[RHAN 2LL+CHysbysiadau stop
Hysbysiadau stopLL+C
17.—(1) Caiff yr awdurdod priodol gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad stop”) i unrhyw berson yn gwahardd y person hwnnw rhag cynnal gweithgaredd a bennir yn yr hysbysiad hyd nes y bydd y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Ni chaniateir ond cyflwyno hysbysiad stop—
(a)pan fo’r person yn cynnal y gweithgaredd neu pan fo’r awdurdod priodol yn credu’n rhesymol bod y person yn debygol o gynnal y gweithgaredd,
(b)pan fo’r awdurdod priodol yn credu’n rhesymol fod y gweithgaredd yn achosi, neu’n debygol o achosi, niwed economaidd neu amgylcheddol, neu effeithiau andwyol ar iechyd planhigion, ac
(c)pan fo’r awdurdod priodol yn credu’n rhesymol bod y gweithgaredd sy’n cael ei gynnal, neu sy’n debygol o gael ei gynnal, gan y person hwnnw yn cynnwys neu’n debygol o gynnwys cyflawni trosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn.
(3) Rhaid i’r camau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) fod yn gamau i ddileu’r risg y cyflawnir y drosedd.
Cynnwys hysbysiad stopLL+C
18. Rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth o ran—
(a)y seiliau dros gyflwyno’r hysbysiad stop,
(b)y gweithgaredd a waherddir,
(c)y camau y mae rhaid i’r person eu cymryd i gydymffurfio â’r hysbysiad stop ac o fewn pa gyfnod y mae rhaid iddynt gael eu cwblhau,
(d)hawliau i apelio, ac
(e)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.
ApelauLL+C
19.—(1) Caiff y person y cyflwynwyd hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gyflwyno.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn afresymol;
(d)bod unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol;
(e)nad yw’r person wedi cyflawni trosedd ac na fyddai wedi ei chyflawni pe na bai’r hysbysiad wedi ei gyflwyno;
(f)na fyddai’r person hwnnw, oherwydd unrhyw amddiffyniad, hawlen neu drwydded wedi bod yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;
(g)bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.
Tystysgrifau cwblhauLL+C
20.—(1) Rhaid i’r awdurdod priodol ddyroddi tystysgrif (“tystysgrif gwblhau”) os, ar ôl cyflwyno hysbysiad stop, yw’r awdurdod priodol wedi ei fodloni bod y person y’i cyflwynwyd iddo wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Mae hysbysiad stop yn peidio â chael effaith pan ddyroddir tystysgrif gwblhau.
(3) Caiff yr awdurdod priodol ei gwneud yn ofynnol i’r person y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddo ddarparu gwybodaeth sy’n ddigonol i benderfynu y cymerwyd y camau a bennir yn yr hysbysiad.
(4) Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad stop iddo ar unrhyw adeg wneud cais am dystysgrif gwblhau.
(5) Rhaid i’r awdurdod priodol benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif gwblhau, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad i’r ceisydd (gan gynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio), o fewn 14 o ddiwrnodau o gael y cais.
(6) Caiff y ceisydd apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau ar y seiliau fod y penderfyniad—
(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)yn anghywir mewn cyfraith;
(c)yn annheg neu’n afresymol;
(d)yn anghywir am unrhyw reswm arall.
DigollediadLL+C
21.—(1) Rhaid i’r awdurdod priodol ddigolledu person am golled a ddioddefodd o ganlyniad i gyflwyno’r hysbysiad stop neu wrthod tystysgrif gwblhau os yw’r person hwnnw wedi dioddef colled o ganlyniad i’r hysbysiad neu’r gwrthodiad ac—
(a)bod yr hysbysiad stop wedi ei dynnu’n ôl neu wedi ei ddiwygio wedi hynny gan yr awdurdod priodol am fod y penderfyniad i’w gyflwyno yn afresymol neu am fod unrhyw gam a bennwyd yn yr hysbysiad yn afresymol,
(b)bod yr awdurdod priodol yn torri ei ymrwymiadau statudol,
(c)bod y person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn yr hysbysiad stop a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod cyflwyno’r hysbysiad yn afresymol, neu
(d)bod y person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad i wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod y gwrthodiad hwnnw yn afresymol.
(2) Caiff person apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu digollediad neu apelio yn erbyn swm y digollediad ar y seiliau—
(a)bod penderfyniad yr awdurdod priodol yn afresymol,
(b)bod y swm a gynigiwyd yn seiliedig ar ffeithiau anghywir, neu
(c)bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.
TroseddauLL+C
22. Os nad yw person y cyflwynir hysbysiad stop iddo yn cydymffurfio â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, mae’r person yn euog o drosedd ac yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.]