- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
16.—(1) Caiff swyddog mewnfudo ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw oedolyn y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd—
(a)o dan reoliad 14(1) neu (2)—
(i)mewn perthynas â gofyniad yn rheoliad 4(1) neu (4), 5(2), [F16A(1) neu (2)] neu 7(5), neu
(ii)mewn perthynas â thorri gofyniad yn rheoliad 11 sy’n ymwneud â’r gofyniad yn rheoliad 7(5), neu
(b)o dan reoliad 14(4) lle credir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person oedd yn arfer swyddogaeth mewn perthynas ag un o’r gofynion hynny.
(2) Caiff cwnstabl ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw oedolyn y mae’r cwnstabl yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y [F2Rheoliadau] hyn.
(3) Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—
(a)Gweinidogion Cymru, neu
(b)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.
(4) Pan ddyroddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—
(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;
(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(5) Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
(a)disgrifio’r amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd,
(b)datgan y cyfnod pan (oherwydd paragraff (4)(a)) na ddygir achos am y drosedd,
(c)pennu swm y gosb benodedig,
(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo, ac
(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.
(6) Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd—
(a)o dorri gofyniad a osodir gan reoliad 7(2), neu (3), 8(3) neu 11,
[F3(aa)o dorri gofyniad a osodir gan reoliad 6A,]
(b)o dan reoliad 14(3), neu
(c)o dan reoliad 14(4) lle credir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person oedd yn arfer swyddogaeth mewn perthynas â rheoliad 7(2) neu (3), 8(3) neu 11,
[F4mae’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) i fod fel a nodir ym mharagraff (6A)].
[F5(6A) Mae’r swm a bennir yn gosb benodedig ym mharagraff (6) i fod—
(a)yn achos yr hysbysiad cosb benodedig cyntaf a geir, yn £500;
(b)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £1000;
(c)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £2000;
(d)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, yn £4000.]
(7) Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd (“trosedd gwybodaeth neu hysbysu”) —
(a)o dorri gofyniad a osodir gan reoliad 4(1) neu (4), 5(2), 7(5), 8(4) neu 10(6), neu
(b)o dan reoliad 14(4) lle credir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person oedd yn arfer swyddogaethau mewn perthynas ag un o’r gofynion hynny,
rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9)).
(8) Caiff hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd gwybodaeth neu hysbysu bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad y dyroddir yr hysbysiad, mai dyna yw swm y gosb benodedig.
(9) Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd gwybodaeth neu hysbysu eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â’r drosedd honno—
(a)nid yw paragraff (8) yn gymwys, a
(b)y swm a bennir fel y gosb benodedig fydd—
(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, £120;
(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £240;
(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £480;
(iv)yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a geir, £960;
(v)yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, £1920.
(10) Pa bynnag ddull arall a bennir o dan baragraff (5)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy ragdalu a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (5)(d) i’r cyfeiriad a nodir.
(11) Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel a grybwyllir ym mharagraff (10), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.
(12) Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—
(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran—
(i)Gweinidogion Cymru, neu
(ii)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (3)(b), a
(b)sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 16(1)(a)(i) wedi eu mewnosod (18.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48), rhlau. 1(2), 3(5)(a) (ynghyd â rhl. 11)
F2Gair yn rhl. 16(2) wedi ei amnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(f) (ynghyd â rhl. 11)
F3Rhl. 16(6)(aa) wedi ei fewnosod (18.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48), rhlau. 1(2), 3(5)(b) (ynghyd â rhl. 11)
F4Geiriau yn rhl. 16(6) wedi eu hamnewid (12.12.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (dirymwyd) (O.S. 2020/1521), rhlau. 1(2), 6(2)
F5Rhl. 16(6A) wedi ei fewnosod (12.12.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (dirymwyd) (O.S. 2020/1521), rhlau. 1(2), 6(3)
Gwybodaeth Cychwyn
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys