Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 13/07/2020.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
8.—(1) Yn ystod cyfnod yr argyfwng, ni chaiff unrhyw berson adael y man lle y mae’n byw [F1neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw] heb esgus rhesymol.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen—
[F2(a)i gael cyflenwadau oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1 gan gynnwys—
(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini yn yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid yn yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;
(aa)i gael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau 38 neu 39 o Atodlen 1 neu i adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;]
[F3(b)i wneud ymarfer corff, ddim mwy nag unwaith y dydd (neu’n amlach os oes angen hyn oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd penodol), naill ai—
(i)ar ei ben ei hun,
(ii)gydag aelodau eraill o aelwyd y person, neu
(iii)gyda gofalwr y person;]
(c)i geisio cymorth meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 42 o Atodlen 1 neu i gael mynediad at wasanaethau milfeddygol;
(d)i ddarparu gofal neu gymorth, gan gynnwys gofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(1), i berson hyglwyf, neu i ddarparu [F4cynhorthwy] brys [F5“i unrhyw berson];
(e)i roi gwaed;
(f)i deithio at ddibenion gwaith neu i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, pan na fo’n rhesymol ymarferol i’r person hwnnw weithio, neu ddarparu’r gwasanaethau hynny, o’r man lle y mae’n byw;
(g)i fynd i angladd—
[F6(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd.]
[F7(ga)i ymweld â mynwent, claddfa neu ardd goffa i dalu teyrnged i berson ymadawedig;]
(h)i fodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(i)i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol, gan gynnwys—
(i)gofal plant neu gyfleusterau addysgol (pan fo’r rhain yn dal i fod ar gael i [F8blentyn y mae’r person yn rhiant mewn perthynas ag ef, neu y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto, neu ofal drosto]);
(ii)gwasanaethau cymdeithasol;
(iii)gwasanaethau a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau;
(iv)gwasanaethau a ddarperir i ddioddefwyr (megis dioddefwyr trosedd neu drais domestig);
(j)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw yn yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, i barhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(k)yn achos gweinidog yr efengyl neu arweinydd addoli, i fynd i’w fan addoli;
(l)i symud tŷ pan [F9na fo modd gohirio’r symud];
(m)i osgoi anaf neu salwch neu i ddianc rhag risg o [F10niwed] .
(3) At ddibenion paragraff (1), mae’r man lle y mae person yn byw yn cynnwys y fangre lle y mae’n byw ynghyd ag unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, garej, tŷ allan neu unrhyw atodyn i fangre o’r fath.
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson sy’n ddigartref.
(5) Yn ystod cyfnod yr argyfwng, ni chaiff unrhyw berson gymryd rhan mewn cynulliad mewn man cyhoeddus o fwy na dau berson ac eithrio—
(a)pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd,
(b)pan fo’r cynulliad yn hanfodol at ddibenion gwaith,
(c)i fynd i angladd, neu
(d)pan fo’n angenrheidiol—
(i)i hwyluso symud tŷ,
(ii)i ddarparu gofal neu gynhorthwy i berson hyglwyf, yn cynnwys gofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006,
(iii)i ddarparu cynhorthwy brys [F11i unrhyw berson], neu
(iv)i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol, neu gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 8(1) wedi eu mewnosod (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 4(2)
F2Rhl. 8(2)(a)(aa) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 8(2)(a) (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 4(3)(a)
F3Rhl. 8(2)(b) wedi ei amnewid (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 4(3)(b)
F4Gair yn rhl. 8(2)(d) wedi ei amnewid (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 6(8)(a)(i)
F5Geiriau yn rhl. 8(2)(d) wedi eu mewnosod (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 6(8)(a)(ii)
F6Rhl. 8(2)(g)(i)-(iii) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 8(2)(g)(i)-(iv) (7.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/399), rhlau. 1(1), 6
F7Rhl. 8(2)(ga) wedi ei fewnosod (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 4(3)(c)
F8Geiriau yn rhl. 8(2)(i)(i) wedi eu hamnewid (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 4(3)(d)(i)
F9Geiriau yn rhl. 8(2)(l) wedi eu hamnewid (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 4(3)(e)
F10Geiriau yn rhl. 8(2)(m) wedi eu hamnewid (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 6(8)(b)
F11Geiriau yn rhl. 8(5)(d)(iii) wedi eu mewnosod (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 6(8)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
2006 p. 47. Rhoddwyd is-baragraff (3B), ar y cyd ag is-baragraffau (1), (3) a (3A) i (3E), yn lle is-baragraffau (1) i (3) gan adran 66(2) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys