Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

2.—(1Caffis, gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle (yn ddarostyngedig i is-baragraff (2)), ond heb gynnwys—LL+C

(a)caffis neu ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal neu ysgol;

(b)ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r awyrlu neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn;

(c)gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i’r digartref.

(2Caiff ffreuturau yn y gweithle aros ar agor—

(a)pan na fo dewis arall ymarferol i staff yn y gweithle hwnnw i gael bwyd; a

(b)[F1pan gymerir pob mesur] rhesymol i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng unrhyw berson sy’n defnyddio’r ffreutur.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)