xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â phrif gyngor nad yw wedi cynnal cyfarfod blynyddol—
(a)ar neu ar ôl 1 Mawrth 2020, a
(b)cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(2) Mae Atodlen 12 i Ddeddf 1972 (cyfarfodydd a thrafodion awdurdodau lleol) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod, ym mharagraff 1(2) (cyfarfodydd blynyddol prif gynghorau), o flaen paragraff (b)(1)—
“(ab)in 2020, on such day in 2020 as the proper officer of the council may fix;”.
7. Mae Atodlen 12 i Ddeddf 1972 i’w darllen fel pe bai “in 2020, the annual meeting is to be held on such day in 2020 as the proper officer of the council may determine,” wedi ei fewnosod, ym mharagraff 23(2)(2) (cyfarfodydd blynyddol cynghorau cymuned), ar ôl “take office,”.
8. Mae paragraff 2 o Atodlen 3 i Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995(3) (cyfarfodydd blynyddol) i’w ddarllen fel pe bai—
(a)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (1)—
“(1A) But in 2020, the annual meeting is to be on such day in that year, and at such hour, as is fixed by the chair of the Authority after consulting the proper officer of the Authority.”;
(b)“Other than in 2020,” wedi ei fewnosod yn is-baragraff (2), ar y dechrau.
9.—(1) Caniateir cynnal cyfarfod y mae’n ofynnol, yn rhinwedd deddfiad neu offeryn arall, i awdurdod lleol ei gynnal cyn 1 Mai 2021 ar unrhyw ddiwrnod ac ar unrhyw amser cyn 1 Mai 2021 y mae’r awdurdod lleol yn ei bennu (pa un a yw’n ddarostyngedig i unrhyw ofynion eraill ai peidio o ran pryd y mae rhaid ei gynnal).
(2) Yn y rheoliad hwn, nid yw “cyfarfod” yn cynnwys cyfarfod blynyddol—
(a)prif gyngor;
(b)cyngor cymuned;
(c)awdurdod Parc Cenedlaethol.
10. Mae adran 85(4) o Ddeddf 1972 (gadael swydd yn sgil methu mynychu cyfarfodydd) i’w darllen mewn perthynas ag awdurdod lleol y mae’r adran honno yn gymwys iddo (yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad) fel pe bai—
(a)“(3C) to (3D)” wedi ei osod yn lle “(3C) and (3D)” yn is-adran (3B);
(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (3C)—
“(3CA) In relation to a member of a local authority in Wales, the period—
(a)beginning with the day on which the Local Authorities (Coronavirus) (Meetings) (Wales) Regulations 2020 come into force, and
(b)ending with the first day after the day mentioned in paragraph (a) on which a meeting is held, attendance at which would be—
(i)attendance by the member at a meeting of the local authority for the purposes of subsection (1), or
(ii)if the member is a member of the executive of the local authority, attendance by the member at a meeting of the executive for the purposes of subsection (2A),
is to be disregarded.”;
(c)“or (as the case may be) (3CA)” wedi ei fewnosod ar ôl “(3C)” ym mhob un o baragraffau (a) a (b) yn is-adran (3D).
11.—(1) Mae Deddf 1972 i’w darllen yn ddarostyngedig i’r rheoliad hwn.
(2) Mae adran 22(1) (cadeirydd) i’w darllen fel pe bai “; but if there is no election of a chair at the annual meeting of the council in 2020, the person holding office as chair immediately before the annual meeting of the council in 2020 may continue to hold office.” wedi ei fewnosod ar ôl “councillors”.
(3) Mae adran 23 (ethol cadeirydd) i’w darllen fel pe bai—
(a)“unless, in relation to the annual meeting held in 2020, the council decides not to hold an election of a chair at that meeting” wedi ei fewnosod yn is-adran (1), ar ôl “council”;
(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (1)—
“(1A) A principal council that did not elect a chair at its annual meeting held in 2020 may hold an election of a chair at any time before the annual meeting held in 2021 (but not after 30 April 2021).”
(4) Mae adran 24(2) (is-gadeirydd) i’w darllen fel pe bai “the next election of a chair held other than under section 88” wedi ei roi yn lle “the election of a chairman at the next annual meeting of the council”.
(5) Mae adran 34 (cynghorau cymuned) i’w darllen fel pe bai—
(a)“; but if there is no election of a chair at the annual meeting of the council in 2020, the person holding office as chair immediately before the annual meeting of the council in 2020 may continue to hold office” wedi ei fewnosod yn is-adran (1), ar ôl “councillors”;
(b)“; but the community council may decide not to hold an election of a chair at the annual meeting held in 2020” wedi ei fewnosod yn is-adran (2), ar ôl “subsection (3) below”;
(c)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (2)—
“(2A) A community council that did not elect a chair at its annual meeting held in 2020 may hold an election of a chair at any time before 1 May 2021.”;
(d)“the next election of a chair held other than under section 88” wedi ei roi yn lle “the election of a chairman at the next annual meeting of the council”, yn is-adran (7).
12. Mae paragraff 5(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995(5) (awdurdodau Parciau Cenedlaethol) i’w ddarllen fel pe bai “ending when the annual meeting of the authority which follows their election is held under paragraph 2(1) of Schedule 3 to the National Park Authorities (Wales) Order 1995 (S.I. 1995/2803)” wedi ei roi yn lle “not exceeding one year”.
13. Mae erthygl 5 o Orchymyn Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe 1991(6) i’w darllen fel pe bai—
(a)“unless, in relation to the annual meeting held in 2020, the board decides not to hold an election of a chair at that meeting; if there is no election at that meeting the person holding office as chair immediately before that meeting may hold office for more than one year” wedi ei fewnosod ym mharagraff (1), ar ôl “amongst the members”;
(b)“unless, in relation to the annual meeting held in 2020, the board decides not to hold an election of a chair at that meeting” wedi ei fewnosod ym mharagraff (2), ar ôl “board”.
14.—(1) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfarfod perthnasol” (“relevant meeting”) yw cyfarfod awdurdod lleol sydd i’w gynnal cyn 1 Mai 2021;
ystyr “swydd berthnasol” (“relevant office”) yw swydd y penodir neu yr etholir person iddi mewn cyfarfod perthnasol, heblaw swyddi—
cadeirydd ac is-gadeirydd prif gyngor;
cadeirydd ac is-gadeirydd cyngor cymuned;
cadeirydd a dirprwy gadeirydd awdurdod Parc Cenedlaethol;
cadeirydd Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe.
(2) Mae unrhyw ofyniad a osodir gan unrhyw ddeddfiad neu offeryn arall i benodi neu ethol person i swydd berthnasol mewn cyfarfod perthnasol, heblaw gofyniad i lenwi lle gwag yn y swydd honno, i’w drin fel pŵer i benodi neu ethol person i’r swydd honno mewn unrhyw gyfarfod perthnasol.
(3) Mae cyfnod swydd person sy’n dal swydd berthnasol yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn parhau tan yn union cyn i olynydd y person hwnnw ddod i’w swydd, er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad neu offeryn arall, heblaw darpariaeth sy’n ymwneud â gadael y swydd cyn diwedd cyfnod y swydd.
15. Tan ddiwedd 30 Ebrill 2021, mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006(7) i’w darllen fel pe bai—
(a)yn rheoliad 4A, paragraff (3)(b) wedi ei hepgor;
(b)yn Atodlen 2A(8), paragraff 2 (rheolau sefydlog sy’n ymwneud ag awdurdodau cynllunio lleol) wedi ei hepgor.
16. Mae paragraff 29 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 (pleidleisio yng nghyfarfodydd cynghorau cymuned) yn cael effaith mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn 1 Mai 2021 fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraff (1)—
“(1) The manner of voting at meetings of a community council is to be decided by the council, but (if a vote is necessary on that question) the proper officer is to determine the manner of voting on that decision; if agreement cannot be reached, the proper officer is to determine the manner of voting on all other matters.”
17.—(1) Mae paragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 (cyfarfodydd prif gynghorau) yn cael effaith mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn 1 Mai 2021 fel pe bai—
(a)yn is-baragraff (2)—
(i)ym mharagraff (a), “of the meeting and, if the meeting is to be open to the public, how to access the meeting, must be published electronically”, wedi ei roi yn lle “and place of the intended meeting shall be published at the council’s offices”;
(ii)ym mharagraff (a), “set out the names of those members” wedi ei roi yn lle “be signed by those members”;
(iii)ym mharagraff (b), “authenticated by the proper officer of the council in such manner as the proper officer considers appropriate” wedi ei roi yn lle “signed by the proper officer of the council”;
(iv)y canlynol wedi ei roi yn lle’r geiriau o “shall” hyd at ddiwedd paragraff (b),
“must be sent to every member of the council by—
(a)sending it by post to the member’s place of residence, or
(b)sending it electronically.”;
(b)is-baragraff (3) wedi ei hepgor.
(2) Mae paragraff 26(2)(9) o Atodlen 12 (cyfarfodydd cynghorau cymuned) yn cael effaith mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn 1 Mai 2021 fel pe bai—
(a)ym mharagraff (a)—
(i)“of the meeting and, if the meeting is to be open to the public, how to access the meeting, must be published electronically” wedi ei roi yn lle “and place of the intended meeting shall be published electronically and fixed in some conspicuous place in the community”;
(ii)“set out the names of those members” wedi ei roi yn lle “be signed by those members”;
(b)ym mharagraff (b)—
(i)“authenticated by the proper officer of the council in such manner as the proper officer considers appropriate” wedi ei roi yn lle “signed by the proper officer of the council”;
(ii)y canlynol wedi ei roi yn lle’r geiriau o “shall” hyd at ddiwedd y paragraff hwnnw,
“must be sent to every member of the council by—
(a)sending it by post to the member’s place of residence, or
(b)sending it electronically.”
18. Mae paragraff 6 o Atodlen 3 i Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 (galw cyfarfodydd) yn cael effaith mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn 1 Mai 2021 fel pe bai—
(a)yn is-baragraff (2)(a)—
(i)“of the meeting and, if the meeting is to be open to the public, how to access the meeting, must be published electronically” wedi ei roi yn lle “and place of the intended meeting shall be published at the principal offices of the Authority”;
(ii)“set out the names of those members” wedi ei roi yn lle “be signed by those members”;
(b)yn is-baragraff (2)(b)(10)—
(i)“authenticated by the proper officer of the Authority in such manner as the proper officer considers appropriate, must be” wedi ei roi yn lle “signed by the proper officer of the Authority shall, subject to sub-paragraph (3) below, be left at or”;
(ii)“usual” wedi ei hepgor;
(iii)“or sent electronically to every member of the Authority,” wedi ei fewnosod ar ôl “member of the Authority”;
(c)is-baragraff (3) wedi ei hepgor.
Diwygiwyd paragraff 1(2)(b) gan adran 1(6) o Ddeddf Etholiadau 2001 (p. 7).
Diwygiwyd paragraff 23(2) gan erthygl 4 o Orchymyn Deddf Etholiadau 2001 (Darpariaethau Atodol) 2001 (O.S. 2001/1630).
O.S. 1995/2803. Ceir diwygiadau i Atodlen 3 nad yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Mewnosodwyd is-adrannau (3B), (3C) a (3D) gan adran 31 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4).
Mewnosodwyd Atodlen 2A gan reoliad 2(4) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/460 (Cy. 98)).
Diwygiwyd paragraff 26(2) gan adran 57 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4).
Diwygiwyd paragraff 6(2)(b) gan baragraff 52 o Atodlen 4 i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755 (Cy. 90)).