[F1RHAN 3CLL+CTeithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A
Diwygiadau Testunol
F1Rhn. 3C wedi ei fewnosod (9.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/20), rhlau. 1(2), 7(2)
Mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3ALL+C
12E.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gofyniad ynysu (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2)) yn cael ei osod ar berson (“P”) am fod P—
(a)wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A, neu
(b)wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(2) Mae rheoliadau 7(1) ac 8(1) i’w darllen mewn perthynas â P fel pe bai cyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yn gyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A”.
(3) Mae’r gofyniad ynysu sydd wedi ei osod ar P yn rhinwedd rheoliad 7(1) neu 8(1) fel y’i haddesir gan baragraff (2), hefyd wedi ei osod ar bob aelod o aelwyd P.
(4) Er gwaethaf rheoliad 9(2), mae rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i P.
(5) Nid yw aelod o aelwyd P wedi ei esemptio rhag y gofyniad i ynysu yn rhinwedd rheoliad 9(2).
(6) Yn unol â hynny nid yw P nac unrhyw aelod o aelwyd P i’w drin fel person a ddisgrifir mewn unrhyw baragraff o Atodlen 2.
(7) At ddibenion rheoliad 10, mae aelod o aelwyd P i’w drin fel pe bai P oedd y person hwnnw.
(8) Mae rheoliad 10 yn gymwys i P (ac aelod o aelwyd P yn rhinwedd paragraff (7)) fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (4) o’r rheoliad hwnnw—
“(4) Caiff P adael y fangre a bod y tu allan iddi—
(a)cyhyd ag y bo’n angenrheidiol—
(i)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen hynny ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
(ii)i osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol;
(iii)i gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(b)os yw’n ofynnol iddo wneud hynny gan gwnstabl;
(c)i deithio at ddiben gadael Cymru.”
[F2(9) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan, o ran P—
(a)mae’n weithiwr cludiant ffyrdd (o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 6 o Atodlen 2),
(b)bu ddiwethaf ym Mhortiwgal o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, ac
(c)nid yw, yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi bod mewn unrhyw wlad neu diriogaeth arall a restrir yn Atodlen 3A.]
Diwygiadau Testunol
F2Rhl. 12E(9) wedi ei fewnosod (15.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/46), rhlau. 1(2), 6
Gwahardd awyrennau a llestrau sy’n teithio’n uniongyrchol o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A rhag cyrraeddLL+C
12F.—[F3(1) Ni chaiff y person sy’n rheoli awyren neu lestr neu sydd â rheolaeth dros awyren neu lestr yr oedd ei man ymadael diwethaf neu ei fan ymadael diwethaf yn wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A beri na chaniatáu i’r awyren neu’r llestr gyrraedd Cymru, oni bai—
(a)ei bod yn rhesymol angenrheidiol iddi neu iddo wneud hynny er mwyn sicrhau diogelwch yr awyren neu’r llestr neu iechyd a diogelwch unrhyw berson ar ei bwrdd neu ar ei fwrdd;
(b)mai dim ond at ddiben ail-lenwi’r awyren neu’r llestr â thanwydd, neu gynnal a chadw’r awyren neu’r llestr, y mae’n cyrraedd Cymru, ac na chaniateir i unrhyw deithwyr fynd ar fwrdd yr awyren neu’r llestr neu ddod oddi ar yr awyren neu’r llestr;
(c)mai ambiwlans awyr yw’r awyren a’i fod yn glanio at ddiben cludo person i gael triniaeth feddygol; neu
(d)bod cyrraedd yn ofynnol fel arall yn unol â chyfarwyddyd a ddyroddir o dan Atodlen 3A i Ddeddf Llongau Masnach 1995.]
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—
(a)awyren a weithredir yn fasnachol neu lestr a weithredir yn fasnachol nad yw’n cludo unrhyw deithwyr;
(b)awyren neu lestr a weithredir gan Lywodraeth ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig neu i’w chefnogi;
(c)awyren neu lestr a oedd mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A ddiweddaf 11 o ddiwrnodau neu ragor cyn cyrraedd Cymru.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “cyrraedd” yw—
(i)mewn perthynas ag awyren, glanio;
(ii)mewn perthynas â llestr, angori yn unrhyw fan;
(b)ystyr “teithiwr” yw person a gludir mewn awyren neu ar lestr ac eithrio aelod o’i chriw neu o’i griw.]
Diwygiadau Testunol
F3Rhl. 12F(1) wedi ei amnewid (22.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/66), rhlau. 1(2), 5 (ynghyd â rhl. 3)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhl. 12F eithrio (15.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/46), rhlau. 1(2), 5