Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

Personau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredinLL+C

3.—(1Yn y Rhan hon mae cyfeiriadau at “P” yn gyfeiriadau at—

(a)person sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o fan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, neu

(b)person—

(i)sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o Weriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, neu Ynys Manaw, ac

(ii)sydd wedi bod mewn man y tu allan i’r ardal deithio gyffredin o fewn y cyfnod o [F110] o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod pan fo’r person yn cyrraedd.

(2Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys [F2

(a)person a ddisgrifir yn Rhan 1 o Atodlen 2,

(b)person a ddisgrifir ym mharagraff 12(1)(b) o Atodlen 2 (gweithwyr gweithredol, cynnal a chadw a diogelwch sy’n gweithio ar Dwnnel y Sianel), neu

(c)person a ddisgrifir ym mharagraff (3), y mae’r amod ym mharagraff (4) wedi ei fodloni mewn cysylltiad ag ef.]

[F3(3) Y disgrifiadau o bersonau yw—

(a)person sy’n weithiwr cludiant teithwyr ffyrdd, o fewn ystyr paragraff 6 o Atodlen 2;

(b)person a ddisgrifir ym mharagraff 7 o Atodlen 2 (meistri a morwyr);

(c)person a ddisgrifir ym mharagraff 8 o Atodlen 2 (peilotiaid ar longau masnach);

(d)person a ddisgrifir ym mharagraff 9 o Atodlen 2 (arolygwyr a syrfewyr llongau);

(e)person a ddisgrifir ym mharagraff 10 o Atodlen 2 (criw awyren);

(f)person a ddisgrifir ym mharagraff 12(1)(a) neu (c) o Atodlen 2 (gyrwyr, criw a phersonau eraill sy’n cyflawni swyddogaethau hanfodol mewn cysylltiad â Thwnnel y Sianel).

(4) Mae’r amod a grybwyllir ym mharagraff (2)(c) wedi ei fodloni mewn perthynas â pherson os nad yw’r person, ar ei daith i Gymru, ond wedi teithio—

(a)ar long neu awyren nad yw’n cludo teithwyr;

(b)mewn rhan o long neu awyren nad yw teithwyr yn cael mynd iddi.]