Newidiadau dros amser i: Paragraff 19
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 08/04/2021.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, Paragraff 19.
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
[ApelauLL+C
19.—(1) Caiff y person y cyflwynwyd hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gyflwyno.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn afresymol;
(d)bod unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol;
(e)nad yw’r person wedi cyflawni trosedd ac na fyddai wedi ei chyflawni pe na bai’r hysbysiad wedi ei gyflwyno;
(f)na fyddai’r person hwnnw, oherwydd unrhyw amddiffyniad, hawlen neu drwydded wedi bod yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;
(g)bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.]
Yn ôl i’r brig