Newidiadau dros amser i: Adran 6A
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 13/07/2020.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
[Cyfyngiad cyffredinol ar fannau gwaithLL+C
6A.—(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am waith a gyflawnir mewn mangre lle mae person yn gweithio, pan yw gwaith o’r fath yn cael ei gyflawni yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr).
[(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fangre—
(a)a ddefnyddir i gynnal busnes, neu ddarparu gwasanaeth, a restrir yn Atodlen 1, neu
(b)y mae rheoliad 6(2A) yn gymwys iddi.]]
Yn ôl i’r brig