Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 7(2)—

(a)o flaen is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)i weinyddu priodas neu ffurfio partneriaeth sifil, pan fo gan barti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil salwch angheuol ac na ddisgwylir iddo wella,;

(b)yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)i ddarlledu (boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu)—

(i)gweithred o addoli (heb gynulleidfa);

(ii)gweinyddu priodas neu ffurfio partneriaeth sifil a ganiateir gan is-baragraff (aa);

(iii)angladd, neu .

(3Yn lle rheoliad 8 rhodder—

Cyfyngiadau ar symud a bod o dan do yn ystod cyfnod yr argyfwng

8.(1) Yn ystod cyfnod yr argyfwng, ni chaiff neb, heb esgus rhesymol—

(a)gadael yr ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r ardal honno;

(b)bod o dan do gyda pherson arall nad yw—

(i)yn aelod o’i aelwyd,

(ii)yn ofalwr iddo, neu

(iii)yn berson y mae’n darparu gofal iddo.

(2) Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol (ond gweler paragraff (3))—

(a)cael cyflenwadau oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1 gan gynnwys—

(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini yn yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid yn yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;

(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;

(b)cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 38 neu 39 o Atodlen 1 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;

(c)ceisio cynhorthwy meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 42 o Atodlen 1 neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(d)darparu neu gael gofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal personol perthnasol, o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006( ), lle y mae’r person sy’n derbyn y gofal yn berson hyglwyf;

(e)darparu neu gael cynhorthwy brys;

(f)rhoi gwaed;

(g)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol (ond gweler hefyd reoliad 8A);

(h)galluogi i waith gael ei wneud mewn unrhyw fangre (ond gweler hefyd reoliad 8A);

(i)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil, pan fo gan barti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil salwch angheuol ac na ddisgwylir iddo wella—

(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,

(ii)os caiff ei wahodd i fynychu, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil.

(j)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(k)ymweld â mynwent, claddfa neu ardd goffa i dalu teyrnged i berson ymadawedig;

(l)bodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(m)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol neu gael y gwasanaethau hynny, gan gynnwys —

(i)gofal plant neu wasanaethau addysgol (pan fo’r rhain yn dal i fod ar gael i blentyn y mae’r person yn rhiant mewn perthynas ag ef, neu y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto, neu ofal drosto);

(ii)gwasanaethau cymdeithasol;

(iii)gwasanaethau a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau;

(iv)gwasanaethau a ddarperir i ddioddefwyr (megis dioddefwyr trosedd neu drais domestig);

(n)ymweld â llyfrgell;

(o)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw yn yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(p)yn achos gweinidog yr efengyl neu arweinydd addoli, mynd i’w fan addoli;

(q)symud tŷ pan na fo modd gohirio’r symud;

(r)osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.

(3) At ddibenion paragraff (1)(a), nid yw’n esgus rhesymol i berson adael yr ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’r person yn byw er mwyn gwneud rhywbeth, neu aros i ffwrdd o’r ardal er mwyn gwneud rhywbeth, os byddai’n rhesymol ymarferol iddo wneud y peth hwnnw o fewn yr ardal.

(4) Nid yw paragraff (1)(a) yn gymwys i berson sy’n gwneud ymarfer corff, pan fo’r ymarfer corff yn dechrau ac yn gorffen yn y man lle y mae’r person yn byw.

(5) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson sy’n ddigartref

(4Ar ôl rheoliad 8 newydd mewnosoder—

Gofyniad i barhau i weithio gartref pan fo’n ymarferol

8A.(1) Yn ystod cyfnod yr argyfwng, o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) ni chaiff unrhyw berson adael y man lle y mae’n byw, neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw, at ddibenion gwaith neu i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol.

(2) Yr amgylchiadau yw ei bod yn rhesymol ymarferol i’r person weithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol o’r man lle y mae’n byw.

(3) At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r man lle y mae person yn byw yn cynnwys y fangre lle y mae’n byw ynghyd ag unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, garej, tŷ allan neu unrhyw atodyn i fangre o’r fath.

(5Ar ôl rheoliad newydd 8A mewnosoder—

Cyfyngiadau ar ymgynnull â phersonau eraill

8B.  Yn ystod cyfnod yr argyfwng, ni chaiff unrhyw berson gymryd rhan mewn cynulliad yn yr awyr agored ac eithrio—

(a)pan fo’r personau sy’n ymgynnull yn aelodau o ddim mwy na dwy aelwyd,

(b)pan fo’r cynulliad yn hanfodol at ddibenion gwaith,

(c)i fynd i angladd, neu

(d)pan fo’r cynulliad yn angenrheidiol—

(i)i hwyluso symud tŷ,

(ii)i ddarparu gofal neu gynhorthwy i berson hyglwyf, yn cynnwys gofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006,

(iii)i ddarparu cynhorthwy brys i unrhyw berson, neu

(iv)i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol, neu gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol.

(6Yn rheoliad 10—

(a)ym mharagraff (2)—

(i)yn y geiriau ar y dechrau, yn lle “torri’r gofyniad yn 8(1)” rhodder “torri gofyniad yn rheoliad 8(1) neu 8A”;

(ii)yn is-baragraff (a), ar y diwedd mewnosoder “(os nad yw P yno eisoes)”;

(iii)yn is-baragraff (b), ar y diwedd mewnosoder “(os nad yw P yno eisoes)”;

(b)yn y geiriau ar ddechrau paragraff (7)—

(i)yn lle “tri neu ragor o bobl” rhodder “pobl”;

(ii)yn lle “8(5)” rhodder “8B”;

(c)yn y geiriau ar ddechrau paragraff (8A), yn lle “8(5)” rhodder “8B”.

(7Yn rheoliad 12(1)—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “8(5)” rhodder “8A, 8B”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “torri’r gofyniad yn rheoliad 8(1)” rhodder “torri gofyniad yn rheoliad 8(1)”.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill