Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

Newidiadau dros amser i: Adran 5

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 13/07/2020.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Gofyniad i gau mangreoedd a busnesau yn ystod cyfnod yr argyfwng: darpariaeth benodol ynghylch llety gwyliau etc.LL+C

5.—(1I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i safle gwyliau neu safle gwersylla (yn rhinwedd ei restru yn Rhan 3 o Atodlen 1), mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes (“P”) yn cynnwys rhwymedigaeth ar P i wneud ei orau glas i sicrhau fod unrhyw berson sy’n aros ar y safle pan yw’r busnes wedi peidio â chael ei gynnal yn gadael y fangre.

(2Ond nid yw’r rhwymedigaeth ym mharagraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson sy’n defnyddio cartref symudol ar safle gwyliau i’w fyw ynddo gan bobl o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(1) yn gymwys iddo.

[F1(3) I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i unrhyw fusnes arall a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes yn gymwys yn ddarostyngedig i’r angen i ddarparu llety i unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac—

(a)na allant ddychwelyd i’w prif breswylfa, neu

(b)sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa.

(3A) I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i fusnes a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes yn gymwys yn ddarostyngedig i’r angen—

F2(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(b)i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar-lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.]

[F3(3B) Mae paragraff (3C) yn gymwys pan fo mangre a ddefnyddir ar gyfer busnes a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1 wedi ei defnyddio—

(a)i ddarparu llety yn unol â pharagraff (3), neu

(b)i gynnal y busnes yn unol â pharagraff (3A).

(3C) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes, yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(a)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),

(b)nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac

(c)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).]

(4Yn y rheoliad hwn ac yn Rhan 3 o’r Atodlen, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—

(a)wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu

(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.

(5At ddibenion penderfynu pa un a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—

(a)y person sy’n berchennog y safle, neu

(b)person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(2) yn gymwys iddo.

(1)

2013 dccc 6 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7).

(2)

2013 dccc 6 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill