xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i achosion o heintio neu ledaenu heintiau neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a achosir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau’n disodli Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cau Busnes) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020, a ddirymir gan reoliad 2, ac maent yn gwneud darpariaeth bellach.

Mae’r Rheoliadau yn gosod cyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill. Yn unol â rheoliad 3, mae’r cyfyngiadau hyn yn gymwys ar gyfer “cyfnod yr argyfwng”. Mae’r cyfnod hwn yn parhau hyd nes y rhoddir cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru yn pennu bod y cyfyngiadau, neu unrhyw un cyfyngiad (neu ran o gyfyngiad), yn cael ei derfynu. Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru barhau i adolygu’r angen am y cyfyngiadau bob 21 diwrnod.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol cau mangre, a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau, lle y gwerthir bwyd a diod yn y fangre. Caniateir parhau i werthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre (ond rhaid gwneud hyn yn unol â rheoliad 6 (1)). Mae rheoliad 4 hefyd yn gwahardd, yn ddarostyngedig i eithriadau cyfyngedig penodol, cynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth sydd wedi ei restru yn Rhan 2 neu Ran 3 o Atodlen 1. Mae un eithriad yn caniatáu i rai mangreoedd busnes fod yn agored, ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol, er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus brys.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth benodol ynghylch llety gwyliau (gan gynnwys gwestai a thai byrddio). Mae’r rheoliad hwn yn darparu bod y gofyniad (yn rheoliad 4) i gau safleoedd gwyliau (safleoedd cartrefi symudol at ddefnydd gwyliau yn unig neu na ellir eu meddiannu drwy gydol y flwyddyn) a safleoedd gwersylla, yn cynnwys rhwymedigaeth ar berchnogion y safleoedd hyn i wneud eu gorau glas i sicrhau fod pobl yn gadael yr eiddo. Mae rheoliad 5 hefyd yn nodi eithriadau i’r gofyniad (yn rheoliad 4) i gau gwestai a mathau tebyg o lety.

Mae rheoliad 6 yn gymwys i rai busnesau a gwasanaethau penodol a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1 y caniateir iddynt barhau ond y mae’n rhaid iddynt wneud hynny yn ddarostyngedig i’r amodau a bennir.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth benodol ynghylch addoldai, amlosgfeydd a chanolfannau cymunedol y mae’n rhaid iddynt gau yn ddarostyngedig i rai eithriadau penodol. Mae’r eithriadau yn cynnwys darparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol i bobl ddigartref neu bobl sy’n agored i niwed ac, ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol, i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus brys.

Mae rheoliad 8 yn gosod cyfyngiadau ar symud a chynulliadau. Mae hyn yn darparu na chaiff neb adael y man lle y mae’n byw ynddo heb esgus rhesymol (mae enghreifftiau o’r rhain wedi eu rhestru). Mae hefyd yn darparu na chaiff neb gymryd rhan mewn cynulliad o fwy na dau berson mewn man cyhoeddus ac eithrio o dan amgylchiadau penodol.

Mae rheoliad 9 yn gosod gofyniad ar awdurdodau lleol, awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gau rhai llwybrau cyhoeddus a thir sy’n hygyrch i’r cyhoedd. Nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r darpariaethau hyn ond mae rhaid i’r cyrff y gosodir dyletswydd arnynt i gau llwybrau troed a thir gadw’r angen i gau o dan ystyriaeth.

Mae rheoliad 10 yn ymwneud â gorfodi’r cyfyngiadau a osodir gan y Rheoliadau, sy’n cynnwys pŵer mynediad y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 11. Mae rheoliad 12 yn darparu bod person sydd, heb esgus rhesymol, yn mynd yn groes i’r gofynion (rhestredig) yn y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd. Gellir cosbi’r drosedd honno drwy ddirwy ddiderfyn. Mae rheoliad 13 yn caniatáu i droseddau gael eu cosbi drwy hysbysiad cosb benodedig ac mae rheoliad 14 yn ymwneud ag erlyn troseddau o dan y Rheoliadau.

Mae rheoliad 15 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn dod i ben ar 26 Medi 2020, ond nid yw’r ffaith bod y Rheoliadau yn dod i ben yn effeithio ar ddilysrwydd camau a gymerir o dan y Rheoliadau cyn iddynt ddod i ben.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i baratoi ynglŷn â chost a budd tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.