Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020

Newidiadau dros amser i: RHAN 3

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020, RHAN 3. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 3LL+CGofynion ynglŷn â chyfarfodydd

Pryd y caniateir cynnal cyfarfodydd blynyddol penodolLL+C

6.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â phrif gyngor nad yw wedi cynnal cyfarfod blynyddol—

(a)ar neu ar ôl 1 Mawrth 2020, a

(b)cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(2Mae Atodlen 12 i Ddeddf 1972 (cyfarfodydd a thrafodion awdurdodau lleol) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod, ym mharagraff 1(2) (cyfarfodydd blynyddol prif gynghorau), o flaen paragraff (b)(1)

(ab)in 2020, on such day in 2020 as the proper officer of the council may fix;.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 6 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

7.  Mae Atodlen 12 i Ddeddf 1972 i’w darllen fel pe bai “in 2020, the annual meeting is to be held on such day in 2020 as the proper officer of the council may determine,” wedi ei fewnosod, ym mharagraff 23(2)(2) (cyfarfodydd blynyddol cynghorau cymuned), ar ôl “take office,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 7 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

8.  Mae paragraff 2 o Atodlen 3 i Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995(3) (cyfarfodydd blynyddol) i’w ddarllen fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (1)—

(1A) But in 2020, the annual meeting is to be on such day in that year, and at such hour, as is fixed by the chair of the Authority after consulting the proper officer of the Authority.;

(b)“Other than in 2020,” wedi ei fewnosod yn is-baragraff (2), ar y dechrau.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 8 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

Dyddiad ac amser cyfarfodydd eraillLL+C

9.—(1Caniateir cynnal cyfarfod y mae’n ofynnol, yn rhinwedd deddfiad neu offeryn arall, i awdurdod lleol ei gynnal cyn 1 Mai 2021 ar unrhyw ddiwrnod ac ar unrhyw amser cyn 1 Mai 2021 y mae’r awdurdod lleol yn ei bennu (pa un a yw’n ddarostyngedig i unrhyw ofynion eraill ai peidio o ran pryd y mae rhaid ei gynnal).

(2Yn y rheoliad hwn, nid yw “cyfarfod” yn cynnwys cyfarfod blynyddol—

(a)prif gyngor;

(b)cyngor cymuned;

(c)awdurdod Parc Cenedlaethol.

[F1(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag—

(a)y gofyniad—

(i)o dan adran 115 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan adran 114 o’r Ddeddf honno;

(ii)o dan adran 115B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan adran 114A o’r Ddeddf honno;

(iii)o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan yr adran honno gan bennaeth gwasanaeth taledig;

(iv)o dan adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan yr adran honno gan swyddog monitro neu ddirprwy i swyddog monitro;

(v)o dan adran 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan yr adran honno gan swyddog monitro neu ddirprwy i swyddog monitro;

(vi)o dan adran 25 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan adran 22 o’r Ddeddf honno, neu argymhelliad o fewn adran 25(2) o’r Ddeddf honno;

(b)unrhyw ofyniad i gynnal cyfarfod cyn gynted ag y bo’n ymarferol (sut bynnag y mynegir y gofyniad hwnnw).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 9 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

Methu mynychu cyfarfodyddLL+C

10.  Mae adran 85(4) o Ddeddf 1972 (gadael swydd yn sgil methu mynychu cyfarfodydd) i’w darllen mewn perthynas ag awdurdod lleol y mae’r adran honno yn gymwys iddo (yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad) fel pe bai—

(a)“(3C) to (3D)” wedi ei osod yn lle “(3C) and (3D)” yn is-adran (3B);

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (3C)—

(3CA) In relation to a member of a local authority in Wales, the period—

(a)beginning with the day on which the Local Authorities (Coronavirus) (Meetings) (Wales) Regulations 2020 come into force, and

(b)ending with the first day after the day mentioned in paragraph (a) on which a meeting is held, attendance at which would be—

(i)attendance by the member at a meeting of the local authority for the purposes of subsection (1), or

(ii)if the member is a member of the executive of the local authority, attendance by the member at a meeting of the executive for the purposes of subsection (2A),

is to be disregarded.;

(c)“or (as the case may be) (3CA)” wedi ei fewnosod ar ôl “(3C)” ym mhob un o baragraffau (a) a (b) yn is-adran (3D).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 10 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

Ethol cadeiryddion ac is-gadeiryddion prif gynghorau a chynghorau cymuned yn y cyfarfodydd blynyddolLL+C

11.—(1Mae Deddf 1972 i’w darllen yn ddarostyngedig i’r rheoliad hwn.

