xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
13.—(1) Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 7(3) neu 8(3)(b), caiff y cwnstabl—
(a)cyfarwyddo P i ddychwelyd i’r fangre y mae P yn preswylio ynddi,
(b)symud P ymaith i’r fangre, neu
(c)pan na fo’n ymarferol neu’n briodol cymryd y cam yn is-baragraff (a) neu (b) o dan yr amgylchiadau, symud P ymaith i fangre wedi’i threfnu gan Weinidogion Cymru sy’n addas i P breswylio ynddi at ddibenion rheoliad 7(3) neu 8(3)(b).
(2) Caiff cwnstabl sy’n arfer y pŵer ym mharagraff (1)(b) neu (c) ddefnyddio grym rhesymol, os yw hynny’n angenrheidiol, wrth arfer y pŵer.
(3) Pan fo P yn blentyn yng nghwmni person sydd â chyfrifoldeb am y plentyn—
(a)caiff y cwnstabl gyfarwyddo’r person â’r cyfrifoldeb hwnnw i fynd â’r plentyn i’r fangre y mae’r plentyn yn preswylio ynddi, a
(b)rhaid i’r person, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y cwnstabl i’r plentyn.
(4) Caiff cwnstabl gymryd unrhyw gamau eraill y mae’r cwnstabl yn ystyried eu bod yn angenrheidiol ac yn gymesur i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r cwnstabl gan y rheoliad hwn.
(5) Ni chaiff cwnstabl arfer pŵer a roddir i’r cwnstabl gan y rheoliad hwn oni fo’r cwnstabl yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.