Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (“Deddf 2020”) yn nodi’r deddfiadau y caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad o dan baragraff 7(1)(a) o’r Atodlen honno, eu datgymhwyso am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

Mae rheoliad 2(2) yn diwygio’r rhestr ym mharagraff 7(5) i ychwanegu rheoliadau 3 a 4 o Reoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009 (O.S. 2009/572 (Cy. 54). Mae’r darpariaethau hyn yn nodi gweithdrefnau y mae rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir eu dilyn er mwyn newid amserau sesiynau ysgolion.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol fel bod unrhyw newid i amserau sesiynau ysgolion a weithredir yn ystod y cyfnod pan fo hysbysiad yn cael effaith yn cael ei wrthdroi ar ôl i’r hysbysiad beidio â chael effaith.

Mae’r tabl ym mharagraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf 2020 yn nodi’r deddfiadau y caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad o dan baragraff 7(1)(b) o’r Atodlen honno, eu haddasu am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad ac yn nodi ym mha fodd y caniateir iddynt gael eu haddasu.

Mae rheoliad 2(3) yn diwygio’r tabl i ychwanegu cofnodion newydd ar gyfer darpariaethau’r Cod Trefniadaeth Ysgolion a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 38 a 39 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“y Cod”) sy’n ymwneud ag ymgynghori ar gynigion trefniadaeth ysgolion, sy’n nodi’r addasiadau y caniateir iddynt gael eu gwneud i’r darpariaethau hynny drwy hysbysiad o dan baragraff 7(1)(b) o Atodlen 17 i Ddeddf 2020.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth drosiannol i addasiad a wneir drwy hysbysiad sy’n ymwneud â’r Cod barhau i gael effaith ar ôl i’r hysbysiad ddod i ben mewn cysylltiad ag ymgynghoriad o dan y Cod sydd ar agor ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.