Newidiadau dros amser i: RHAN 3A
Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 28/11/2020
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 21/11/2020.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
[RHAN 3ALL+CTeithio o Ddenmarc
Gwahardd awyrennau a llestrau rhag teithio’n uniongyrchol o DdenmarcLL+C
12B.—(1) Ni chaiff person sy’n rheoli neu’n gyfrifol am reolaeth awyren neu lestr yr oedd ei man ymadael diwethaf yn Nenmarc beri na chaniatáu iddi gyrraedd Cymru, oni fo’n rhesymol angenrheidiol iddi wneud hynny er mwyn sicrhau—
(a)diogelwch yr awyren neu’r llestr, neu
(b)iechyd a diogelwch unrhyw berson sydd arni.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—
(a)awyren neu lestr a weithredir yn fasnachol ac nad yw’n cludo unrhyw deithwyr;
(b)awyren neu lestr a weithredir gan Lywodraeth Ei Mawrhydi neu er mwyn cefnogi Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “cyrraedd” yw—
(i)mewn perthynas ag awyren, glanio;
(ii)mewn perthynas â llestr, angori yn unrhyw fan...;
(b)ystyr “teithiwr” yw person a gludir mewn awyren neu ar lestr ac eithrio aelod o’i chriw.]
Yn ôl i’r brig