Gofynion ynysu: esemptiadauLL+C
9.—[F1(1) At ddibenion y Rhan hon, ystyr “gwlad neu diriogaeth esempt” yw—
(a)gwlad neu diriogaeth o fewn yr ardal deithio gyffredin;
(b)gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3;
ac mae unrhyw gyfeiriad at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” i’w ddehongli yn unol â hynny.]
[F2(2)] Nid yw rheoliad 7 ac 8 yn gymwys i berson a ddisgrifir—
(a)ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 sy’n bodloni’r amodau ym [F3mharagraff 1(2)] o’r Atodlen honno;
(b)ym mharagraffau 2 i 36 o Atodlen 2.
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 9(1) wedi ei fewnosod (C.) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(4)(b) (ynghyd â rhl. 7)
F2Rhl. 9(2): rhl. 9 wedi ei ailrifo fel rhl. 9(2) (C.) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(4)(a) (ynghyd â rhl. 7)
F3Geiriau yn rhl. 9(2)(a) wedi eu hamnewid (C.) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 9(2)
Gwybodaeth Cychwyn