Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

Rheoliad 18

ATODLEN 1LL+CMesurau gwladol dros dro

DehongliLL+C

1.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “cyflwyno” yw cyflwyno i Gymru o drydedd wlad neu ran arall o diriogaeth yr Undeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

RHAN 1LL+CPlanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o drydydd gwledydd

Mesurau dros dro sy’n gymwys i gyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o drydydd gwledyddLL+C

2.—(1Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno unrhyw beiriannau neu gerbydau a ddefnyddiwyd ac a weithredwyd at ddibenion amaethyddiaeth neu goedwigaeth ac a allforiwyd o’r Swistir oni bai bod y peiriannau neu’r cerbydau—

(a)wedi eu hallforio o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad amddiffyn planhigion gwladol yn unol ag SRFFf 4 fel ardal sy’n rhydd rhag Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. & T.C. Harr., neu

(b)yn achos unrhyw beiriannau neu gerbydau a allforiwyd o ardal sydd wedi ei heigio â Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. & T.C. Harr., eu bod wedi eu glanhau a’u bod yn rhydd rhag gweddillion pridd a phlanhigion cyn eu symud allan o’r ardal.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “SRFFf 4” yw’r Safon Ryngwladol ar Fesurau Ffytoiechydol Rhif 4 dyddiedig Tachwedd 1995 ynghylch y gofynion ar gyfer sefydlu ardaloedd di-bla, a baratowyd gan Ysgrifenyddiaeth yr IPPC a sefydlwyd gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

RHAN 2LL+CPlanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ran arall o diriogaeth yr Undeb

Mesurau dros dro sy’n gymwys i gyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ran arall o diriogaeth yr UndebLL+C

3.  Yn y Rhan hon—

ystyr “datganiad swyddogol” (“official statement”) yw datganiad a ddyroddir gan gynrychiolydd awdurdodedig i’r awdurdod cymwys yn yr Aelod-wladwriaeth wreiddiol neu o dan ei oruchwyliaeth;

ystyr “Sbaen” (“Spain”) yw’r rhan honno o Sbaen sydd wedi ei chynnwys o fewn tiriogaeth yr Undeb at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, heblaw Ynysoedd Baleares;

ystyr “symud” (“move”) yw symud yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

4.  Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno na symud unrhyw blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill a ddisgrifir yng ngholofn 2 o Dabl 1 oni cheir datganiad swyddogol gyda hwy yn cadarnhau’r materion a nodir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 o’r Tabl hwnnw.

Tabl 1
(1)

(2)

Disgrifiad o’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill

(3)

Manylion y datganiad swyddogol

1.Cloron Solanum tuberosum L., gan gynnwys y rhai a fwriedir i’w plannu sy’n tarddu o Sbaen ac eithrio pan fo’r cloron hynny’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/270/EURhaid i’r datganiad swyddogol gadarnhau bod y cloron wedi eu golchi fel nad oes mwy na 0.1% o bridd ar ôl
2.Cloron Solanum tuberosum L., yn tarddu o Wlad Pwyl

Rhaid i’r datganiad swyddogol gadarnhau y cafwyd bod y cloron yn rhydd rhag

Clavibacter michiganensis ssp. Sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) David et al. mewn profion mewn labordy

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

(1)

Ar gael oddi wrth Ysgrifenyddiaeth yr IPPC, AGPP-FAO, Viale Delle Terme di Caracalla, 00153, Rhufain, Yr Eidal ac yn https://www.ippc.int/int.