xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
10.—(1) Heb gyfyngu ar bwerau Gweinidogion Cymru o dan reoliad 7, pan fo taliad yn dod i’w wneud gan berson cymwys mewn cysylltiad ag atebolrwydd perthnasol ac na fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad eto o dan reoliad 7 o ran a oes taliad i’w wneud mewn cysylltiad â’r atebolrwydd perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad ar gyfrif mewn cysylltiad â’r atebolrwydd perthnasol.
(2) Caniateir i daliad ar gyfrif gael ei wneud i berson cymwys neu ar ei ran.
(3) Pan fo swm unrhyw daliad ar gyfrif yn fwy nag unrhyw swm y penderfynir arno wedi hynny o dan reoliad 7, mae’r gweddill yn adenilladwy oddi wrth y person cymwys neu’r person y gwnaed y taliad ar gyfrif iddo.
(4) Pan na fo unrhyw daliad i’w wneud o dan reoliad 7 mewn cysylltiad ag atebolrwydd perthnasol, mae unrhyw daliad ar gyfrif a wneir mewn cysylltiad ag atebolrwydd perthnasol yn adenilladwy oddi wrth y person cymwys neu’r person y gwnaed y taliad ar gyfrif iddo.