal) sy’n ymwneud â chynhyrchu unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall, neu ag unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud â hwy.

(5Caiff arolygydd iechyd planhigion ddinistrio neu waredu fel arall unrhyw sampl a gymerir o dan y rheoliad hwn pan na fydd angen y sampl mwyach.

(6Caiff arolygydd iechyd planhigion—

(a)dod ag—

(i)cynrychiolydd o’r Comisiwn Ewropeaidd neu swyddog awdurdodedig i unrhyw awdurdod cymwys a ddynodwyd o fewn tiriogaeth yr Undeb at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, neu

(ii)unrhyw bersonau eraill y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol, a

(b)dod ag unrhyw offer a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol.

(7Caiff arolygydd iechyd planhigion sy’n dod â pherson a grybwyllir ym mharagraff (6)(a)(i)—

(a)dangos i’r person unrhyw ddogfennau neu gofnodion a arolygir gan yr arolygydd o dan baragraff (4)(e), a

(b)gwneud copïau, neu ei gwneud yn ofynnol bod copïau yn cael eu gwneud o’r dogfennau neu’r cofnodion hynny ar gyfer y person hwnnw.

(8Caiff person sy’n dod gydag arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff (6)(a)(ii)—

(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb arolygydd iechyd planhigion,

(b)dod ag unrhyw offer neu gerbydau i’r fangre y mae’r person o’r farn eu bod yn angenrheidiol, ac

(c)cyflawni gwaith yn y fangre mewn modd a gyfarwyddir gan arolygydd iechyd planhigion.