(2Mae adran 22(1) (cadeirydd) i’w darllen fel pe bai “; but if there is no election of a chair at the annual meeting of the council in 2020, the person holding office as chair immediately before the annual meeting of the council in 2020 may continue to hold office.” wedi ei fewnosod ar ôl “councillors”.

(3Mae adran 23 (ethol cadeirydd) i’w darllen fel pe bai—

(a)“unless, in relation to the annual meeting held in 2020, the council decides not to hold an election of a chair at that meeting” wedi ei fewnosod yn is-adran (1), ar ôl “council”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (1)—

(1A) A principal council that did not elect a chair at its annual meeting held in 2020 may hold an election of a chair at any time before the annual meeting held in 2021 (but not after 30 April 2021).

(4Mae adran 24(2) (is-gadeirydd) i’w darllen fel pe bai “the next election of a chair held other than under section 88” wedi ei roi yn lle “the election of a chairman at the next annual meeting of the council”.

(5Mae adran 34 (cynghorau cymuned) i’w darllen fel pe bai—

(a)“; but if there is no election of a chair at the annual meeting of the council in 2020, the person holding office as chair immediately before the annual meeting of the council in 2020 may continue to hold office” wedi ei fewnosod yn is-adran (1), ar ôl “councillors”;

(b)“; but the community council may decide not to hold an election of a chair at the annual meeting held in 2020” wedi ei fewnosod yn is-adran (2), ar ôl “subsection (3) below”;

(c)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (2)—

(2A) A community council that did not elect a chair at its annual meeting held in 2020 may hold an election of a chair at any time before 1 May 2021.;

(d)“the next election of a chair held other than under section 88” wedi ei roi yn lle “the election of a chairman at the next annual meeting of the council”, yn is-adran (7).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 11 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

Ethol cadeiryddion ac is-gadeiryddion awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn y cyfarfodydd blynyddolLL+C

12.  Mae paragraff 5(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995(5) (awdurdodau Parciau Cenedlaethol) i’w ddarllen fel pe bai “ending when the annual meeting of the authority which follows their election is held under paragraph 2(1) of Schedule 3 to the National Park Authorities (Wales) Order 1995 (S.I. 1995/2803)” wedi ei roi yn lle “not exceeding one year”.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 12 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

Ethol cadeirydd y cyd-fwrdd gan Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe yn y cyfarfod blynyddolLL+C

13.  Mae erthygl 5 o Orchymyn Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe 1991(6) i’w darllen fel pe bai—

(a)“unless, in relation to the annual meeting held in 2020, the board decides not to hold an election of a chair at that meeting; if there is no election at that meeting the person holding office as chair immediately before that meeting may hold office for more than one year” wedi ei fewnosod ym mharagraff (1), ar ôl “amongst the members”;

(b)“unless, in relation to the annual meeting held in 2020, the board decides not to hold an election of a chair at that meeting” wedi ei fewnosod ym mharagraff (2), ar ôl “board”.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 13 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

Penodiadau ac etholiadau eraill y mae’n ofynnol eu cynnal mewn cyfarfodyddLL+C

14.—(1Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfarfod perthnasol” (“relevant meeting”) yw cyfarfod awdurdod lleol sydd i’w gynnal cyn 1 Mai 2021;

ystyr “swydd berthnasol” (“relevant office”) yw swydd y penodir neu yr etholir person iddi mewn cyfarfod perthnasol, heblaw swyddi—

(a)

cadeirydd ac is-gadeirydd prif gyngor;

(b)

cadeirydd ac is-gadeirydd cyngor cymuned;

(c)

cadeirydd a dirprwy gadeirydd awdurdod Parc Cenedlaethol;

(d)

cadeirydd Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe.

(2Mae unrhyw ofyniad a osodir gan unrhyw ddeddfiad neu offeryn arall i benodi neu ethol person i swydd berthnasol mewn cyfarfod perthnasol, heblaw gofyniad i lenwi lle gwag yn y swydd honno, i’w drin fel pŵer i benodi neu ethol person i’r swydd honno mewn unrhyw gyfarfod perthnasol.

(3Mae cyfnod swydd person sy’n dal swydd berthnasol yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn parhau tan yn union cyn i olynydd y person hwnnw ddod i’w swydd, er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad neu offeryn arall, heblaw darpariaeth sy’n ymwneud â gadael y swydd cyn diwedd cyfnod y swydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 14 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

Aelodau dirprwyol pwyllgorau awdurdodau cynllunio lleolLL+C

15.  Tan ddiwedd 30 Ebrill 2021, mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006(7) i’w darllen fel pe bai—

(a)yn rheoliad 4A, paragraff (3)(b) wedi ei hepgor;

(b)yn Atodlen 2A(8), paragraff 2 (rheolau sefydlog sy’n ymwneud ag awdurdodau cynllunio lleol) wedi ei hepgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 15 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

Pleidleisio yng nghyfarfodydd cynghorau cymunedLL+C

16.  Mae paragraff 29 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 (pleidleisio yng nghyfarfodydd cynghorau cymuned) yn cael effaith mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn 1 Mai 2021 fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraff (1)—

(1) The manner of voting at meetings of a community council is to be decided by the council, but (if a vote is necessary on that question) the proper officer is to determine the manner of voting on that decision; if agreement cannot be reached, the proper officer is to determine the manner of voting on all other matters.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 16 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

Hysbysiadau a gwysionLL+C

17.—(1Mae paragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 (cyfarfodydd prif gynghorau) yn cael effaith mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn 1 Mai 2021 fel pe bai—

(a)yn is-baragraff (2)—

(i)ym mharagraff (a), “of the meeting and, if the meeting is to be open to the public, how to access the meeting, must be published electronically”, wedi ei roi yn lle “and place of the intended meeting shall be published at the council’s offices”;

(ii)ym mharagraff (a), “set out the names of those members” wedi ei roi yn lle “be signed by those members”;

(iii)ym mharagraff (b), “authenticated by the proper officer of the council in such manner as the proper officer considers appropriate” wedi ei roi yn lle “signed by the proper officer of the council”;

(iv)y canlynol wedi ei roi yn lle’r geiriau o “shall” hyd at ddiwedd paragraff (b),

must be sent to every member of the council by—

(a)sending it by post to the member’s place of residence, or

(b)sending it electronically.;

(b)is-baragraff (3) wedi ei hepgor.

(2Mae paragraff 26(2)(9) o Atodlen 12 (cyfarfodydd cynghorau cymuned) yn cael effaith mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn 1 Mai 2021 fel pe bai—

(a)ym mharagraff (a)—

(i)“of the meeting and, if the meeting is to be open to the public, how to access the meeting, must be published electronically” wedi ei roi yn lle “and place of the intended meeting shall be published electronically and fixed in some conspicuous place in the community”;

(ii)“set out the names of those members” wedi ei roi yn lle “be signed by those members”;

(b)ym mharagraff (b)—

(i)“authenticated by the proper officer of the council in such manner as the proper officer considers appropriate” wedi ei roi yn lle “signed by the proper officer of the council”;

(ii)y canlynol wedi ei roi yn lle’r geiriau o “shall” hyd at ddiwedd y paragraff hwnnw,

must be sent to every member of the council by—

(a)sending it by post to the member’s place of residence, or

(b)sending it electronically.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 17 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

18.  Mae paragraff 6 o Atodlen 3 i Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 (galw cyfarfodydd) yn cael effaith mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn 1 Mai 2021 fel pe bai—

(a)yn is-baragraff (2)(a)—

(i)“of the meeting and, if the meeting is to be open to the public, how to access the meeting, must be published electronically” wedi ei roi yn lle “and place of the intended meeting shall be published at the principal offices of the Authority”;

(ii)“set out the names of those members” wedi ei roi yn lle “be signed by those members”;

(b)yn is-baragraff (2)(b)(10)

(i)“authenticated by the proper officer of the Authority in such manner as the proper officer considers appropriate, must be” wedi ei roi yn lle “signed by the proper officer of the Authority shall, subject to sub-paragraph (3) below, be left at or”;

(ii)“usual” wedi ei hepgor;

(iii)“or sent electronically to every member of the Authority,” wedi ei fewnosod ar ôl “member of the Authority”;

(c)is-baragraff (3) wedi ei hepgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 18 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

(1)

Diwygiwyd paragraff 1(2)(b) gan adran 1(6) o Ddeddf Etholiadau 2001 (p. 7).

(2)

Diwygiwyd paragraff 23(2) gan erthygl 4 o Orchymyn Deddf Etholiadau 2001 (Darpariaethau Atodol) 2001 (O.S. 2001/1630).

(3)

O.S. 1995/2803. Ceir diwygiadau i Atodlen 3 nad yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(4)

Mewnosodwyd is-adrannau (3B), (3C) a (3D) gan adran 31 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4).

(8)

Mewnosodwyd Atodlen 2A gan reoliad 2(4) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/460 (Cy. 98)).

(9)

Diwygiwyd paragraff 26(2) gan adran 57 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4).

(10)

Diwygiwyd paragraff 6(2)(b) gan baragraff 52 o Atodlen 4 i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755 (Cy. 90)).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill