- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
3.—(1) Rhaid i weithredwr unrhyw wasanaeth teithwyr rhyngwladol ddarparu’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2) fel rhan o unrhyw gyfleuster a reolir gan y gweithredwr y caiff person ei ddefnyddio—
(a)i archebu taith ar y gwasanaeth, neu
(b)i gofrestru i deithio ar y gwasanaeth.
(2) Yr wybodaeth a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) yw—
(a)yn achos cyfleuster a ddarperir ar lein—
(i)dolen i www.gov.uk/uk-border-control, a
(ii)dolen i www.llyw.cymru/coronafeirws ynghyd â datganiad bod yr wybodaeth a geir ar y ddolen honno yn cynnwys y cyngor diweddaraf o ran iechyd y cyhoedd sy’n ymwneud â’r coronafeirws yng Nghymru,
wedi ei gosod mewn lle amlwg fel bod y dolenni yn weladwy cyn archebu neu gofrestru;
(b)yn achos cyfleuster a ddarperir dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, cyfarwyddyd—
(i)i ddarllen yr wybodaeth ar www.gov.uk/uk-border-control, a
(ii)i fynd i www.llyw.cymru/coronafeirws ynghyd â datganiad bod yr wybodaeth a geir ar y ddolen honno yn cynnwys y cyngor diweddaraf o ran iechyd y cyhoedd sy’n ymwneud â’r coronafeirws yng Nghymru;
(c)yn y naill achos neu’r llall, cais i drosglwyddo’r wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) (yn ôl y digwydd) i unrhyw berson—
(i)yr archebir taith ar ei ran, neu
(ii)y cofrestrir ar gyfer taith ar ei ran.
(3) Pan na fo’r gweithredwr yn rheoli’r broses archebu neu gofrestru yn uniongyrchol, rhaid i’r gweithredwr gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y person sy’n rheoli’r broses yn cydymffurfio â pharagraff (1) ar ran y gweithredwr.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys