- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
30.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi darnodi parth mewn perthynas â chadarnhad bod Pydredd coch tatws wedi ei ganfod o dan baragraff 26(3)(d) neu (4)(d).
(2) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, bennu rhagor o waharddiadau, cyfyngiadau a mesurau eraill a fydd yn gymwys yn y parth a ddarnodir i atal y risg y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru, yn benodol, bennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)—
(a)bod rhaid glanhau a, pan fo’n briodol, ddiheintio unrhyw beiriannau neu gyfleusterau storio mewn mangre o fewn y parth a ddarnodir a ddefnyddir i dyfu, i storio neu i drin cloron tatws neu domatos o fewn y parth, neu unrhyw fangre o fewn y parth y gweithredir peiriannau o dan gontract ar gyfer cynhyrchu tatws neu domatos ohoni, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu;
(b)yn achos cnydau tatws, mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn ystod y cyfnod penodedig;
(c)bod rhaid i datws a fwriedir i’w plannu gael eu trin ar wahân i’r holl datws eraill mewn mangre o fewn y parth neu fod rhaid gweithredu system lanhau a, pan fo’n briodol, ddiheintio rhwng trin tatws hadyd a thrin tatws bwyta yn ystod y cyfnod penodedig;
(d)yn achos cnydau tomatos, mai dim ond planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol neu, os cânt eu lluosogi yn llystyfol, blanhigion tomatos a gynhyrchir o hadau o’r fath ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn ystod y cyfnod penodedig;
(e)na chaniateir defnyddio dŵr wyneb halogedig ar gyfer dyfrhau na chwistrellu deunydd planhigion penodedig a, pan fo’n briodol, blanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws, heb awdurdodiad ysgrifenedig ymlaen llaw gan arolygydd iechyd planhigion;
(f)os oes gollyngiadau gwastraff hylifol wedi eu halogi, fod rhaid gwaredu unrhyw wastraff o fangre brosesu neu becynnu ddiwydiannol yn y parth sy’n trin deunydd planhigion penodedig o dan oruchwyliaeth arolygydd iechyd planhigion.
(4) O ran hysbysiad o dan is-baragraff (2)—
(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen,
(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled y parth a ddarnodir,
(c)rhaid iddo bennu mewn perthynas â phob mesur a yw’n gymwys yn gyffredinol ynteu i ardal o ddŵr wyneb yn y parth a ddarnodwyd,
(d)rhaid iddo bennu ar ba ddyddiad y bydd pob mesur yn cael effaith ac am ba hyd,
(e)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn modd sy’n briodol i ddod ag ef i sylw’r cyhoedd, ac
(f)caniateir iddo gael ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad arall.
(5) Rhaid trin unrhyw fangre sy’n rhannol o fewn parth a ddarnodir ac yn rhannol y tu allan iddo fel pe bai o fewn y parth hwnnw at ddibenion y paragraff hwn, ac eithrio pan nad yw’r rhan sydd y tu allan i’r parth a ddarnodir yng Nghymru.
(6) Rhaid trin hysbysiad a gyhoeddir yn unol ag is-baragraff (4) fel pe bai wedi ei gyflwyno—
(a)i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am unrhyw fangre o fewn y parth a ddarnodir;
(b)i unrhyw berson—
(i)sydd â hawl i ddefnyddio unrhyw ddŵr wyneb halogedig,
(ii)sydd ag unrhyw ddŵr wyneb halogedig ar fangre o fewn y parth a ddarnodir y mae’r person yn ei meddiannu neu y mae ganddo ofal amdani, a
(iii)sy’n gweithredu peiriannau neu sy’n cyflawni unrhyw weithgaredd arall mewn perthynas â chynhyrchu tatws neu domatos o fewn y parth a ddarnodir.
(7) Ni chaiff Gweinidogion Cymru bennu’r mesurau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3) ond pan fo’r parth wedi ei darnodi—
(a)mewn perthynas â’r mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (d) o’r is-baragraff hwnnw at ddibenion [F1paragraff 26(3)(d)];
(b)mewn perthynas â’r mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (e) ac (f) o’r is-baragraff hwnnw at ddibenion [F2paragraff 26(4)(d)].
(8) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—
(a)bod mangreoedd sy’n tyfu, yn storio neu’n trin cloron tatws a mangreoedd sy’n gweithredu peiriannau tatws o dan gontract yn cael eu goruchwylio gan arolygwyr iechyd planhigion yn ystod y cyfnod penodedig;
(b)bod arolwg swyddogol yn cael ei gynnal yn unol ag [F3EPPO PM 7/21] yn ystod y cyfnod penodedig;
(c)bod rhaglen yn cael ei sefydlu, pan fo’n briodol, i amnewid yr holl stociau tatws hadyd dros gyfnod priodol o amser.
(9) At ddibenion is-baragraffau (3) ac (8), rhaid i’r “cyfnod penodedig”, mewn perthynas â pharth a ddarnodir yn unol â pharagraff 26(3)(d) neu (4)(d) fod o leiaf dri thymor tyfu ar ôl y flwyddyn y darnodwyd y parth.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 2 para. 30(7)(a) wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 19(7)(a)(i)
F2Geiriau yn Atod. 2 para. 30(7)(b) wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 19(7)(a)(ii)
F3Geiriau yn Atod. 2 para. 30(8)(b) wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 19(7)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys