Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Pwerau archwilwyr

5.—(1Caiff archwilydd arfer y pwerau yn y rheoliad hwn a chynnal archwiliad yn unol â Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE os caiff ei awdurdodi i wneud hynny—

(a)mewn perthynas â chynnal archwiliad o weithgareddau awdurdod dynodedig, gan yr awdurdod dynodedig, neu

(b)mewn perthynas â chynnal archwiliad yn unol â rheoliad 6(2), gan Weinidogion Cymru.

(2At ddibenion cynnal archwiliad, caiff archwilydd fynd i fangre y mae gan arolygydd bŵer i fynd iddi o dan ddeddfwriaeth berthnasol (“mangre sy’n destun archwiliad”) fel pe bai’r archwilydd yn arolygydd sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer mynd iddi o dan y ddeddfwriaeth berthnasol honno.

(3Caiff unrhyw berson y mae ei gymorth yn rhesymol ofynnol gan yr archwilydd fynd gydag archwilydd sy’n arfer pwer i fynd i fangre.

(4Caiff archwilydd ofyn i unrhyw berson mewn unrhyw fangre sy’n destun archwiliad am unrhyw wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol at ddibenion yr archwiliad, a chaiff arolygu unrhyw gofnodion sy’n rhesymol ofynnol at y dibenion hynny.

(5Caiff archwilydd wneud copïau o gofnodion o’r fath neu wneud copïau ohonynt yn ofynnol.

(6Wrth arfer y pwerau a roddir gan y rheoliad hwn, rhaid i archwilydd, pan ofynnir iddo, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad o dan y Rheoliadau hyn.

(7Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo archwilydd yn cynnal archwiliad yn unol â rheoliad 7 ar ran yr Asiantaeth.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill