Rheoliad 2(1)
ATODLEN 1LL+CGwybodaeth am Deithiwr
1. Manylion personol—LL+C
(a)enw llawn,
(b)rhyw,
(c)dyddiad geni,
(d)rhif pasport, neu gyfeirnod [F1dogfen] deithio (fel y bo’n briodol), y dyddiad dyroddi a’r dyddiad y daw’r pasport neu’r ddogfen i ben a’r awdurdod dyroddi,
(e)rhif ffôn,
(f)cyfeiriad cartref,
(g)cyfeiriad e-bost.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn Atod. 1 para. 1(d) wedi ei amnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(h) (ynghyd â rhl. 11)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
2. Manylion y daith—LL+C
(a)os yn gymwys, cyfeiriad mangre addas yng Nghymru y mae’r person yn bwriadu preswylio ynddi fel sy’n ofynnol gan reoliad 7(3),
(b)os yn gymwys, cyfeiriad mangre addas yn y Deyrnas Unedig y mae P yn bwriadu preswylio ynddi fel sy’n ofynnol gan ddarpariaeth gyfatebol mewn Rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon,
(c)dyddiad y bydd y person yn cyrraedd y cyfeiriad a bennir yn is-baragraff (a) neu (b), neu’r dyddiad y mae’n bwriadu cyrraedd, fel y bo’n briodol,
(d)y gweithredwr y mae’r person yn teithio gydag ef, neu wedi teithio gydag ef, neu’r gweithredwr a ddefnyddiodd y person i archebu’r daith,
(e)cyfeirnod yr archeb deithio,
(f)rhif yr hediad, rhif y trên, neu rif y tocyn (fel y bo’n briodol),,
(g)enw unrhyw grŵp teithio trefnedig y mae’r person yn teithio neu wedi teithio gydag ef,
(h)y lleoliad yn y Deyrnas Unedig y bydd y person yn ei gyrraedd, neu’r lleoliad yn y Deyrnas Unedig y mae wedi ei gyrraedd,
(i)y wlad y mae’r person yn teithio drwyddi, neu wedi ymadael ohoni,
[F2(ia)unrhyw wlad neu diriogaeth arall y bydd P ynddi, neu y mae P wedi bod ynddi, yn ystod y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae P yn cyrraedd y Deyrnas Unedig, neu y mae’n bwriadu cyrraedd y Deyrnas Unedig,
(ib)pan fo is-baragraff (ia) yn gymwys, y dyddiadau yr oedd P yn y wlad neu’r diriogaeth arall neu y bydd P yn y wlad neu’r diriogaeth arall,]
(j)y dyddiad a’r amser y bydd y person yn cyrraedd y Deyrnas Unedig neu y mae’n bwriadu ei chyrraedd, fel y bo’n briodol,
(k)a yw’r person yn teithio drwy’r Deyrnas Unedig fel rhan o siwrnai gysylltu i gyrchfan y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac, os felly—
(i)lleoliad y man y bydd y person yn ymadael â’r Deyrnas Unedig,
(ii)y wlad sy’n gyrchfan terfynol y person,
(iii)enw’r gweithredwr y mae’r person yn teithio gydag ef ar y daith sy’n dilyn, neu’r gweithredwr a ddefnyddiodd y person i archebu’r daith sy’n dilyn,
(iv)cyfeirnod archeb deithio’r daith sy’n dilyn,
(v)rhif yr hediad, rhif y trên, neu rif y tocyn (fel y bo’n briodol) ar gyfer y daith sy’n dilyn.
Diwygiadau Testunol
F2Atod. 1 para. 2(ia)(ib) wedi ei fewnosod (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(7) (ynghyd â rhl. 7)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
3. A yw’r person sy’n darparu gwybodaeth am deithiwr yn gwneud hynny ar ran person arall.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
4. Pan fo’r person yn teithio gyda phlentyn y mae ganddo gyfrifoldeb amdano—LL+C
(a)enw llawn a dyddiad geni’r plentyn hwnnw,
(b)perthynas y teithiwr â’r plentyn hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
5. Enw llawn a rhif ffôn cyswllt brys.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)