- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 18
1. Yn yr Atodlen hon, ystyr “cyflwyno” yw cyflwyno i Gymru o drydedd wlad neu ran arall o diriogaeth yr Undeb.
2.—(1) Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno unrhyw beiriannau neu gerbydau a ddefnyddiwyd ac a weithredwyd at ddibenion amaethyddiaeth neu goedwigaeth ac a allforiwyd o’r Swistir oni bai bod y peiriannau neu’r cerbydau—
(a)wedi eu hallforio o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad amddiffyn planhigion gwladol yn unol ag SRFFf 4 fel ardal sy’n rhydd rhag Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. & T.C. Harr., neu
(b)yn achos unrhyw beiriannau neu gerbydau a allforiwyd o ardal sydd wedi ei heigio â Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. & T.C. Harr., eu bod wedi eu glanhau a’u bod yn rhydd rhag gweddillion pridd a phlanhigion cyn eu symud allan o’r ardal.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “SRFFf 4” yw’r Safon Ryngwladol ar Fesurau Ffytoiechydol Rhif 4 dyddiedig Tachwedd 1995 ynghylch y gofynion ar gyfer sefydlu ardaloedd di-bla, a baratowyd gan Ysgrifenyddiaeth yr IPPC a sefydlwyd gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig(1).
3. Yn y Rhan hon—
ystyr “datganiad swyddogol” (“official statement”) yw datganiad a ddyroddir gan gynrychiolydd awdurdodedig i’r awdurdod cymwys yn yr Aelod-wladwriaeth wreiddiol neu o dan ei oruchwyliaeth;
ystyr “Sbaen” (“Spain”) yw’r rhan honno o Sbaen sydd wedi ei chynnwys o fewn tiriogaeth yr Undeb at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, heblaw Ynysoedd Baleares;
ystyr “symud” (“move”) yw symud yng Nghymru.
4. Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno na symud unrhyw blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill a ddisgrifir yng ngholofn 2 o Dabl 1 oni cheir datganiad swyddogol gyda hwy yn cadarnhau’r materion a nodir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 o’r Tabl hwnnw.
(1) | (2) Disgrifiad o’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill | (3) Manylion y datganiad swyddogol |
---|---|---|
1. | Cloron Solanum tuberosum L., gan gynnwys y rhai a fwriedir i’w plannu sy’n tarddu o Sbaen ac eithrio pan fo’r cloron hynny’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/270/EU | Rhaid i’r datganiad swyddogol gadarnhau bod y cloron wedi eu golchi fel nad oes mwy na 0.1% o bridd ar ôl |
2. | Cloron Solanum tuberosum L., yn tarddu o Wlad Pwyl | Rhaid i’r datganiad swyddogol gadarnhau y cafwyd bod y cloron yn rhydd rhag Clavibacter michiganensis ssp. Sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) David et al. mewn profion mewn labordy |
Ar gael oddi wrth Ysgrifenyddiaeth yr IPPC, AGPP-FAO, Viale Delle Terme di Caracalla, 00153, Rhufain, Yr Eidal ac yn https://www.ippc.int/int.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys