xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CGofynion i ddarparu gwybodaeth i deithwyr

Darparu gwybodaeth cyn archebu ac wrth gofrestruLL+C

3.—(1Rhaid i weithredwr unrhyw wasanaeth teithwyr rhyngwladol ddarparu’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2) fel rhan o unrhyw gyfleuster a reolir gan y gweithredwr y caiff person ei ddefnyddio—

(a)i archebu taith ar y gwasanaeth, neu

(b)i gofrestru i deithio ar y gwasanaeth.

[F1(2) Yr wybodaeth a grybwyllir ym mharagraff (1) yw—

(a)yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn archebu taith ar-lein—

(i)yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen y mae rhaid iddi fod wedi ei gosod mewn lle amlwg fel ei bod yn weladwy cyn archebu,

(ii)dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen), a

(iii)dolen i www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk;

(b)yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn cofrestru ar gyfer taith ar-lein—

(i)yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen y mae rhaid iddi fod wedi ei gosod mewn lle amlwg fel ei bod yn weladwy cyn cofrestru,

(ii)dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(iii)dolen i www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, a

(iv)dolen i https://llyw.cymru/eithriadau-rhag-hunanynysu-coronafeirws-covid-19-html;

(c)yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn archebu taith neu gofrestru ar gyfer taith dros y ffôn neu wyneb yn wyneb—

(i)pan ddarperir yr wybodaeth ar lafar, yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen;

(ii)pan ddarperir yr wybodaeth yn ysgrifenedig, hysbysiad ysgrifenedig sy’n nodi’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth a’r gofyniad i ynysu;

(d)yn unrhyw un o’r achosion uchod, cais i drosglwyddo’r wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (a), (b) neu (c) (yn ôl y digwydd) i unrhyw berson—

(i)yr archebir taith ar ei ran, neu

(ii)y cofrestrir ar gyfer taith ar ei ran.]

(3Pan na fo’r gweithredwr yn rheoli’r broses archebu neu gofrestru yn uniongyrchol, rhaid i’r gweithredwr gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y person sy’n rheoli’r broses yn cydymffurfio â pharagraff (1) ar ran y gweithredwr.

[F2Darparu gwybodaeth cyn i daith ymadaelLL+C

3A.(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan archebir taith, o leiaf 48 o oriau cyn yr amser y disgwylir i wasanaeth teithwyr rhyngwladol ymadael, ar gyfer teithiwr (“P”) ar y gwasanaeth hwnnw.

(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i weithredwr y gwasanaeth sicrhau, rhwng 24 a 48 o oriau cyn yr amser y disgwylir i’r gwasanaeth ymadael, bod yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (4) (“yr wybodaeth ofynnol”) wedi ei darparu i P.

(3) Rhaid i’r wybodaeth ofynnol gael ei darparu drwy neges destun neu hysbysiad gwthio, drwy’r e-bost neu ar lafar.

(4) Yr wybodaeth ofynnol a grybwyllir ym mharagraff (2) yw—

(a)pan ddarperir yr wybodaeth drwy neges destun neu hysbysiad gwthio, testun sydd—

(i)yn hysbysu P am y gofyniad i ddarparu gwybodaeth,

(ii)yn hysbysu P bod cosbau yn gymwys am fethu â chydymffurfio â’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth,

(iii)yn cynnwys dolen i https://www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, a

(iv)os yw’r gwasanaeth teithwyr rhyngwladol yn un y dyrennir arno rif sedd i P, yn cynghori P i ddarparu rhif y sedd fel rhan o’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth;

(b)pan ddarperir yr wybodaeth drwy’r e-bost—

(i)yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen,

(ii)dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(iii)dolen i https://www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, a

(iv)dolen i https://llyw.cymru/eithriadau-rhag-hunanynysu-coronafeirws-covid-19-html;

(c)pan ddarperir yr wybodaeth ar lafar, yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen.

(5) Pan fo person arall (“A”) yn archebu taith ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol ar ran teithiwr arall (pa un a yw A hefyd yn deithiwr ar y gwasanaeth hwnnw ai peidio), rhaid trin y gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn unol â’r rheoliad hwn fel gofyniad y cydymffurfiwyd ag ef, o ran yr amser a nodir ym mharagraff (1), os darparwyd yr wybodaeth ofynnol i A yn y dull sy’n ofynnol rhwng 24 a 48 o oriau cyn yr amser y disgwylir i’r gwasanaeth hwnnw ymadael, ynghyd â chais ysgrifenedig i A ddarparu’r wybodaeth honno i’r teithiwr.]

Darparu gwybodaeth yn ystod taithLL+C

4.—(1Rhaid i weithredwr gwasanaeth teithwyr rhyngwladol sicrhau y darperir pob teithiwr ar y llestr neu’r awyren â’r datganiad a nodir yn [F3Rhan 2 o’r Atodlen] yn ystod y daith i’r porthladd yng Nghymru.

(2Rhaid darparu’r datganiad F4... yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn iaith a gydnabyddir yn swyddogol yn y wlad yr ymadawyd â hi.

Eithriad o ofynion rheoliadau 3 [F5, 3A] a 4LL+C

5.  Nid oes dim yn rheoliad 3 [F6, 3A] neu 4 yn ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth i berson sydd, yn rhinwedd oedran neu alluedd meddyliol, yn annhebygol o allu ei deall.