xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CCyffredinol

Enwi, rhychwant a chymhwyso, a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020.

(2Mae’r Rheoliadau hyn—

(a)yn rhychwantu Cymru a Lloegr;

(b)yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Ebrill 2020.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

DehongliLL+C

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—

(a)

prif gyngor;

(b)

gweithrediaeth prif gyngor (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000);

(c)

cyngor cymuned;

(d)

cyd-fwrdd ar gyfer ardal yng Nghymru, sy’n dal i fodoli yn rhinwedd adran 263(1) o Ddeddf 1972;

(e)

awdurdod iechyd porthladd ar gyfer ardal iechyd porthladd yng Nghymru, a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1);

(f)

awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru, a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(2) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno’n gymwys iddo;

(g)

awdurdod Parc Cenedlaethol;

(h)

cydbwyllgor o ddau neu ragor o’r cyrff a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (g);

(i)

pwyllgor neu gydbwyllgor o unrhyw un neu ragor o’r cyrff a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (h);

ystyr “awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park authority”) yw awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer ardal yng Nghymru, a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(3);

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(4);

ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad i’r graddau y mae’n cynnwys darpariaeth a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf Cynulliad;

ystyr “prif gyngor” (“principal council”) yw cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

Rhyngweithio â rheolau sefydlog etc.LL+C

3.—(1Mae’r ddarpariaeth a wneir yn y Rheoliadau hyn yn gymwys ni waeth am unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir yn y rheolau sefydlog, y trefniadau gweithrediaeth neu unrhyw reolau eraill sydd gan awdurdod lleol.

(2I’r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth mewn rheolau sefydlog, trefniadau gweithrediaeth neu reolau eraill awdurdod lleol yn anghydnaws ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, nid yw’n cael unrhyw effaith tra bo’r ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

Cyhoeddi’n electronigLL+C

4.  Os oes gan y corff y gosodir y gofyniad arno ei wefan ei hun, mae gofyniad a osodir yn rhinwedd y Rheoliadau hyn i gyhoeddi hysbysiad neu ddogfen yn electronig yn ofyniad i’w cyhoeddi ar y wefan honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)