Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020

Newidiadau dros amser i: RHAN 5

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020, RHAN 5. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 5LL+CDiwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anifeiliaid, bwyd a masnach

Diwygio Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 2006LL+C

17.  Yn erthygl 3(1) o Orchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 2006(1), yn y diffiniad o “health marked”, yn lle’r geiriau o “required by” hyd at y diwedd, rhodder “as defined in Article 3(51) of Regulation (EU) 2017/625 of the European Parliament and of the Council on official controls and other official activities performed to ensure the application of food and feed law, rules on animal health and welfare, plant health and plant protection products(2)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 17 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Clwy’r Traed a’r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006LL+C

18.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Clwy’r Traed a’r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006(3), yn lle’r diffiniad o “yn dwyn marc iechyd” rhodder—

ystyr “yn dwyn marc iechyd” (“health marked”) yw yn dwyn y marc iechyd fel y diffinnir “health mark” yn Erthygl 3(51) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(4);.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 18 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 2006LL+C

19.  Yn erthygl 11(2)(b)(ii) o Orchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 2006(5), yn lle’r geiriau “Chapter VIII” hyd at y diwedd, rhodder “Article 18 of Regulation (EU) 2017/625 of the European Parliament and of the Council on official controls and other official activities performed to ensure the application of feed and food law, rules on animal health and welfare, plant health and plant protection products(6)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 19 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006LL+C

20.  Yn Atodlen 1 i Orchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006(7), yn Rhan 3, ym mharagraff 9(2)(a), yn lle’r geiriau “Sections I, II and III, and Chapters V” hyd at y diwedd, rhodder “Article 18 of Regulation (EU) 2017/625 of the European Parliament and of the Council on official controls and other official activities performed to ensure the application of food and feed law, rules on animal health and welfare, plant health and plant protection products(8)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 20 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007LL+C

21.  Yn erthygl 20(2) o Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007(9), hepgorer is-baragraff (g).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 21 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007LL+C

22.—(1Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 5A—

(a)ym mharagraff 1—

(i)yn y diffiniad o “milfeddyg swyddogol”, yn lle “Rheoliad 854/2004” rhodder “Rheoliad (EU) 2017/625”,

(ii)hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 854/2004”, a

(iii)ar y diwedd mewnosoder—

ystyr “Rheoliad (EU) 2017/625” (“Regulation (EU) 2017/625”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(11).;

(b)ym mharagraff 15(1), yn lle “Reoliad 854/2004” rhodder “Reoliad (EU) 2017/625”.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 22 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011LL+C

23.—(1Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle’r diffiniad o “deunydd genetig” rhodder—

ystyr “deunydd genetig” (“genetic material”) yw unrhyw gynnyrch cenhedlol sy’n cynnwys semen, öosytau ac embryonau a fwriedir ar gyfer atgenhedlu artiffisial ac wyau deor;,

(ii)yn lle’r diffiniad o “cynnyrch” rhodder—

ystyr “cynnyrch” (“product”) yw—

(a)

unrhyw gynnyrch sy’n dod o anifeiliaid, cynnyrch cenhedlol, sgil-gynnyrch anifeiliaid, cynnyrch deilliedig neu wair neu wellt sy’n ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, a

(b)

unrhyw gynnyrch cyfansawdd a restrir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275(13) ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn arolygfeydd ffin;, a

(iii)yn y lle priodol mewnosoder—

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, cerbyd, ôl-gerbyd, cynhwysydd, stondin, strwythur symudol, llong neu awyren;;

ystyr “mewnforiwr” (“importer”) yw’r person naturiol neu gyfreithiol sy’n cyflwyno anifeiliaid neu gynhyrchion i’w mewnforio o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig;;

ystyr “rheolaethau swyddogol” (“official controls”) yw gweithgareddau a gyflawnir yn unol ag Erthygl 2(1) o Reoliad yr UE;;

ystyr “rheolaethau swyddogol dwysach” (“intensified official controls”) yw’r rheolaethau hynny a gynhelir yn unol ag Erthygl 65(4) o Reoliad yr UE;;

mae “tystysgrif iechyd” (“health certificate”) yn y Rheoliadau hyn yn cynnwys yr hyn sy’n cyfateb i dystysgrif iechyd ar ffurf electronig.;

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Yn y Rheoliadau hyn,—

(a)mae “Rheoliad yr UE” (“the EU Regulation”) yn gyfeiriad at Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(14);

(b)mae “Rheoliad (EU) Rhif 2016/1012” (“Regulation (EU) No. 2016/1012”) yn gyfeiriad at Reoliad (EU) Rhif 2016/1012 ar amodau sootechnegol ac achyddol ar gyfer bridio a masnachu anifeiliaid bridio o frid pur, moch bridio hybrid a’u cynhyrchion cenhedlol, a dod â hwy i’r Undeb(15);

(c)mae unrhyw gyfeiriad at “arolygfa ffin” (“border inspection post”) i’w ddarllen fel cyfeiriad at “safle rheoli ar y ffin” (“border control post”) fel y’i diffinnir yn rheoliad 11; ac

(ch)mae unrhyw gyfeiriad at “DMMG” (“CVED”) i’w ddarllen fel cyfeiriad at “DMIG” (“CHED”) fel y’i diffinnir yn rheoliad 10.

(3Yn lle rheoliad 3 rhodder—

Eithriad ar gyfer anifeiliaid anwes

3.(1) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag anifeiliaid anwes pan fo—

(a)y symud yn symud anfasnachol, a

(b)yn achos cathod, cŵn a ffuredau—

(i)yr anifail anwes yn mynd gyda’r perchennog neu’r person awdurdodedig, neu

(ii)pan fo mwy na phum anifail anwes yn mynd gyda’r perchennog neu’r person awdurdodedig, yr amodau a nodir yn Erthygl 5(2) o’r Rheoliad Anifeiliaid Anwes wedi eu bodloni.

(2) Yn y rheoliad hwn—

mae i “anifail anwes” yr un ystyr ag a roddir i “pet animal” yn Erthygl 4(11) o Reoliad (EU) 2016/429 ar glefydau trosglwyddadwy anifeiliaid(16);

mae i “mynd gyda” yr un ystyr ag a roddir i “accompanying” yn y Rheoliad Anifeiliaid Anwes;

mae i “person awdurdodedig”, “symud anfasnachol” a “perchennog” yr ystyron a roddir i “authorised person”, “non-commercial movement” ac “owner” gan Erthygl 3 o’r Rheoliad Anifeiliaid Anwes;

ystyr “y Rheoliad Anifeiliaid Anwes” (“the Pets Regulation”) yw Rheoliad (EU) Rhif 576/2013(17) Senedd Ewrop a’r Cyngor ar symud anfasnachol anifeiliaid anwes ac sy’n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 998/2003.

(4Yn rheoliad 4, yn lle “masnach â” rhodder “masnach ag Ynysoedd Faröe, Kalaallit Nunaat (Greenland),”.

(5Yn rheoliad 5—

(a)yn lle’r pennawd rhodder—

Symud anifeiliaid neu ddeunydd genetig i Aelod-wladwriaethau neu ohonynt;

(b)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Ni chaniateir anfon unrhyw anifail na deunydd genetig i Aelod-wladwriaeth, na dod ag ef o Aelod-wladwriaeth, oni bai bod tystysgrif iechyd wreiddiol yn dod gydag ef.

(1A) Ni chaniateir anfon unrhyw gynnyrch anifeiliaid i Aelod-wladwriaeth, na dod ag ef o Aelod-wladwriaeth, oni bai bod dogfen berthnasol yn dod gydag ef.

(6Yn rheoliad 6(1), yn lle “neu ddeunydd genetig i Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “, cynnyrch anifeiliaid neu ddeunydd genetig i Aelod-wladwriaeth”.

(7Yn rheoliad 7—

(a)yn lle’r pennawd rhodder—

Hysbysiad o symud anifeiliaid a deunydd genetig i Aelod-wladwriaethau ac ohonynt;

(b)ym mharagraff (1)—

(i)hepgorer “arall”, a

(ii)yn lle’r geiriau o “24 awr” hyd at y diwedd, rhodder “un diwrnod gwaith cyn yr amser y disgwylir i’r llwyth gyrraedd”;

(c)ym mharagraff (2), hepgorer y gair “arall”.

(8Yn rheoliad 9, yn lle’r geiriau o “a bennir” hyd at y diwedd, rhodder “sy’n ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin i mewn i Gymru o wlad sydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd”.

(9Yn lle rheoliad 10, a phennawd y rheoliad hwnnw, rhodder—

Ystyr Dogfen Mynediad Iechyd Gyffredin “DMIG” a’r defnydd ohoni

10.(1) Ystyr “Dogfen Mynediad Iechyd Gyffredin” (“DMIG”) (“Common Health Entry Document” (“CHEDyw dogfen, neu’r hyn sy’n cyfateb i ddogfen ar ffurf electronig, ar y ffurf a bennir yn Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1715 sy’n gosod rheolau ar gyfer gweithrediad y system rheoli gwybodaeth ar gyfer rheolaethau swyddogol a’i chydrannau system(18).

(2) Pan fo’n ofynnol i DMIG ddod gyda llwyth a fewnforir i’r fangre sy’n gyrchfan derfynol, rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth lenwi’r darnau perthnasol o’r ddogfen cyn i’r llwyth gyrraedd yn ffisegol.

(3) Pennir yr achosion pan fo’n ofynnol defnyddio DMIG, a’r amodau ar gyfer gwneud hynny, yn Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1602 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y Ddogfen Mynediad Iechyd Gyffredin sy’n dod gyda llwythi o anifeiliaid a nwyddau i’w cyrchfan(19).

(4) Pan fo DMIG yn ofynnol, rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth gydymffurfio â darpariaethau Erthygl 56 o Reoliad yr UE.

(5) Mae’r hyn sy’n cyfateb i ddogfen ar ffurf electronig yn cyfeirio at DMIG y gall y person sy’n gyfrifol am y llwyth ei ddangos ar unrhyw adeg.

(10Yn lle rheoliad 11, a phennawd y rheoliad hwnnw, rhodder—

Safleoedd rheoli ar y ffin

11.(1) Safle rheoli ar y ffin yw lle, ynghyd â’r cyfleusterau a gynhwysir yn y lle hwnnw, sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru yn unol ag Erthygl 59 o Reoliad yr UE ac a restrir gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 60 o Reoliad yr UE ar gyfer cyflawni’r rheolaethau swyddogol a nodir yn Erthygl 47(1) o Reoliad yr UE.

(2) Os bydd yr awdurdod perthnasol o’r farn, ar unrhyw adeg, nad yw unrhyw ran o’r cyfleusterau arolygu yn y safle rheoli ar y ffin yn cydymffurfio bellach â’r gofynion ar gyfer cymeradwyo, caiff yr awdurdod perthnasol, yn unol ag Erthyglau 61 i 63 o Reoliad yr UE, gyflwyno hysbysiad i’r gweithredwr sydd yn—

(a)pennu’r modd y torrwyd y gofynion;

(b)darparu terfyn amser o fewn pryd y mae rhaid cydymffurfio â’r amodau; ac

(c)gwahardd defnyddio’r rhan honno o’r cyfleusterau hyd nes y cydymffurfir â’r amodau cymeradwyo.

(3) Os na chydymffurfir â’r hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro y gymeradwyaeth mewn perthynas â’r rhan honno o’r cyfleusterau arolygu.

(4) Os yw’r awdurdod perthnasol yn penderfynu bod gweithredwr safle rheoli ar y ffin yn torri yn ddifrifol y gofynion perfformiad mewn perthynas â rheolaethau swyddogol ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r categorïau o anifail neu gynnyrch y mae wedi ei ddynodi ar eu cyfer, neu amodau’r gymeradwyaeth, neu os yw’r modd y mae safle rheoli ar y ffin yn gweithredu yn creu risg i iechyd pobl neu anifeiliaid neu les anifeiliaid, rhaid i Weinidogion Cymru atal dros dro y gymeradwyaeth ar gyfer y safle rheoli ar y ffin a gorchymyn bod ei weithgareddau yn dod i ben ar gyfer pob categori, neu gategorïau penodedig, o anifail neu gynnyrch, a rhaid iddo hysbysu’r Comisiwn am yr ataliad dros dro a’r rheswm drosto.

(5) Ym mharagraff (2), ystyr “yr awdurdod perthnasol” (“the relevant authority”) yw—

(a)mewn perthynas ag anifeiliaid, Gweinidogion Cymru; neu

(b)mewn perthynas â chynhyrchion, yr awdurdod lleol.

(11Yn rheoliad 12, yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Os yw’r gymeradwyaeth ar gyfer y safle rheoli ar y ffin yn caniatáu mewnforio unrhyw gynhyrchion pysgodfeydd, infertebratau dyfrol, molysgiaid dwygragennog byw, ecinodermiaid byw, tiwnigogion byw a gastropodau morol byw a fwriedir i’w bwyta gan bobl, caiff yr awdurdod lleol benodi swyddogion iechyd yr amgylchedd sydd wedi eu hyfforddi’n addas neu bersonau eraill sydd wedi eu hyfforddi’n briodol i gyflawni rheolaethau swyddogol neu dasgau penodol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau swyddogol eraill, i fod yn arolygwyr pysgod swyddogol ar gyfer y safle hwnnw mewn perthynas â chynhyrchion o’r fath, a bydd gan unrhyw arolygwr pysgod swyddogol o’r fath yr holl bwerau sydd gan filfeddyg swyddogol mewn perthynas â’r cynhyrchion hynny.

(12Mae rheoliad 14 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Rhaid i’r person sy’n gyfrifol am lwyth o anifeiliaid neu gynhyrchion hysbysu’r safle rheoli ar y ffin sy’n gyrchfan am y dyddiad y disgwylir iddo gyrraedd y safle rheoli ar y ffin o leiaf un diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddo gyrraedd; ond pan fo’r person yn gallu darparu tystiolaeth o gyfyngiad logistaidd sy’n atal hysbysiad o’r fath, caniateir bodloni’r gofyniad hwnnw drwy hysbysu am yr amser y disgwylir iddo gyrraedd o leiaf bedair awr ymlaen llaw.;

(b)hepgorer paragraff (2);

(c)yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Yn achos trawslwytho cynhyrchion o un safle rheoli ar y ffin i un arall, rhaid i’r person sy’n gyfrifol am y llwyth hysbysu’r milfeddyg swyddogol yn y safle rheoli ar y ffin sy’n gyrchfan am—

(a)amcangyfrif o’r amser y bydd y llwyth yn cyrraedd;

(b)y safle rheoli ar y ffin lle y bydd y trawslwythiad yn cael ei wirio;

(c)beth yw’r llwyth a’i leoliad; ac

(ch)amcangyfrif o’r amser gadael.

(13Yn lle rheoliad 15 rhodder—

15.(1) Pan fo llwyth wedi ei ddadlwytho, rhaid i’r person sy’n gyfrifol amdano, cyn gynted ag y bo’n rhesymol, drefnu iddo, yn ogystal â’r ddogfennaeth a bennir ar gyfer y llwyth hwnnw yn y ddeddfwriaeth berthnasol a restrir yn Atodlen 1, gael ei gyflwyno yng nghyfleusterau arolygu y safle rheoli ar y ffin er mwyn galluogi rheolaethau swyddogol yn unol ag—

(a)Pennod 5 o Reoliad yr UE, ynghyd â’r actau gweithredu a’r actau dirprwyedig perthnasol; a

(b)y gwiriadau sy’n ofynnol gan Erthygl 37(1) o Reoliad (EU) 2016/1012.

(2) Rhaid i unrhyw weithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth sicrhau bod y llwyth yn cael ei gyflwyno ar gyfer rheolaethau swyddogol yn y safle rheoli ar y ffin ar adeg resymol yn ystod y diwrnod gwaith.

(3) Rhaid i’r awdurdod cymwys gynnal yr holl reolaethau swyddogol angenrheidiol a bennir ym mharagraff (1) ac ni chaiff ond dyroddi DMIG sy’n caniatáu mynediad—

(a)os yw’r llwyth yn cydymffurfio â’r gofynion sy’n ymwneud ag ef yn yr offeryn perthnasol a restrir yn Atodlen 1;

(b)os nad yw’r mewnforio wedi ei wahardd o dan baragraff (4); ac

(c)os yw’r ffi gywir ar gyfer y gwiriadau wedi ei thalu neu’n mynd i gael ei thalu.

(4) Yn achos anifeiliaid byw, ni chaiff y milfeddyg swyddogol ddyroddi DMIG sy’n caniatáu mynediad—

(a)os yw’r anifeiliaid yn dod o diriogaeth neu ran o diriogaeth trydedd wlad nad yw wedi ei chynnwys yn y rhestri a luniwyd yn unol â deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y rhywogaeth o dan sylw, neu os gwaherddir mewnforion ohonynt o dan y ddeddfwriaeth honno;

(b)os yw’r anifeiliaid yn dioddef o glefyd heintus neu glefyd sy’n cyflwyno risg i iechyd pobl neu anifeiliaid neu os oes amheuaeth eu bod yn dioddef felly neu wedi eu heintio felly;

(c)os nad yw’r drydedd wlad sy’n allforio wedi cydymffurfio â’r gofynion y darperir ar eu cyfer yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd;

(ch)os nad yw’r anifeiliaid mewn cyflwr priodol i barhau ar eu taith; neu

(d)os nad yw’r dystysgrif filfeddygol neu’r ddogfen sy’n dod gyda’r anifeiliaid yn bodloni gofynion deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â mewnforio.

(5) Os nad oes unrhyw ofynion deddfwriaethol mewn perthynas â’r llwyth, ni chaiff y milfeddyg swyddogol ddyroddi DMIG oni bai bod y mewnforio wedi cael ei awdurdodi yn ysgrifenedig o dan y paragraff hwn gan—

(a)yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer unrhyw gynnyrch y mae gofynion iechyd y cyhoedd yn unig yn gymwys iddynt; neu

(b)Gweinidogion Cymru ar gyfer unrhyw gynnyrch arall.

(6) Ni chaniateir rhoi awdurdodiad o dan baragraff (5)(a) onid yw’r Asiantaeth wedi ei bodloni nad yw’r llwyth yn peri risg i iechyd pobl.

(7) Ni chaniateir rhoi awdurdodiad o dan baragraff (5)(b) onid yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r llwyth yn peri risg i statws iechyd anifeiliaid y Deyrnas Unedig.

(8) Rhaid i’r milfeddyg swyddogol gadw tystiolaeth o awdurdodi neu wrthod llwyth am gyfnod o dair blynedd o ddyddiad y mewnforio.

(14Yn lle rheoliad 16, a phennawd y rheoliad hwnnw, rhodder—

Symud llwyth o’r safle rheoli ar y ffin

16.(1) Ni chaiff unrhyw berson symud llwyth o’r safle rheoli ar y ffin oni bai bod DMIG a ddyroddwyd gan y milfeddyg swyddogol, neu’r arolygydd pysgod swyddogol (fel y bo’n briodol) yn achos llwyth o bysgod, yn dod gyda’r llwyth, a bod y symudiad yn unol â’r ddogfen honno.

(2) Rhaid i’r person sy’n ei gludo o’r safle rheoli ar y ffin sicrhau bod y ddogfen yn dod gyda’r llwyth a rhaid iddo ei gludo yn uniongyrchol i’r gyrchfan a bennir ynddi.

(3) Nid yw’r gofynion hyn yn gymwys os yw’r llwyth yn cael ei symud o’r safle rheoli ar y ffin o dan awdurdod y milfeddyg swyddogol neu’r arolygydd pysgod perthnasol (fel y bo’n briodol).

(4) Yn achos anifeiliaid byw, rhaid i’r person sy’n gyfrifol am eu cludo i’r gyrchfan derfynol feddu ar yr awdurdodiad cludo priodol yn unol ag Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor (EC) 1/2005 ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo a gweithrediadau cysylltiedig(20) y tu mewn i’r cerbyd.

(5) Yn y rheoliad hwn, mae gofynion bod “DMIG yn dod gyda’r llwyth”, mewn perthynas â DMIG ar ffurf electronig, yn cyfeirio at y ffaith y gall y person sy’n gyfrifol am y llwyth ddangos y DMIG ar unrhyw adeg.

(15Yn lle rheoliad 17, a phennawd y rheoliad hwnnw, rhodder—

Goruchwylio a monitro llwythi

17.  Pan fo’n ofynnol i lwyth gael ei gymryd o dan oruchwyliaeth o safle rheoli ar y ffin i gyrchfan benodol yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth—

(a)rhaid i’r symudiad fod o dan oruchwyliaeth gwasanaeth y tollau os pennir hynny yn y DMIG; a

(b)pan fydd y llwyth yn cyrraedd, rhaid i feddiannydd y fangre sy’n gyrchfan hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith ei fod wedi cyrraedd.

(16Yn rheoliad 18—

(a)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Caniateir i gynhyrchion sy’n cyrraedd safle rheoli ar y ffin sydd â chyrchfan derfynol y tu allan i’r Deyrnas Unedig, ac sy’n ddarostyngedig i ofynion gwiriadau iechyd anifeiliaid yn y ddeddfwriaeth berthnasol a restrir yn Atodlen 1, gael eu cymryd yn uniongyrchol o’r safle rheoli ar y ffin i’r gyrchfan y tu allan i’r Deyrnas Unedig heb DMIG, cyn belled nad yw’r cynhyrchion yn aros am fwy na thri diwrnod mewn safle rheoli ar y ffin sy’n faes awyr neu 30 o ddiwrnodau mewn safle rheoli ar y ffin sy’n borthladd.;

(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Caniateir i gynhyrchion nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion gwiriadau mewnforio, ac sy’n cyrraedd safle rheoli ar y ffin ar gyfer cyrchfan derfynol y tu allan i’r Deyrnas Unedig, gael eu cymryd yn uniongyrchol o’r safle rheoli ar y ffin i’w cyrchfan heb DMIG, cyn belled nad yw’r cynhyrchion yn aros ar y safle rheoli ar y ffin am fwy na 90 o ddiwrnodau.

(17Yn rheoliad 19, yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—

(b)sy’n cael ei symud o safle rheoli ar y ffin heb DMIG neu heb awdurdod y milfeddyg swyddogol neu’r arolygydd pysgod swyddogol (yn ôl y digwydd) yn y safle; neu

(c)sy’n cael ei gludo o’r safle rheoli ar y ffin i gyrchfan wahanol i’r un a bennir yn y ddogfen mynediad.

(18Yn lle rheoliad 20 rhodder—

20.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw lwyth o gynnyrch os yw’r gwiriadau mewn safle rheoli ar y ffin yn dangos nad yw’r llwyth yn cydymffurfio â’r rheolau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2) o Reoliad yr UE.

(2) Rhaid i’r milfeddyg swyddogol neu’r arolygydd pysgod swyddogol (fel y bo’n briodol), ar ôl ymgynghori â’r mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr, osod y llwyth yng nghadw a gwrthod mynediad iddo i’r Deyrnas Unedig.

(3) Caiff y milfeddyg swyddogol neu’r arolygydd pysgod swyddogol (fel y bo’n briodol) orchymyn y person sy’n gyfrifol am y llwyth i wneud y canlynol—

(a)gwneud y llwyth yn destun triniaeth arbennig yn unol ag Erthygl 71(1) a (2) o Reoliad yr UE neu unrhyw fesur arall sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau cydymffurfedd â’r rheolau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2) o Reoliad yr UE, a, phan fo hynny’n briodol ac ar yr amod nad oes unrhyw risg i iechyd pobl nac anifeiliaid, dyrannu’r llwyth at ddibenion gwahanol i’r rhai y’i bwriadwyd ar eu cyfer yn wreiddiol;

(b)pan fo amodau iechyd yn caniatáu hynny, ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gyfrifol am y llwyth ailanfon y cynnyrch yn unol ag Erthygl 72 o Reoliad yr UE o’r un safle rheoli ar y ffin i gyrchfan y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd y cytunwyd arni gyda’r person sy’n gyfrifol am y llwyth, gan ddefnyddio’r un cyfrwng cludo, o fewn terfyn amser o 60 niwrnod ar y mwyaf i gyrraedd y safle rheoli ar y ffin; neu

(c)os yw’r person sy’n gyfrifol am y llwyth yn cytuno ar unwaith, bod ailanfon yn amhosibl neu fod y terfyn amser o 60 niwrnod wedi dod i ben, dinistrio’r cynhyrchion.

(4) Caiff y milfeddyg swyddogol neu’r arolygydd pysgod swyddogol (fel y bo’n briodol), mewn achos eithriadol, awdurdodi cymryd camau dinistrio, ailanfon, triniaeth arbennig, neu unrhyw fesur arall y caniateir ei gymryd mewn cysylltiad â llwyth, mewn cysylltiad â rhan o’r llwyth yn unig, ar yr amod—

(a)bod y camau a gymerir yn sicrhau cydymffurfedd;

(b)nad yw’r camau a gymerir yn peri risg i iechyd pobl nac anifeiliaid; ac

(c)nad yw’r camau a gymerir yn tarfu ar weithrediadau rheolaethau swyddogol.

(5) Pan fo’r person sy’n gyfrifol am y llwyth yn aros am ailanfon neu’n aros am gadarnhad o’r rhesymau dros wrthod y llwyth, rhaid iddo, ar draul y person hwnnw ei hun, storio’r llwyth o dan oruchwyliaeth yr awdurdod gorfodi.

(6) Os ymafaelir mewn llwyth o gynhyrchion y tu allan i safle rheoli ar y ffin o dan reoliad 19, rhaid i’r awdurdod gorfodi orchymyn bod y llwyth hwnnw yn cael ei gadw neu ei alw yn ôl, a’i osod yng nghadw yn swyddogol yn ddi-oed, ac mae paragraffau (2) a (3) o’r rheoliad hwn yn gymwys.

(7) Mae’r mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr yn atebol am y costau yr eir iddynt mewn unrhyw fesurau a gymerir o dan baragraffau (2) i (6), ond mae ganddo’r hawl i daliad o swm sy’n cyfateb i werth y cynnyrch ar ôl didynnu’r costau hyn.

(8) Caiff y mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ar unwaith, ac o fewn un diwrnod gwaith ar ôl cael ei hysbysu am yr achos o fethu â chydymffurfio, ynghylch unrhyw benderfyniad a gymerwyd o dan y rheoliad hwn, a rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau o’r fath a rhoi ymateb ysgrifenedig o fewn un diwrnod gwaith i gael sylwadau o’r fath.

(19Yn lle rheoliad 21 rhodder—

21.  Os yw’r rheolaethau swyddogol yn y safle rheoli ar y ffin yn dangos bod y llwyth yn debygol o beri perygl i iechyd anifeiliaid neu bobl, rhaid i’r milfeddyg swyddogol neu’r arolygydd pysgod swyddogol (yn ôl y digwydd) osod y llwyth yng nghadw yn swyddogol ar unwaith a gorchymyn bod y person sy’n gyfrifol am y llwyth yn ei ddinistrio neu’n trefnu triniaeth arbennig yn unol ag Erthygl 71 o Reoliad yr UE ar draul y person hwnnw.

(20Yn lle rheoliad 22 rhodder—

22.(1) Os yw’r milfeddyg swyddogol neu’r arolygydd pysgod swyddogol (fel y bo’n briodol) yn amau bod cynhyrchion sy’n dod i mewn i’r Deyrnas Unedig o drydedd wlad benodol, rhan benodol o drydedd wlad neu sefydliad penodol mewn trydedd wlad wedi bod yn destun toriadau difrifol o unrhyw ofyniad mewnforio, neu doriadau sy’n rhan o gyfres, neu pan fo’r gwiriadau hynny yn datgelu bod y lefelau gweddillion uchaf yn uwch na’r hyn a ganiateir, mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r deng llwyth nesaf, neu i bwysau net o 300 tunnell, pa un bynnag sydd leiaf, a fewnforir o’r drydedd wlad honno, neu yn ôl y digwydd o ran benodol o drydedd wlad neu sefydliad penodol y mae’r amheuaeth yn ymwneud â hi neu ag ef.

(2) Os oes gan y milfeddyg swyddogol neu’r arolygydd pysgod swyddogol (fel y bo’n briodol) reswm i amau bod gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth yn gweithredu mewn modd twyllodrus neu ddichellgar, caiff Gweinidogion Cymru gymhwyso rheolaethau swyddogol dwysach.

(3) Rhaid i’r milfeddyg swyddogol neu’r arolygydd pysgod swyddogol (fel y bo’n briodol) gynnal gwiriad ffisegol ar y llwyth yr amheuir ei fod yn methu â chydymffurfio a chymryd mesurau priodol yn unol ag Adran 3 o Bennod 5 o Deitl 2.

(4) Rhaid i’r person sy’n gyfrifol am y llwyth roi blaendal neu warant i’r milfeddyg swyddogol sy’n ddigonol i sicrhau y telir yr holl ffioedd, gan gynnwys cymryd samplau, a phrofion neu ddadansoddiad.

(21Yn lle rheoliad 23 rhodder—

23.(1) Os yw’r gwiriadau mewn safle rheoli ar y ffin yn dangos nad yw anifail yn cydymffurfio â’r rheolau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2) o Reoliad yr UE mewn perthynas â’r anifail hwnnw, neu pan fo’r gwiriadau hynny yn datgelu afreoleidd-dra, rhaid i’r milfeddyg swyddogol, yn y lle cyntaf, osod yr anifail yng nghadw, ei ynysu neu ei roi mewn cwarantîn, fel y bo’n briodol, lle mae rhaid ei gadw, gofalu amdano neu ei drin o dan amodau priodol hyd nes y gwneir penderfyniad swyddogol pellach ynghylch tynged yr anifail.

(2) Oni bai bod angen cymryd camau ar unwaith er mwyn ymateb i risg i iechyd pobl neu anifeiliaid neu les anifeiliaid neu i’r amgylchedd, caiff y milfeddyg swyddogol, ar ôl ymgynghori â’r mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr, orchymyn i’r person sy’n gyfrifol am y llwyth—

(a)darparu cysgod, porthiant a dŵr i’r anifail ac, os bydd angen, rhoi triniaeth iddo;

(b)os bydd angen hynny, ei roi mewn cwarantîn neu ei ynysu am ba hyd bynnag y bo’n angenrheidiol i sicrhau nad oes unrhyw risg i iechyd pobl neu anifeiliaid; neu

(c)ailanfon yr anifail yn ddi-oed yn unol ag Erthygl 72 o Reoliad yr UE.

(3) Os yw ailanfon yn amhosibl, yn benodol oherwydd rhesymau lles, caiff y milfeddyg swyddogol orchymyn y mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr i drefnu i’r anifail gael ei gigydda er mwyn osgoi unrhyw boen, trallod neu ddioddefaint y gellir ei hosgoi neu ei osgoi.

(4) Os ymafaelir mewn anifail o dan reoliad 19 mewn lle ac eithrio safle rheoli ar y ffin, rhaid i’r awdurdod gorfodi orchymyn bod y llwyth i’w gadw neu i’w alw yn ôl, a’i osod yng nghadw yn swyddogol yn ddi-oed, ac mae paragraffau (1) a (2) yn gymwys.

(5) Caiff y milfeddyg swyddogol, mewn achos eithriadol, awdurdodi cymryd camau rhannol o ran dinistrio, ailanfon, triniaeth arbennig, neu unrhyw fesur arall y caniateir ei gymryd mewn cysylltiad â llwyth o anifeiliaid, mewn cysylltiad â rhan o unrhyw lwyth o’r fath, ar yr amod—

(a)bod y camau hynny yn sicrhau cydymffurfedd â gofynion gwiriadau mewnforio Rheoliad yr UE ac unrhyw Reoliadau Gweithredu a Rheoliadau Dirprwyedig perthnasol a wnaed oddi tano;

(b)nad yw’r camau a gymerir yn peri risg i iechyd pobl nac anifeiliaid; ac

(c)nad yw’r camau a gymerir yn tarfu ar weithrediadau rheolaethau swyddogol.

(6) Mae’r mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr yn atebol am y costau yr eir iddynt yn y mesurau hyn ond mae ganddo’r hawl i daliad o swm sy’n cyfateb i werth anifail a gigyddir ar ôl didynnu’r costau hyn.

(22Yn rheoliad 27—

(a)yn y pennawd, yn lle “cynhyrchion” rhodder “anifeiliaid a chynhyrchion”;

(b)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Rhaid i filfeddyg swyddogol mewn safle rheoli ar y ffin awdurdodi ailfewnforio llwythi o’r categorïau o anifeiliaid a chynhyrchion y cyfeirir atynt ym mhwyntiau (a) a (b) o Erthygl 47(1) o Reoliad yr UE sy’n tarddu o’r Undeb, ac yn dychwelyd iddo, yn dilyn gwrthodiad gan drydedd wlad i roi mynediad, ar yr amod—

(a)bod anifeiliaid a chynhyrchion cenhedlol sydd wedi eu hawdurdodi ymlaen llaw gan yr awdurdod cymwys yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid perthnasol;

(b)bod cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a chynhyrchion cyfansawdd yn cydymffurfio â gofynion iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd mewn perthynas â llwythi o gynhyrchion i’w bwyta gan bobl sy’n tarddu o’r Undeb, ac yn dychwelyd iddo, yn dilyn gwrthodiad gan drydedd wlad i roi mynediad; ac

(c)bod sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd anifeiliaid a nodir yn Atodiad XIV i Reoliad y Comisiwn (EU) 142/2011 ar y gofynion ar gyfer mynediad i lwythi o sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliedig sy’n tarddu o’r Undeb, ac yn dychwelyd iddo, yn dilyn gwrthodiad gan drydedd wlad i roi mynediad(21).;

(c)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Ym mharagraff (1), ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) 142/2011” yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 142/2011 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd o ran sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliedig nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl ac yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC o ran samplau ac eitemau penodol sydd wedi eu hesemptio rhag gwiriadau milfeddygol ar y ffin o dan y Gyfarwyddeb honno.

(23Yn lle rheoliad 29 rhodder—

29.(1) Pan fo Gweinidogion Cymru neu’r Asiantaeth Safonau Bwyd—

(a)â sail resymol dros amau bod clefyd, milhaint, ffenomenon neu amgylchiad yn bodoli mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig sy’n golygu bod anifeiliaid neu gynhyrchion sy’n tarddu o’r wlad gyfan neu o ran o’r wlad o dan sylw yn debygol o beri risg i iechyd pobl neu anifeiliaid, neu

(b)o’r farn bod achos difrifol o fethu â chydymffurfio â rheolau rheolaethau swyddogol o dan Reoliad yr UE mewn perthynas â mewnforion o’r Undeb Ewropeaidd, neu reolau rheolaethau swyddogol cyfatebol mewn gwledydd ac eithrio Aelod-wladwriaeth,

caiff Gweinidogion Cymru neu’r Asiantaeth gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y mesurau arbennig sy’n angenrheidiol er mwyn cyfyngu’r risg i iechyd pobl neu anifeiliaid neu’r risg bod anifeiliaid neu gynhyrchion sy’n methu â chydymffurfio yn dod i mewn i’r Deyrnas Unedig.

(2) Mae’r mesurau arbennig y caiff Gweinidogion Cymru neu’r Asiantaeth Safonau Bwyd eu gwneud yn ofynnol yn cynnwys—

(a)atal dros dro fynediad i unrhyw anifail neu gynnyrch sy’n tarddu neu’n cael ei anfon allan o’r wlad gyfan o dan sylw neu ran ohoni;

(b)gosod amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol—

(i)bod unrhyw anifeiliaid neu gynhyrchion yn dod yn destun triniaeth benodol neu’n dod yn ddarostyngedig i reolaethau penodol cyn iddynt gael eu hanfon allan, neu wrth iddynt gyrraedd;

(ii)bod tystysgrif swyddogol, ardystiad swyddogol, neu unrhyw dystiolaeth arall (ar unrhyw ffurf a bennir) yn dod gydag unrhyw anifeiliaid neu gynhyrchion, sy’n nodi bod unrhyw fewnforyn o’r Undeb Ewropeaidd yn cydymffurfio â rheolau rheolaethau swyddogol sefydledig o dan Reoliad yr UE ac unrhyw Reoliadau Gweithredu neu Reoliadau Dirprwyedig perthnasol a wnaed oddi tano neu reolau cyfatebol mewn gwledydd eraill;

(c)unrhyw fesurau eraill y mae Gweinidogion Cymru neu’r Asiantaeth yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn cyfyngu’r risg.

(3) Rhaid i’r datganiad gael ei gyhoeddi yn y modd y mae Gweinidogion Cymru neu’r Asiantaeth Safonau Bwyd (yn ôl y digwydd) yn meddwl ei fod yn briodol a chaniateir ei ddiwygio neu ei ddirymu gan ddatganiad pellach ar unrhyw adeg.

(4) Ni chaiff unrhyw berson fewnforio i’r Deyrnas Unedig unrhyw beth sy’n torri unrhyw fesurau a grybwyllir mewn unrhyw ddatganiad.

(24Yn rheoliad 32—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “arolygfa ffin, mewn perthynas ag anifeiliaid” rhodder “safle rheoli ar y ffin, mewn perthynas ag anifeiliaid (ac eithrio mewn perthynas ag anifeiliaid dyfrol)”, a

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Y tu allan i safle rheoli ar y ffin, gorfodir rheolaethau swyddogol mewn perthynas ag anifeiliaid dyfrol gan Weinidogion Cymru.;

(c)ym mharagraff (4), yn lle “Erthyglau 135 i 137” rhodder “Erthygl 134”;

(d)yn lle paragraff (6) rhodder—

(6) Pan fo swyddog tollau, wrth arfer swyddogaeth statudol mewn unrhyw le sydd o dan oruchwyliaeth gwasanaeth y tollau, yn darganfod unrhyw anifail neu gynnyrch yr amheuir ei fod yn methu â chydymffurfio, rhaid i’r swyddog hwnnw ei gadw a hysbysu swyddog awdurdodedig o’r awdurdod gorfodi perthnasol am y cadwad hwnnw.

(25Yn lle rheoliad 33 rhodder—

33.(1) Caiff swyddog sy’n awdurdodedig gan Weinidogion Cymru neu asiantaeth orfodi, ar unrhyw adeg resymol yn ystod oriau gweithio arferol a heb roi hysbysiad ymlaen llaw, fynd i unrhyw fangre (ac eithrio unrhyw fangre a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf fel annedd breifat) os yw’r swyddog yn credu ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at y diben o orfodi’r Rheoliadau hyn.

(2) Rhaid i swyddog awdurdodedig ddangos dogfen awdurdodi sydd wedi ei dilysu’n briodol, os gofynnir iddo wneud hynny.

(3) Caiff ynad heddwch lofnodi gwarant i ganiatáu i swyddog gorfodi fynd i unrhyw fangre, gan gynnwys tŷ annedd, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—

(a)bod sail resymol dros fynd i’r fangre honno at ddiben gorfodi’r Rheoliadau hyn; a

(b)y bodlonir un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (4).

(4) Yr amodau yw—

(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd;

(b)y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r fath, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i’r fangre;

(c)bod angen mynd i’r fangre ar fyrder;

(ch)bod y fangre heb ei meddiannu neu’r meddiannydd yn absennol dros dro.

(5) Mae gwarant yn ddilys am 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y mae’r ynad heddwch yn ei llofnodi.

(6) Rhaid i swyddog awdurdodedig sy’n mynd i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu, neu y mae’r meddiannydd yn absennol ohoni dros dro, ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr ydoedd cyn iddo fynd iddi.

(7) Caiff swyddog awdurdodedig—

(a)mynd ag unrhyw bersonau eraill (hyd at uchafswm o dri), y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol, gydag ef;

(b)dod ag unrhyw gyfarpar i’r fangre y mae’r swyddog yn ystyried ei fod yn angenrheidiol.

(26Yn rheoliad 34, ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

(f)ei gwneud yn ofynnol cigydda unrhyw anifail a fewnforir sy’n methu â chydymffurfio â gofynion mewnforio neu les anifeiliaid yn y Rheoliadau hyn neu Reoliad yr UE ac unrhyw Reoliadau Gweithredu a Rheoliadau Dirprwyedig a wnaed oddi tano, neu y mae gan Weinidogion Cymru amheuaeth ei fod yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu bobl;

(ff)ei gwneud yn ofynnol rhoi mewn cwatantîn unrhyw anifail a fewnforir y mae gan Weinidogion Cymru amheuaeth ei fod yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu bobl.

(27Yn lle rheoliad 35, a phennawd y rheoliad hwnnw, rhodder—

Mewnforio anifeiliaid neu gynhyrchion sy’n peri risg i iechyd anifeiliaid neu’r cyhoedd

35.(1) Os oes gan Weinidogion Cymru amheuaeth bod anifeiliaid neu gynhyrchion a fewnforir yn peri risg difrifol i iechyd pobl neu anifeiliaid neu les anifeiliaid, neu, mewn achos lle ceir amheuaeth o fethu â chydymffurfio, os yw’r anifeiliaid neu’r cynhyrchion yn dod o ranbarth sydd wedi ei halogi â chlefyd episöotig, caiff swyddog sy’n awdurdodedig gan Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol—

(a)cynnal ymchwiliad er mwyn cadarnhau’r amheuaeth honno neu gael gwared arni;

(b)cynnal ymchwiliad ynghylch hyd a lled unrhyw achos o fethu â chydymffurfio a amheuir ac er mwyn canfod cyfrifoldebau’r gweithredwr mewnforio;

(c)rhoi rheolaethau swyddogol dwysach ar lwythi o anifeiliaid neu gynhyrchion o ranbarth penodol hyd nes na fydd y swyddog yn ystyried bod y mewnforion hynny yn peri risg o’r fath i iechyd mwyach;

(ch)gosod unrhyw un neu ragor o’r anifeiliaid neu’r cynhyrchion yng nghadw yn swyddogol;

(d)cymryd mesurau priodol er mwyn sicrhau bod y person sy’n gyfrifol am yr anifeiliaid neu’r cynhyrchion yn unioni’r methiant i gydymffurfio ac yn atal achosion eraill o fethu â chydymffurfio o’r fath.

(2) Mewn achos sydd o fewn paragraff (1)(a), rhaid i’r mewnforiwr gynorthwyo’r swyddog i ganfod rhanbarth y tarddiad.

(3) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod anifeiliaid neu gynhyrchion a fewnforir yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu’r cyhoedd, caiff swyddog sy’n awdurdodedig gan Weinidogion Cymru, ar ôl rhoi hysbysiad ysgrifenedig, gymryd unrhyw gamau rhesymol i sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw reolau a nodir yn unol ag Erthygl 1(2) o Reoliad yr UE, gan gynnwys—

(a)cymryd samplau ar gyfer profi a gorchymyn neu gynnal triniaethau milfeddygol ar anifeiliaid;

(b)gorchymyn bod anifeiliaid yn cael eu dadlwytho a’u trosglwyddo drwy gyfrwng cludo arall i ddaliad penodedig am gyfnod cwarantîn penodedig (pa un a yw hynny’n golygu gohirio cigydda’r anifeiliaid ai peidio);

(c)cigydda neu ladd yr anifeiliaid, ar yr amod mai dyma’r mesur mwyaf priodol er mwyn diogelu iechyd pobl yn ogystal ag o ran iechyd a lles anifeiliaid;

(ch)gwahardd rhoi’r anifail neu’r cynnyrch ar y farchnad, ei symud neu ei allforio, neu gyfyngu ar hynny, neu ei gwneud yn ofynnol ei ddychwelyd i’r wlad y’i hanfonwyd allan ohoni;

(d)gorchymyn y mewnforiwr i gynnal gwiriadau a rheolaethau systematig yn amlach ac yn fwy trylwyr cyn mewnforio anifeiliaid neu nwyddau pellach o’r un rhanbarth;

(dd)gorchymyn ynysu neu gau, am gyfnod priodol, fusnes cyfan neu ran o fusnes (gan gynnwys unrhyw werthiannau cynhyrchion cysylltiedig ar y rhyngrwyd ac ar-lein a allai beri risg i iechyd anifeiliaid neu bobl) y mae mewnforio anifail neu gynnyrch sy’n peri risg i iechyd anifeiliaid neu bobl yn effeithio arno;

(f)galw yn ôl, tynnu yn ôl, symud neu ddinistrio’r cynhyrchion;

(ff)rhoi triniaeth i gynhyrchion sydd i’w bwyta gan bobl, addasu labeli neu ddarparu gwybodaeth gywirol i ddefnyddwyr;

(g)atal dros dro neu dynnu yn ôl gofrestriad neu gymeradwyaeth i sefydliad, safle, daliad neu gyfrwng cludo perthnasol yr effeithir arno, neu awdurdodiad i gludwr;

(ng)defnyddio’r cynhyrchion at ddibenion ac eithrio’r rhai y’u bwriadwyd ar eu cyfer yn wreiddiol.

(4) Rhaid i swyddog sy’n awdurdodedig gan Weinidogion Cymru ddarparu’r canlynol i weithredwr busnes yr effeithir arno, neu ei gynrychiolydd—

(a)hysbysiad ysgrifenedig am y penderfyniad ynghylch y cam neu’r mesur sydd i’w gymryd yn unol â’r rheoliad hwn, ynghyd â’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw; a

(b)gwybodaeth am unrhyw hawl i gael adolygiad o’r penderfyniad hwnnw yn unol â rheoliad 35A.

(5) Mae’r holl wariant yr aed iddo o ganlyniad i gamau a gymerwyd gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan o dan y rheoliad hwn i’w dalu gan y gweithredwr cyfrifol.

(6) Yn achos dyroddi tystysgrifau swyddogol anwir neu gamarweiniol yng Nghymru, neu pan geir tystiolaeth o gamddefnyddio tystysgrifau swyddogol, caiff swyddog sy’n awdurdodedig gan Weinidogion Cymru gymryd camau priodol, gan gynnwys—

(a)atal dros dro y swyddog ardystio rhag ardystio unrhyw dystysgrifau sy’n gysylltiedig ag unrhyw fasnach berthnasol;

(b)tynnu yn ôl awdurdodiad person i lofnodi tystysgrifau swyddogol;

(c)unrhyw fesur arall y mae’r swyddog yn credu ei fod yn angenrheidiol er mwyn atal unrhyw achos o fethu â chydymffurfio neu gamddefnyddio rhag digwydd eto.

(28Ar ôl rheoliad 35 mewnosoder—

Adolygiad o benderfyniadau gan berson penodedig

35A.(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad a wneir o dan y Rheoliadau hyn, ac eithrio unrhyw benderfyniad y cyfeirir ato yn rheoliad 20 neu 23, ofyn am adolygiad o’r penderfyniad hwnnw gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru (“y person penodedig”).

(2) Caiff y person a dramgwyddir gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig o fewn 21 o ddiwrnodau i benodi’r person penodedig.

(3) Rhaid i’r person penodedig ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynir pan fo’n adolygu’r penderfyniad a herir a rhaid iddo roi adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru 21 o ddiwrnodau ar ôl i’r cyfnod ym mharagraff (2) ddod i ben gydag argymhellion ar gyfer dull gweithredu sy’n deillio o’r adolygiad.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried adroddiad y person penodedig a hysbysu’r perchennog yn brydlon am ganlyniad yr adolygiad a darparu copi o adroddiad y person penodedig.

(5) Nid yw adolygiad, neu’r hawl i gael adolygiad, yn effeithio ar y rhwymedigaeth sydd ar yr awdurdod dynodedig i gymryd camau prydlon i ddileu neu gyfyngu’r risg i iechyd pobl neu anifeiliaid.

(29Yn rheoliad 36, ar ôl y geiriau “Rheoliadau hyn”, ym mhob lle y maent yn digwydd, mewnosoder “neu Reoliad yr UE”.

(30Yn lle rheoliad 38 rhodder—

38.  Rhaid i Weinidogion Cymru godi ffi resymol mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd rheolaethau swyddogol yn unol â’r darpariaethau codi ffi a gynhwysir ym Mhennod 6, Teitl 2 o Reoliad yr UE, ac mae’r ffi honno yn daladwy gan y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth neu ei gynrychiolydd.

(31Yn rheoliad 39, yn y cofnod cyntaf yn y tabl—

(a)yn lle “rheoliad 5(1)” rhodder “rheoliad 5(1) ac (1A)”, a

(b)yn yr ail golofn, yn lle’r disgrifiad o’r drosedd rhodder—

  • Symudiadau heb fod dogfennau cywir yn dod gyda hwy.

(32Yn lle rheoliad 42 rhodder—

42.  Mae person sy’n euog o unrhyw dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.

(33Yn Atodlen 1—

(a)hepgorer y cofnodion yn y ddwy golofn sy’n ymwneud ag—

(i)Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC ar fesurau i fonitro sylweddau penodol a’u gweddillion mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid ac sy’n diddymu Cyfarwyddebau 85/358/EEC a 86/469/EEC a Phenderfyniadau 89/187/EEC a 91/664/EEC,

(ii)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 136/2004 sy’n gosod gweithdrefnau ar gyfer gwiriadau milfeddygol mewn arolygfeydd ar ffin y Gymuned ar gynhyrchion a fewnforir o drydydd gwledydd,

(iii)Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl,

(iv)Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau gwirio cydymffurfedd â’r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid, a

(v)Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Gorffennaf 2009 ar osod bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio;

(b)ar ôl yr eitem ‘Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1069/2009’, yn y golofn gyntaf mewnosoder—

Rheoliad (EU) 2016/1012 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 8 Mehefin 2016 ar amodau sootechnegol ac achyddol ar gyfer bridio a masnachu anifeiliaid bridio o frid pur, moch bridio hybrid a’u cynhyrchion cenhedlol, a dod â hwy i’r Undeb

Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(22) a Rheoliadau Gweithredu a Rheoliadau Dirprwyedig a wnaed oddi tano;

(c)yn yr ail golofn, mewn perthynas â’r cofnod ar gyfer “Rheoliad (EU) 2016/1012” a fewnosodir gan is-baragraff (b) mewnosoder—

  • Anifeiliaid bridio o frid pur, moch bridio hybrid a’u cynhyrchion cenhedlol;

(d)yn yr ail golofn, mewn perthynas â’r cofnod ar gyfer “Rheoliad (EU) 2017/625” a fewnosodir gan is-baragraff (b) mewnosoder—

  • Rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill.

(34Yn Atodlen 2—

(a)ym mhennawd Rhan 1, yn lle “rhwng” rhodder “gydag”;

(b)ym mharagraff 2—

(i)hepgorer is-baragraff (1);

(ii)yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) Ni chaiff unrhyw berson gludo gwartheg, moch, defaid na geifr i Aelod-wladwriaeth oni fo Gweinidogion Cymru wedi awdurdodi hynny yn unol ag Erthygl 11 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo a gweithrediadau cysylltiedig(23).;

(c)ym mharagraff 3—

(i)yn lle “rhwng Aelod-wladwriaethau” rhodder “i Aelod-wladwriaethau neu ohonynt”;

(ii)ar y diwedd mewnosoder “ac maent wedi eu hesemptio rhag y gofyniad yn rheoliad 7(2) i ddarparu rhybudd o un diwrnod gwaith i Weinidogion Cymru cyn y bwriedir i’r llwyth gyrraedd”;

(d)ym mharagraffau 4 a 5(4), yn lle “rhwng” rhodder “gydag”;

(e)ym mharagraff 7, yn lle “arall neu ddod â hwy i mewn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “neu ddod â hwy i mewn i Gymru o Aelod-wladwriaeth”;

(f)ym mharagraff 9(1), ar ôl “awdurdod cymwys ar gyfer” mewnosoder “mewnforio adar penodol ac amodau cwarantîn at ddibenion”;

(g)yn lle paragraff 10 rhodder—

10.  Pan fo ceffyl yn cael ei fewnforio o drydedd wlad o dan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/659 ar yr amodau mynediad i’r Undeb ar gyfer equidae byw a semen, ofa ac embryonau equidae(24) rhaid i’r milfeddyg swyddogol ddychwelyd y dystysgrif iechyd i’r person sy’n mynd gyda’r ceffyl, a gwneud cofnod o’r dystysgrif;

(h)yn lle paragraff 11, a phennawd y paragraff hwnnw, rhodder—

Cyflenwi â llong

11.(1) Rhaid i dystysgrif iechyd perthnasol sy’n ymwneud â’r cynnyrch hwnnw ddod gyda chynnyrch nad yw’n cydymffurfio â gofynion mewnforio ac sy’n cael ei anfon o safle rheoli ar y ffin i long, a rhaid i feistr y llestr gadarnhau y traddodwyd y cynnyrch drwy lofnodi tystysgrif y mae’n rhaid iddi ddod gyda’r llwyth i’w gyrchfan.

(2) O fewn 15 niwrnod i gwblhau traddodi cynhyrchion ar y llestr, rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y traddodiad, neu gynrychiolydd meistr y llestr, anfon y dystysgrif swyddogol wedi ei llofnodi gan feistr y llestr (neu ei hanfon drwy ddulliau a systemau electronig) at awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin lle cafwyd mynediad neu’r warws tollau a gymeradwywyd.;

(i)hepgorer paragraff 12.

(35Yn Atodlen 3—

(a)yn lle paragraff 2 (Achos 1: Mewnforion personol a llwythi bychain) rhodder—

2.  Y cynhyrchion y cyfeirir atynt yn Erthygl 7 ac Erthygl 10 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn a fabwysiadwyd yn unol ag Erthygl 48(d) ac (e) o Reoliad yr UE(25).;

(b)yn lle paragraff 4 (Achos 3: Samplau masnach a samplau ar gyfer astudiaeth benodol neu ddadansoddiad), a phennawd y paragraff hwnnw, rhodder—

Achos 3: Samplau ymchwil a samplau diagnostig

4.(1) Mae samplau ymchwil a samplau diagnostig fel y’u diffinnir ym mhwynt (38) o Atodiad 1 i Reoliad (EU) Rhif 142/2011(26) wedi eu hesemptio rhag gwiriadau milfeddygol yn y safle rheoli ar y ffin, ar yr amod eu bod wedi eu hawdurdodi ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru a bod y llwyth yn cael ei anfon yn uniongyrchol o’r man mynediad i’r defnyddiwr awdurdodedig.

(2) Mewn perthynas â samplau o’r fath sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig ac y bwriedir iddynt fynd i Aelod-wladwriaeth—

(a)rhaid i’r mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr gyflwyno samplau ymchwil a samplau diagnostig mewn safle rheoli ar y ffin lle ceir mynediad; a

(b)rhaid i awdurdod cymwys y safle rheoli ar y ffin hysbysu awdurdod cymwys yr Aelod-wladwriaeth sy’n gyrchfan bod y samplau wedi cyrraedd.;

(c)ym mhennawd paragraff 5, hepgorer “arall”;

(d)ym mharagraff 5, hepgorer “arall” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd;

(e)ar ôl paragraff 7 mewnosoder—

Achos 7: Anifeiliaid di-asgwrn-cefn a fwriedir ar gyfer dibenion gwyddonol

8.(1) Mae anifeiliaid di-asgwrn-cefn a fwriedir ar gyfer dibenion gwyddonol megis ymchwil, gweithgareddau addysgol neu ymchwil sy’n gysylltiedig â gweithgareddau datblygu cynnyrch wedi eu hesemptio rhag rheolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, ac eithrio rheolaethau a gynhelir yn unol ag Erthygl 15(2) o Reoliad (EU) Rhif 1143/2014(27), ar yr amod—

(a)eu bod yn cydymffurfio â’r holl ofynion iechyd anifeiliaid angenrheidiol;

(b)eu bod wedi eu hawdurdodi gan Weinidogion Cymru;

(c)pan fo’r gweithgareddau sy’n ymwneud â’r dibenion gwyddonol wedi eu cyflawni, rhaid iddynt hwy ac unrhyw gynhyrchion sy’n deillio ohonynt, ac eithrio unrhyw ddarnau a ddefnyddiwyd at y dibenion gwyddonol, gael eu gwaredu neu eu hailanfon i’r drydedd wlad y maent yn tarddu ohoni.

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fêl-wenyn (Apis mellifera), cacwn (Bombus spp), molysgiaid sy’n perthyn i’r ffylwm Mollusca na chramenogion sy’n perthyn i’r is-ffylwm Crustacea.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 23 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013LL+C

24.—(1Mae Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013(28) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 2(2)—

(i)hepgorer y diffiniad o “Regulation (EC) No 882/2004”, a

(ii)ar ôl y diffiniad o “Regulation (EC) No 1831/2003” mewnosoder—

“Regulation (EU) 2017/625” means Regulation (EU) 2017/625 of the European Parliament and of the Council on official controls and other official activities performed to ensure the application of food and feed law, rules on animal health and welfare, plant health and plant protection products(29);;

(b)yn rheoliad 45(3)(c), yn lle “Regulation (EC) No 882/2004” rhodder “Regulation (EU) 2017/625”;

(c)yn lle rheoliad 46(3)(f) rhodder—

(f)“Regulation (EU) 2017/625” of the European Parliament and of the Council on official controls and other official activities performed to ensure the application of food and feed law, rules on animal health and welfare, plant health and plant protection products;;

(d)yn Atodlen 5—

(i)yn y Cynnwys, yn eitem 4, yn lle “Regulation (EC) No 882/2004” rhodder “Regulation (EU) 2017/625”, a

(ii)ym mharagraff 4 a’r pennawd i’r paragraff hwnnw, yn lle “Regulation (EC) No 882/2004” rhodder “Regulation (EU) 2017/625”.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 24 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014LL+C

25.  Yn rheoliad 4(1)(c)(iii) o’r Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014(30), yn lle “Erthygl 22(1)” rhodder “Erthygl 138 (camau gweithredu os cadarnheir achos o fethu â chydymffurfio) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(31)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 25 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018LL+C

26.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018(32), yn y diffiniad o “carcas buchol”, yn lle’r geiriau “y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 5(2)” hyd at y diwedd rhodder “fel y’i diffinnir yn Erthygl 3(51) o Reoliad EU 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(33)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 26 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018LL+C

27.  Yn Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018(34), hepgorer rheoliad 11.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 27 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018LL+C

28.—(1Mae Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018(35) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y diffiniad o “safle torri”, yn lle “o dan Erthygl 31(2) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004” rhodder “o dan Erthygl 148(3) o Reoliad (EU) 2017/625”,

(b)yn y diffiniad o “lladd-dy” yn lle “o dan Erthygl 31(2) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004” rhodder “o dan Erthygl 148(3) o Reoliad (EU) 2017/625”,

(c)hepgorer y diffiniad o “Rheoliad (EC) Rhif 882/2004”, a

(d)ar ôl y diffiniad o “Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009” mewnosoder—

ystyr “Rheoliad (EU) 2017/625” (“Regulation (EU) 2017/625”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(36);.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 28 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019LL+C

F129.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 29 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019LL+C

30.  Yn Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(37), hepgorer rheoliad 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 30 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)

(1)

O.S. 2006/179 (Cy. 30), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

(3)

O.S. 2006/180 (Cy. 31), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(4)

OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1.

(5)

O.S. 2006/3309 (Cy. 299), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

(7)

O.S. 2006/3310 (Cy. 300), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

(9)

O.S. 2007/1047 (Cy. 105); ceir diwygiad rhagolygol perthnasol yn O.S. 2019/684 (Cy. 131).

(10)

O.S. 2007/3070 (Cy. 264); yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2010/2713 (Cy. 229).

(11)

OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

(13)

OJ Rhif L 76, 16.3.2007, t. 12.

(14)

OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

(15)

OJ Rhif L 171, 29.6.2016, t. 66.

(16)

OJ Rhif L 84, 31.3.2016, t. 1.

(17)

OJ Rhif L 17, 28.6.2013, t. 1.

(18)

OJ Rhif L 261, 14.10.2019, t. 37.

(19)

OJ Rhif L 250, 30.7.2019, t. 6.

(20)

OJ Rhif L 3, 5.1.2005, t. 1.

(21)

OJ Rhif L 54, 26.2.2011, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan OJ L 185, 11.7.2019, t. 26.

(22)

OJ Rhif L 95, 7.04.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

(23)

OJ Rhif L 3, 5.1.2005, t. 1.

(24)

OJ Rhif L 110, 30.4.2018, t. 1.

(25)

Mabwysiadwyd Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn ym Mrwsel ar 10.10.2019 o dan y cyfeirnod C(2019) 7007 final, ond nid yw’r offeryn wedi ei gyhoeddi yn y Cyfnodolyn Swyddogol.

(26)

OJ Rhif L 54, 26.2.2011, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan OJ L 185, 11.7.2019, t. 26.

(27)

OJ Rhif L 317, 4.11.2014, t. 35.

(28)

O.S. 2013/2033, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(29)

OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

(30)

O.S. 2014/951 (Cy. 92), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(31)

OJ Rhif L 95, 7. 4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

(32)

O.S. 2018/1215 (Cy. 248), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(33)

OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

(36)

OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill