xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 595 (Cy. 136)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020

Gwnaed

am 5.38 p.m. ar 15 Mehefin 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

16 Mehefin 2020

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

RHAN 1LL+CCyffredinol

Enwi a dod i rymLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau 2 i 9 i rym ar 17 Mehefin 2020.

(3Daw’r rheoliad hwn a rheoliadau 10 ac 11 i rym pan wneir y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar y dyddiad gwneud am 5.38 p.m., gweler rhl. 1(3)

I2Rhl. 1 mewn grym ar 15.6.2020 am 5.38 p.m., gweler rhl. 1(1)

DehongliLL+C

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “ardal deithio gyffredin” yr ystyr a roddir i “common travel area” yn adran 1(3) o Ddeddf Mewnfudo 1971(2);

ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

[F1ystyr “gofyniad i ddarparu gwybodaeth” (“requirement to provide information”) yw’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn unol â Rhan 2 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(3);

ystyr “gofyniad i ynysu” (“requirement to isolate”) yw’r gofyniad i ynysu yn unol â Rhan 3 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020; ]

ystyr “gwasanaeth teithwyr rhyngwladol” (“international passenger service”) yw gwasanaeth masnachol y mae teithwyr yn ei ddefnyddio i deithio ar lestr neu awyren o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i borthladd yng Nghymru;

ystyr “llestr” (“vessel”) yw pob ddisgrifiad o lestr a ddefnyddir i fordwyo (gan gynnwys hofrenfad o fewn ystyr “hovercraft” yn Neddf Hofrenfadau 1968(3)) sy’n 24 o fetrau neu fwy o hyd;

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw—

(a)

mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar lestr, yr Ysgrifennydd Gwladol;

(b)

mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar awyren, yr Awdurdod Hedfan Sifil(4);

mae “porthladd” (“port”) yn cynnwys unrhyw faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 2 mewn grym ar 17.6.2020, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CGofynion i ddarparu gwybodaeth i deithwyr

Darparu gwybodaeth cyn archebu ac wrth gofrestruLL+C

3.—(1Rhaid i weithredwr unrhyw wasanaeth teithwyr rhyngwladol ddarparu’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2) fel rhan o unrhyw gyfleuster a reolir gan y gweithredwr y caiff person ei ddefnyddio—

(a)i archebu taith ar y gwasanaeth, neu

(b)i gofrestru i deithio ar y gwasanaeth.

[F2(2) Yr wybodaeth a grybwyllir ym mharagraff (1) yw—

(a)yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn archebu taith ar-lein—

(i)yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen y mae rhaid iddi fod wedi ei gosod mewn lle amlwg fel ei bod yn weladwy cyn archebu,

(ii)dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen), a

(iii)dolen i www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk;

(b)yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn cofrestru ar gyfer taith ar-lein—

(i)yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen y mae rhaid iddi fod wedi ei gosod mewn lle amlwg fel ei bod yn weladwy cyn cofrestru,

(ii)dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(iii)dolen i www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, a

(iv)dolen i https://llyw.cymru/eithriadau-rhag-hunanynysu-coronafeirws-covid-19-html;

(c)yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn archebu taith neu gofrestru ar gyfer taith dros y ffôn neu wyneb yn wyneb—

(i)pan ddarperir yr wybodaeth ar lafar, yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen;

(ii)pan ddarperir yr wybodaeth yn ysgrifenedig, hysbysiad ysgrifenedig sy’n nodi’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth a’r gofyniad i ynysu;

(d)yn unrhyw un o’r achosion uchod, cais i drosglwyddo’r wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (a), (b) neu (c) (yn ôl y digwydd) i unrhyw berson—

(i)yr archebir taith ar ei ran, neu

(ii)y cofrestrir ar gyfer taith ar ei ran.]

(3Pan na fo’r gweithredwr yn rheoli’r broses archebu neu gofrestru yn uniongyrchol, rhaid i’r gweithredwr gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y person sy’n rheoli’r broses yn cydymffurfio â pharagraff (1) ar ran y gweithredwr.

[F3Darparu gwybodaeth cyn i daith ymadaelLL+C

3A.(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan archebir taith, o leiaf 48 o oriau cyn yr amser y disgwylir i wasanaeth teithwyr rhyngwladol ymadael, ar gyfer teithiwr (“P”) ar y gwasanaeth hwnnw.

(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i weithredwr y gwasanaeth sicrhau, rhwng 24 a 48 o oriau cyn yr amser y disgwylir i’r gwasanaeth ymadael, bod yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (4) (“yr wybodaeth ofynnol”) wedi ei darparu i P.

(3) Rhaid i’r wybodaeth ofynnol gael ei darparu drwy neges destun neu hysbysiad gwthio, drwy’r e-bost neu ar lafar.

(4) Yr wybodaeth ofynnol a grybwyllir ym mharagraff (2) yw—

(a)pan ddarperir yr wybodaeth drwy neges destun neu hysbysiad gwthio, testun sydd—

(i)yn hysbysu P am y gofyniad i ddarparu gwybodaeth,

(ii)yn hysbysu P bod cosbau yn gymwys am fethu â chydymffurfio â’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth,

(iii)yn cynnwys dolen i https://www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, a

(iv)os yw’r gwasanaeth teithwyr rhyngwladol yn un y dyrennir arno rif sedd i P, yn cynghori P i ddarparu rhif y sedd fel rhan o’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth;

(b)pan ddarperir yr wybodaeth drwy’r e-bost—

(i)yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen,

(ii)dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(iii)dolen i https://www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, a

(iv)dolen i https://llyw.cymru/eithriadau-rhag-hunanynysu-coronafeirws-covid-19-html;

(c)pan ddarperir yr wybodaeth ar lafar, yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen.

(5) Pan fo person arall (“A”) yn archebu taith ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol ar ran teithiwr arall (pa un a yw A hefyd yn deithiwr ar y gwasanaeth hwnnw ai peidio), rhaid trin y gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn unol â’r rheoliad hwn fel gofyniad y cydymffurfiwyd ag ef, o ran yr amser a nodir ym mharagraff (1), os darparwyd yr wybodaeth ofynnol i A yn y dull sy’n ofynnol rhwng 24 a 48 o oriau cyn yr amser y disgwylir i’r gwasanaeth hwnnw ymadael, ynghyd â chais ysgrifenedig i A ddarparu’r wybodaeth honno i’r teithiwr.]

Darparu gwybodaeth yn ystod taithLL+C

4.—(1Rhaid i weithredwr gwasanaeth teithwyr rhyngwladol sicrhau y darperir pob teithiwr ar y llestr neu’r awyren â’r datganiad a nodir yn [F4Rhan 2 o’r Atodlen] yn ystod y daith i’r porthladd yng Nghymru.

(2Rhaid darparu’r datganiad F5... yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn iaith a gydnabyddir yn swyddogol yn y wlad yr ymadawyd â hi.

Eithriad o ofynion rheoliadau 3 [F6, 3A] a 4LL+C

5.  Nid oes dim yn rheoliad 3 [F7, 3A] neu 4 yn ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth i berson sydd, yn rhinwedd oedran neu alluedd meddyliol, yn annhebygol o allu ei deall.

RHAN 3LL+CTroseddau, cosbau ac erlyniadau

TroseddauLL+C

6.—(1Mae person sy’n torri gofyniad yn rheoliad 3(1) neu (3) [F8, rheoliad 3A(2)], neu reoliad 4 yn cyflawni trosedd.

(2Mae’n amddiffyniad i gyhuddiad o gyflawni’r drosedd o dorri’r gofyniad yn rheoliad 4 i ddangos bod gan y person esgus rhesymol dros dorri’r gofyniad.

(3Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan baragraff (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 6 mewn grym ar 17.6.2020, gweler rhl. 1(2)

Hysbysiadau cosb benodedigLL+C

7.—(1Caiff person awdurdodedig ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw berson (“P”) y mae’r person awdurdodedig yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 6(1).

(2Mae hysbysiad cosb benodedig yn hysbysiad sy’n cynnig i P y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—

(a)Gweinidogion Cymru, neu

(b)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.

(3Pan fo hysbysiad wedi ei ddyroddi o dan baragraff (1) mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;

(b)ni chaniateir euogfarnu P o’r drosedd os yw P yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(4Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)disgrifio’r amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd,

(b)datgan y cyfnod pan (oherwydd paragraff (3)(a)) na ddygir achos am y drosedd,

(c)pennu swm y gosb benodedig,

(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo, ac

(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.

(5Rhaid i swm y gosb benodedig a bennir o dan baragraff (4)(c) fod yn £4,000.

(6Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2)(b), a

(b)sy’n datgan i’r taliad am y gosb benodedig ddod i law, neu na ddaeth i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 7 mewn grym ar 17.6.2020, gweler rhl. 1(2)

ErlyniadauLL+C

8.  Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu berson awdurdodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 8 mewn grym ar 17.6.2020, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CAmrywiol

Adolygu’r gofynionLL+C

9.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal adolygiad o’r gofynion a osodir gan Ran 2—

(a)erbyn 29 Mehefin 2020,

[F9(b)erbyn 27 Gorffennaf 2020;

(c)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â 28 Gorffennaf 2020;]

(2Rhaid i adolygiad a gynhelir o dan baragraff (1) ystyried a yw’r gofynion yn angenrheidiol ac yn gymesur fel modd o atal perygl i’r cyhoedd sy’n deillio o ledaeniad y coronafeirws.

Diwygiadau Testunol

F9Rhl. 9(1)(b)-(d) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 9 (1)(b)(c) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (dirymwyd) (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 11

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 9 mewn grym ar 17.6.2020, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020LL+C

10.—(1Diwygir Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(5) fel a ganlyn.

(2Yn y testun Cymraeg yn unig—

(a)yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “gwybodaeth am deithiwr (“passenger information”)” rhodder—

“ystyr “gwybodaeth am deithiwr” (“passenger information”) yw’r wybodaeth a bennir yn Atodlen 1;”;

(b)yn rheoliad 5(3)(b), yn lle “ddiweddaru ar ran P,” rhodder “diweddaru”;

(c)yn rheoliad 7—

(i)ym mharagraff (1)(b)(ii), hepgorer y coma ar ôl “sydd”;

(ii)ym mharagraff (4)(a) hepgorer y gair “bai”;

(iii)yn mharagraff (5)(a) ar ôl “yng Nghymru” mewnosoder “sy’n addas i breswylio ynddi”;

(d)yn rheoliad 8—

(i)ym mharagraff (2)(a)(i) yn lle “7(3));” rhodder “7(3); a”;

(ii)ym mharagraff (3)(b)(i) yn lle “(bod y tu allan i fangre am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol)” rhodder “(gadael y fangre dros dro)”;

(e)yn rheoliad 14(4) yn lle “rreoliadau yma” rhodder “Rheoliadau hyn”;

(f)yn rheoliad 16(2) yn lle “Reoliadau” rhodder “Rheoliadau”;

(g)yn rheoliad 17(10)—

(i)ar ôl ““ddeddfwriaeth diogelu data”” mewnosoder “a “data personol””;

(ii)yn lle “ac mae i “data personol” yr ystyr a roddir i” rhodder “a”;

(h)yn Atodlen 1, yn is-baragraff (d), yn lle “ei ddogfen” rhodder “dogfen”;

(i)yn Atodlen 2—

(i)ym mharagraff 1 yn is-baragraffau (1)(h) a (2)(a)(i) yn lle “swydd” rhodder “swyddfa”;

(ii)ym mharagraff 1(2)(a)(i) yn lle “i’r person” rhodder “i P”;

(iii)ym mharagraff 2(1)(a) yn lle “y tu allan i’r” rhodder “yn y”;

(iv)yn lle paragraff 3(1)(b) rhodder—

“sydd wedi bod ar lestr a weithredir gan Wasanaeth Llyngesol ei Mawrhydi am gyfnod di-dor o 14 o ddiwrnodau o leiaf yn union cyn iddo gyrraedd ac nad yw’r llestr hwnnw wedi codi unrhyw bersonau nac wedi glanio mewn unrhyw borthladd môr y tu allan i’r ardal deithio gyffredin yn ystod y cyfnod hwnnw.”;

(v)ym mharagraff 7(2) yn y geiriau agoriadol, yn lle “y paragraff hwn” rhodder “is-baragraff (1)”;

(vi)ym mharagraff 13(1)(b) yn y ddau le y mae’n ymddangos, ar ôl “plismona” mewnosoder “hanfodol”.

(3Yn Atodlen 2—

(a)yn lle’r pennawd i’r Atodlen rhodder—

Personau esempt

(b)yn y pennawd i Ran 1 o’r Atodlen, yn lle “3 a rheoliad 4” rhodder “4,5,7 nac 8”;

(c)yn y pennawd i Ran 2 o’r Atodlen, yn lle “4”rhodder “7 nac 8”.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 10 mewn grym ar y dyddiad gwneud am 5.38 p.m., gweler rhl. 1(3)

I12Rhl. 10 mewn grym ar 15.6.2020 am 5.38 p.m., gweler rhl. 1(1)

Y Rheoliadau hyn yn dod i benLL+C

11.—(1Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y 7fed diwrnod o Fehefin 2021.

(2Nid yw’r ffaith bod y Rheoliadau hyn wedi dod i ben yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 11 mewn grym ar y dyddiad gwneud am 5.38 p.m., gweler rhl. 1(3)

I14Rhl. 11 mewn grym ar 15.6.2020 am 5.38 p.m., gweler rhl. 1(1)

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 5.38 p.m. ar 15 Mehefin 2020

Rheoliadau 3, 3A a 4

[F10YR ATODLENLL+C

RHAN 1LL+C

Yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2)(a)(i), 3(2)(b)(i), 3(2)(c)(i), 3A(4)(b)(i) a 3A(4)(c) yw—

ESSENTIAL INFORMATION TO ENTER THE UK

The United Kingdom is taking steps to help stop the spread of COVID-19.

1)

To protect your health and others’, everyone must complete an online Passenger Locator Form before arrival in the United Kingdom.

2)

You may be required to self-isolate for 14 days on arrival. Check the exempt countries list immediately before you travel as this list can change at short notice.

3)

It is a legal requirement that you wear a face covering on public transport in the UK.

Failure to comply with the above measures is a criminal offence and you could be fined. Please visit www.gov.uk/uk-border-control for detailed public health advice and requirements for entering the UK.

RHAN 2LL+C

Y datganiad sydd i’w ddarparu at ddibenion rheoliad 4 yw—

(a)y fersiwn Gymraeg—

Dyma neges iechyd y cyhoedd ar ran asiantaethau iechyd y cyhoedd y Deyrnas Unedig.

Cyn cael mynediad i’r Deyrnas Unedig, rhaid i chi lenwi Ffurflen Lleoli Teithwyr ar-lein, ni waeth o ble yr ydych yn cyrraedd. Rhaid i chi hefyd hunanynysu am y 14 o ddiwrnodau cyntaf ar ôl i chi gyrraedd, oni bai eich bod mewn categori esempt. Mae hyn er mwyn eich diogelu chi ac eraill.

Ewch i gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Symptomau’r coronafeirws yw peswch cyson newydd, tymheredd uchel neu golli eich synnwyr blasu neu arogli arferol, neu newid yn eich synnwyr blasu neu arogli arferol. Os ydych yn profi unrhyw un o’r symptomau hyn, ni waeth pa mor ysgafn ydynt, fe’ch cynghorir i wneud eich hunan yn hysbys i’r criw.

Camau syml y gallwch eu cymryd i helpu i’ch diogelu chi a’ch teulu yw:

Golchi eich dwylo

Osgoi cyffwrdd â’ch wyneb â’ch dwylo

Dal peswch a thisian mewn hances bapur a’i gwaredu ar unwaith.;

(b)y fersiwn Saesneg—

The following is a public health message on behalf of the UK’s public health agencies.

Before entering the UK, you must complete a Passenger Locator Form online, regardless of where you are arriving from. You must also self-isolate for the first 14 days after you arrive, unless you are in an exempt category. This is to protect yourself and others.

Visit gov.uk for more information.

The symptoms of coronavirus are a new continuous cough, a high temperature or a loss of, or change in, normal sense of taste or smell. If you experience any of these symptoms, however mild, you are advised to make yourself known to the crew.

Simple measures you can take to help protect yourself and family are:

Wash your hands

Avoid touching your face with your hands

Catch coughs and sneezes in a tissue and dispose of it immediately.;

(c)y datganiad sydd ym mharagraff (a) neu (b) wedi ei gyfieithu i iaith a gydnabyddir yn swyddogol yn y wlad yr ymadawyd â hi.]

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r perygl i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2). Mae adran 45B o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaethau at ddiben (ymhlith pethau eraill) atal perygl i iechyd y cyhoedd a ddaw o lestrau, awyrennau, trenau neu gludiant arall yn cyrraedd unrhyw fan.

Mae’r Rheoliadau yn gosod gofyniad ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru (“gweithredwyr”) i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodol sy’n ymwneud â’r feirws i deithwyr.

Mae rheoliad 3 yn gosod gofynion ar weithredwyr ar adeg archebu taith a chofrestru ar gyfer taith. Pan fo’r archebu neu’r cofrestru yn digwydd ar lein, mae’r rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr i roi ar gael i deithwyr ddolen i’r tudalennau perthnasol ar wefan gov.uk a gwefan llyw.cymru. Pan fo’r archebu neu’r cofrestru yn digwydd dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, mae’n ofynnol i weithredwyr gyfeirio’r teithiwr at y tudalennau hyn.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr ddarparu’r datganiad gwybodaeth iechyd y cyhoedd yn yr Atodlen i deithwyr tra bônt ar y llestr neu’r awyren.

Mae rheoliad 5 yn darparu eithriad i’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd yn rheoliadau 3 a 4; nid yw’n gymwys pan fo’r person sy’n cael yr wybodaeth yn annhebygol o allu ei deall.

Mae rheoliad 6 yn creu trosedd ddiannod o dorri’r gofyniad i ddarparu’r wybodaeth iechyd y cyhoedd yn rheoliadau 3 a 4. Mae’r drosedd i’w chosbi drwy ddirwy.

Mae rheoliad 6(2) yn darparu amddiffyniad o “esgus rhesymol” i weithredwr a gyhuddir o drosedd o dan reoliad 4 (torri gofyniad i ddarparu gwybodaeth i deithwyr tra bônt ar y llestr neu’r awyren).

Mae rheoliad 7 yn darparu y caniateir gosod cosbau penodedig ar bersonau yr amheuir eu bod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn yn lle eu herlyn. Y gosb yw £4000.

Rhaid adolygu’r angen am y Rheoliadau hyn a’u cymesuredd bob 21 o ddiwrnodau (rheoliad 9).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14).

(2)

1971 p. 77. Mae’r adran honno yn darparu y cyfeirir ar y cyd at y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon fel “the common travel area”.

(4)

Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil yn gorff corfforedig a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Hedfan Sifil 1971 (p. 75).