[38.—[(1) Person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig—LL+C
(a)sy’n athletwr elît a fu’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth elît dramor,
(b)a fu’n [hyfforddi athletwr elît mewn cystadleuaeth elît dramor neu a fu fel arall yn darparu cymorth iddo], neu
(c)a fu’n gwasanaethu fel swyddog mewn cystadleuaeth elît dramor neu a fu fel arall yn ymwneud â’i rhedeg,
[(d)sy’n athletwr elît a fu’n mynychu rhaglen hyfforddi dramor at ddiben hyfforddi neu baratoi i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît,
(e)a fu’n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît ar raglen hyfforddi dramor at ddiben hyfforddi neu baratoi’r athletwr elît hwnnw i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît,]
pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i ddychwelyd o’r gystadleuaeth elît dramor [neu’r rhaglen hyfforddi dramor].]
(2) Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “athletwr elît” yw person—
(i)sy’n ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp,
(ii)sy’n athletwr elît o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, neu
(iii)nad yw’n dod o fewn is-baragraff (i) neu (ii) sy’n cymryd rhan yng nghynghrair Pencampwyr UEFA neu gynghrair Europa;
(b)ystyr “cystadleuaeth elît” yw cystadleuaeth chwaraeon y mae unrhyw un neu ragor o’r cyfranogwyr yn cystadlu ynddi—
(i)i ennill bywoliaeth, neu
(ii)i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad, neu fel rhan o’r broses ddethol ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad;
(c)ystyr “cystadleuaeth elît dramor” yw cystadleuaeth elît sy’n cael ei chynnal y tu allan i’r Deyrnas Unedig; ac mae person i’w drin fel pe bai wedi dychwelyd o gystadleuaeth o’r fath os yw’r person, o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â diwrnod olaf ynysiad y person, wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt at ddibenion cystadleuaeth o’r fath.]