Enwi a dehongli
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2020.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Ymarfer” yw’r Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, y gosodwyd drafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Chwefror 2020 ac a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 31 Mawrth 2020.