xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CTroseddau, cosbau ac erlyniadau

TroseddauLL+C

6.—(1Mae person sy’n torri gofyniad yn rheoliad 3(1) neu (3) [F1, rheoliad 3A(2)], neu reoliad 4 yn cyflawni trosedd.

(2Mae’n amddiffyniad i gyhuddiad o gyflawni’r drosedd o dorri’r gofyniad yn rheoliad 4 i ddangos bod gan y person esgus rhesymol dros dorri’r gofyniad.

(3Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan baragraff (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 6 mewn grym ar 17.6.2020, gweler rhl. 1(2)

Hysbysiadau cosb benodedigLL+C

7.—(1Caiff person awdurdodedig ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw berson (“P”) y mae’r person awdurdodedig yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 6(1).

(2Mae hysbysiad cosb benodedig yn hysbysiad sy’n cynnig i P y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—

(a)Gweinidogion Cymru, neu

(b)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.

(3Pan fo hysbysiad wedi ei ddyroddi o dan baragraff (1) mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;

(b)ni chaniateir euogfarnu P o’r drosedd os yw P yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(4Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)disgrifio’r amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd,

(b)datgan y cyfnod pan (oherwydd paragraff (3)(a)) na ddygir achos am y drosedd,

(c)pennu swm y gosb benodedig,

(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo, ac

(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.

(5Rhaid i swm y gosb benodedig a bennir o dan baragraff (4)(c) fod yn £4,000.

(6Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2)(b), a

(b)sy’n datgan i’r taliad am y gosb benodedig ddod i law, neu na ddaeth i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 7 mewn grym ar 17.6.2020, gweler rhl. 1(2)

ErlyniadauLL+C

8.  Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu berson awdurdodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 8 mewn grym ar 17.6.2020, gweler rhl. 1(2)