Newidiadau dros amser i: Paragraff 21
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 08/04/2021.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, Paragraff 21.
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
[DigollediadLL+C
21.—(1) Rhaid i’r awdurdod priodol ddigolledu person am golled a ddioddefodd o ganlyniad i gyflwyno’r hysbysiad stop neu wrthod tystysgrif gwblhau os yw’r person hwnnw wedi dioddef colled o ganlyniad i’r hysbysiad neu’r gwrthodiad ac—
(a)bod yr hysbysiad stop wedi ei dynnu’n ôl neu wedi ei ddiwygio wedi hynny gan yr awdurdod priodol am fod y penderfyniad i’w gyflwyno yn afresymol neu am fod unrhyw gam a bennwyd yn yr hysbysiad yn afresymol,
(b)bod yr awdurdod priodol yn torri ei ymrwymiadau statudol,
(c)bod y person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn yr hysbysiad stop a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod cyflwyno’r hysbysiad yn afresymol, neu
(d)bod y person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad i wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod y gwrthodiad hwnnw yn afresymol.
(2) Caiff person apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu digollediad neu apelio yn erbyn swm y digollediad ar y seiliau—
(a)bod penderfyniad yr awdurdod priodol yn afresymol,
(b)bod y swm a gynigiwyd yn seiliedig ar ffeithiau anghywir, neu
(c)bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.]
Yn ôl i’r brig