xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
14.—(1) Mae oedolyn sy’n torri gofyniad yn rheoliad —
(a)4(1) neu (4),
[F1(aa)6A(1) neu (2),]
(b)5(2),
(c)7(2), (3) neu (5), F2...
(d)8(3) neu (4),
F7(g). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[F8(g)12D(1),]
yn cyflawni trosedd.
[F9(1A) Ond nid yw person yn cyflawni trosedd pan fo’n torri gofyniad yn rheoliad 6A(1), os oedd yn credu’n rhesymol ar adeg y toriad fod hysbysiad o ganlyniad negyddol yn ei feddiant yn ymwneud â’r person neu â phlentyn y mae gan y person gyfrifoldeb drosto (yn ôl y digwydd), yn ddilys ac o brawf cymhwysol (at ddibenion y rheoliad hwnnw).]
(2) Mae’n drosedd i oedolyn ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion rheoliad 4, 5, 7(5), 8(4) neu 10(6)—
(a)pan fo’r person yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu
(b)pan fo’r person yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol.
(3) Mae oedolyn sy’n methu cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan gwnstabl o dan reoliad 13 yn cyflawni trosedd.
(4) Mae oedolyn sy’n rhwystro yn fwriadol unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y [F10Rheoliadau hyn] yn cyflawni trosedd.
(5) Mae’n amddiffyniad i gyhuddiad o gyflawni trosedd o dan baragraff (1) neu (3) i ddangos bod gan y person esgus rhesymol dros dorri’r gofyniad neu fethu â chydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw.
[F11(5A) Mewn perthynas â throsedd o dorri rheoliad 6A(1), mae’r amgylchiadau y mae gan berson esgus rhesymol oddi tanynt yn cynnwys—
(a)pan oedd person yn anffit yn feddygol i ddarparu sampl ar gyfer prawf cymhwysol cyn teithio i Gymru ac yn meddu ar ddogfen, wedi ei llofnodi gan ymarferydd meddygol sydd â hawl i ymarfer yn y wlad neu’r diriogaeth y mae’r ymarferydd hwnnw wedi ei leoli ynddi, i’r perwyl hwnnw,
(b)pan nad oedd yn rhesymol ymarferol i berson gael prawf cymhwysol cyn teithio i Gymru oherwydd—
(i)anabledd,
(ii)yr angen i gael triniaeth feddygol frys,
(c)pan oedd person yn mynd gyda pherson a ddisgrifir yn is-baragraff (b) er mwyn darparu cymorth (boed feddygol neu fel arall) ac nad oedd yn rhesymol ymarferol i’r person a oedd yn mynd gydag ef gael prawf cymhwysol cyn teithio i Gymru,
(d)pan oedd person wedi dechrau ar ei daith i Gymru mewn gwlad neu diriogaeth lle nad oedd prawf cymhwysol ar gael i’r cyhoedd (gyda thaliad neu hebddo) neu nad oedd yn rhesymol ymarferol i berson gael prawf cymhwysol oherwydd diffyg mynediad rhesymol i brawf cymhwysol neu gyfleuster profi ac nad oedd yn rhesymol ymarferol iddo gael prawf cymhwysol yn ei fan ymadael diwethaf os oedd hwnnw’n wahanol i’r fan lle y dechreuodd ei daith,
(e)pan oedd yr amser y mae wedi ei gymryd i berson deithio o’r wlad neu’r diriogaeth lle y dechreuodd ar ei daith i wlad neu diriogaeth ei fan ymadael diwethaf cyn cyrraedd Cymru yn golygu nad oedd yn rhesymol ymarferol iddo fodloni’r gofyniad ym mharagraff 1(c) o Atodlen 1A, ac nad oedd yn rhesymol ymarferol iddo gael prawf cymhwysol yn ei fan ymadael diwethaf.]
(6) Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan y rheoliad hwn yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
(7) Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(1) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel pe bai’r rhesymau yn is-adran (5) o’r adran honno yn cynnwys—
(a)cynnal iechyd y cyhoedd;
(b)cynnal trefn gyhoeddus.
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 14(1)(aa) wedi ei fewnosod (18.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48), rhlau. 1(2), 3(4)(a) (ynghyd â rhl. 11)
F2Gair yn rhl. 14(1)(c) wedi ei hepgor (9.1.2021 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/20), rhlau. 1(2), 9
F3Gair yn rhl. 14(1)(e) wedi ei hepgor (14.11.2020 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1288), rhlau. 1(2), 2(4)(a)
F4Gair yn rhl. 14(1)(e) wedi ei hepgor (24.12.2020 coming into force am 9.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1645), rhlau. 1(2), 2(3)(a)
F5Gair yn rhl. 14(1)(f) wedi ei hepgor (28.11.2020 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020 (dirymwyd) (O.S. 2020/1362), rhlau. 1(2), 8(2)(b)
F6Gair yn rhl. 14(1)(f) wedi ei fewnosod (24.12.2020 coming into force am 9.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1645), rhlau. 1(2), 2(3)(b)
F7Rhl. 14(1)(g) wedi ei hepgor (28.11.2020 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020 (dirymwyd) (O.S. 2020/1362), rhlau. 1(2), 8(2)(c)
F8Rhl. 14(1)(g) wedi ei fewnosod (24.12.2020 coming into force am 9.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1645), rhlau. 1(2), 2(3)(c)
F9Rhl. 14(1A) wedi ei fewnosod (18.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48), rhlau. 1(2), 3(4)(b) (ynghyd â rhl. 11)
F10Geiriau yn rhl. 14(4) wedi eu hamnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(e) (ynghyd â rhl. 11)
F11Rhl. 14(5A) wedi ei fewnosod (18.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48), rhlau. 1(2), 3(4)(c) (ynghyd â rhl. 11)
Gwybodaeth Cychwyn
1984 p. 60. Amnewidiwyd adran 24 gan adran 110(1) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15).