Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

Gofyniad i ynysu: cyrraedd o ran arall o’r Deyrnas UnedigLL+C

8.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—

(a)sy’n cyrraedd Cymru o rywle arall yn y Deyrnas Unedig, a

(b)sydd o fewn y cyfnod o 14 o diwrnod sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru wedi [F1bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt];

(2Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys—

(a)person—

(i)sy’n cyrraedd Cymru at ddiben dychwelyd i’r fangre yng Nghymru y mae’r person yn preswylio ynddi at ddibenion rheoliad [F27(3); a]

(ii)person a adawodd Cymru dros dro, am un neu ragor o’r resymau a awdurdodir yn rheoliad 10(4);

(b)person—

(i)y mae’n ofynnol iddo breswylio mewn mangre yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig o dan ddarpariaeth mewn Rheoliadau a wneir mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb i’r Rheoliadau hyn,

(ii)y caniateir iddo adael y rhan arall honno o’r Deyrnas Unedig dros dro yn rhinwedd y Rheoliadau hynny, a

(iii)sy’n aros yng Nghymru am ddim hwy nag sy’n angenrheidiol.

(3O ran P—

(a)rhaid iddo deithio’n uniongyrchol i fangre yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, a

(b)ni chaiff adael y fangre na bod y tu allan iddi cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P—

(i)onid yw wedi ei awdurdodi gan reoliad 10(4) [F3(gadael y fangre dros dro)] i wneud hynny, neu

(ii)onid yw’r paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P yn rhinwedd rheoliad 10(3) (gadael Cymru).

(4Rhaid i P hefyd—

(a)cyn cyrraedd Cymru, neu

(b)cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyrraedd Cymru,

hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig am gyfeiriad y fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion paragraff (3) gan ddefnyddio cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.